xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4BYRDDAU GWASANAETHAU CYHOEDDUS

PENNOD 2GWELLA LLESIANT LLEOL

Cynlluniau llesiant lleol

39Cynlluniau llesiant lleol

(1)Rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus baratoi a chyhoeddi cynllun (“cynllun llesiant lleol”) sy’n nodi ei amcanion lleol a’r camau y mae’n bwriadu eu cymryd i’w cyflawni.

(2)Caiff y cynllun gynnwys amcanion—

(a)sydd hefyd yn amcanion llesiant a gyhoeddwyd o dan Ran 2 gan aelod o’r bwrdd;

(b)sydd i’w cyflawni drwy gymryd camau—

(i)gan un neu ragor o aelodau o’r bwrdd, cyfranogwyr gwadd neu bartneriaid eraill sy’n gweithredu’n unigol, neu

(ii)unrhyw gyfuniad o aelodau, cyfranogwyr gwadd neu bartneriaid eraill sy’n gweithredu ar y cyd.

(3)Ond ni chaniateir i gynllun gynnwys amcan sydd i’w gyflawni drwy gamau sydd i’w cymryd gan gyfranogwr gwadd neu bartner arall (pa un ai yn unigol neu ar y cyd mewn unrhyw gyfuniad o aelodau, cyfranogwyr gwadd neu bartneriaid eraill) ond os yw’r bwrdd wedi cael cydsyniad y cyfranogwr gwadd neu’r partner arall hwnnw, yn ôl y digwydd.

(4)Wrth osod ei amcanion llesiant rhaid i fwrdd ystyried adroddiad y Comisiynydd o dan adran 23.

(5)Rhaid i gynllun llesiant lleol gynnwys datganiad—

(a)sy’n egluro pam y mae’r bwrdd yn ystyried y bydd cyflawni’r amcanion lleol yn cyfrannu o fewn yr ardal at gyrraedd y nodau llesiant;

(b)sy’n egluro sut y mae’r amcanion ac unrhyw gamau arfaethedig wedi eu gosod mewn cysylltiad ag unrhyw faterion a grybwyllir yn yr asesiad diweddaraf o lesiant a gyhoeddwyd o dan adran 37;

(c)sy’n pennu’r cyfnodau amser y mae’r bwrdd yn disgwyl cyflawni’r amcanion o fewn iddynt;

(d)sy’n egluro sut y mae unrhyw gamau arfaethedig i’w cymryd yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy;

(e)os yw’r cynllun yn cynnwys amcanion y cyfeirir atynt yn is-adran (2)(b), sy’n pennu’r camau arfaethedig i’w cymryd er mwyn cyflawni’r amcanion hynny ac, yn achos camau i’w cymryd gan gyfuniad o aelodau’r bwrdd, cyfranogwyr gwadd neu bartneriaid eraill, y personau sydd yn y cyfuniad;

(f)os nad y cynllun cyntaf i’r bwrdd ei gyhoeddi yw’r cynllun, sy’n pennu’r camau a gymerwyd i gyflawni’r amcanion a nodir yng nghynllun blaenorol y bwrdd a phennu i ba raddau y mae’r amcanion hynny wedi eu cyflawni;

(g)sy’n darparu unrhyw wybodaeth arall y mae’r bwrdd yn ei hystyried yn briodol.

(6)Rhaid i bob bwrdd gyhoeddi ei gynllun llesiant lleol heb fod yn hwyrach nag un flwyddyn ar ôl y dyddiad y cynhelir yr etholiad arferol nesaf o dan adran 26 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70) ar ôl cychwyn yr adran hon.

(7)Yn dilyn hynny, rhaid i bob bwrdd gyhoeddi cynllun llesiant lleol ymhen dim mwy na blwyddyn ar ôl y dyddiad y cynhelir bob etholiad arferol wedi hynny o dan yr adran honno.

(8)Rhaid i bob bwrdd anfon copi o’i gynllun at—

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)y Comisiynydd;

(c)Archwilydd Cyffredinol Cymru;

(d)pwyllgor trosolwg a chraffu’r awdurdod lleol.

40Cynlluniau llesiant lleol: rôl cynghorau cymuned

(1)Rhaid i gyngor cymuned gymryd pob cam rhesymol yn ei ardal tuag at gyflawni’r amcanion lleol a gynhwysir yn y cynllun llesiant lleol sy’n cael effaith yn ei ardal.

(2)Ond nid yw cyngor cymuned yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan is-adran (1) ond os oedd, ar gyfer y tair blynedd ariannol flaenorol cyn i’r cynllun llesiant lleol ar gyfer ei ardal gael ei gyhoeddi, ei incwm gros neu ei wariant gros yn £200,000 o leiaf.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio’r meini prawf a bennir gan is-adran (2) ar gyfer dyfarnu a yw cyngor cymunedol yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan is-adran (1); a chaiff y rheoliadau adlewyrchu’r ddarpariaeth a wneir am gynghorau cymunedol mewn rheoliadau o dan adran 39 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (p.23).

(4)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (3), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)y Comisiynydd;

(b)y cynghorau cymuned a fyddai’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan is-adran (1) pe bai’r rheoliadau yn cael eu gwneud;

(c)unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol.

(5)Rhaid i gyngor cymuned gyhoeddi, mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol yr oedd yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd yn is-adran (1), adroddiad ar y cynnydd y mae wedi ei wneud yn ei ardal o ran cyflawni’r amcanion lleol sydd yn y cynllun llesiant lleol sydd mewn grym yn ei ardal.

(6)Rhaid i adroddiad a gyhoeddir o dan is-adran (5) gael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo’n ymarferol bosibl ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i’r cynghorau cymuned sy‘n ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan is-adran (1) ynghylch arfer y ddyletswydd.

(8)Wrth arfer y ddyletswydd o dan is-adran (1), rhaid i gyngor cymuned ystyried canllawiau o’r fath.

41Paratoi cynlluniau llesiant lleol: gwybodaeth am weithgarwch eraill

(1)Wrth baratoi ei gynllun llesiant lleol (a chyn ymgynghori o dan adran 43), caiff bwrdd gwasanaethau cyhoeddus ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson a grybwyllir yn is-adran (2) i ddarparu gwybodaeth i’r bwrdd ynghylch unrhyw weithred y mae’n ei chyflawni a allai gyfrannu o fewn ardal y bwrdd at gyrraedd y nodau llesiant.

(2)Y personau yw—

(a)y personau a wahoddir i gyfranogi yng ngweithgarwch y bwrdd, heblaw am Weinidogion Cymru (gweler adran 30);

(b)partneriaid eraill y bwrdd (gweler adran 32).

(3)Ond nid yw’n ofynnol i berson a grybwyllir yn is-adran (2) ddarparu gwybodaeth i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus—

(a)os yw’r person yn ystyried y byddai gwneud hynny—

(i)yn anghydnaws â‘i ddyletswyddau, neu

(ii)fel arall yn cael effaith andwyol ar arfer ei swyddogaethau, neu

(b)os yw’r person wedi ei wahardd rhag ei darparu yn rhinwedd deddfiad neu unrhyw reol gyfreithiol arall.

(4)Pan fo person a grybwyllir yn is-adran (2) yn penderfynu, drwy ddibynnu ar is-adran (3)(a), nad yw’n ofynnol iddo ddarparu gwybodaeth i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus, rhaid iddo roi resymau ysgrifenedig dros y penderfyniad i’r bwrdd.

42Paratoi cynlluniau llesiant lleol: cyngor y Comisiynydd

(1)Wrth baratoi ei gynllun llesiant lleol (a chyn ymgynghori o dan adran 43), rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus geisio cyngor y Comisiynydd o ran sut i gymryd camau i gyflawni’r amcanion lleol i’w cynnwys yn y cynllun yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy.

(2)Rhaid i’r Comisiynydd roi’r cyngor—

(a)yn ysgrifenedig, a

(b)ymhen dim llai na 14 o wythnosau ar ôl ei geisio.

(3)Rhaid i bob bwrdd gyhoeddi cyngor y Comisiynydd yr un pryd ag y mae’n cyhoeddi’r cynllun llesiant lleol.

43Paratoi cynlluniau llesiant lleol: ymgynghori pellach a chymeradwyaeth

(1)Cyn cyhoeddi ei gynllun llesiant lleol, rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus ymgynghori â’r canlynol—

(a)y Comisiynydd (ar ôl cael cyngor gan y Comisiynydd o dan adran 42(2));

(b)ei gyfranogwyr gwadd;

(c)ei bartneriaid eraill;

(d)y cyfryw bersonau na wnaethant dderbyn gwahoddiad a gawsant gan y bwrdd o dan adran 30 ag y mae’r bwrdd yn eu hystyried yn briodol;

(e)pwyllgor trosolwg a chraffu’r awdurdod lleol;

(f)unrhyw fudiad gwirfoddol perthnasol y mae’r bwrdd yn ei ystyried yn briodol;

(g)cynrychiolwyr personau sy’n preswylio yn ei ardal;

(h)cynrychiolwyr personau sy’n cynnal busnes yn ei ardal;

(i)undebau llafur sy’n cynrychioli gweithwyr yn ei ardal;

(j)y personau hynny sydd â diddordeb mewn cynnal a gwella adnoddau naturiol yn ardal y bwrdd y mae’r bwrdd yn eu hystyried yn briodol;

(k)unrhyw bersonau eraill sydd, ym marn y bwrdd, â buddiant mewn gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yr ardal.

(2)Fel rhan o’r ymgynghoriad o dan is-adran (1), rhaid i bob bwrdd ddarparu cynllun llesiant lleol drafft i bob ymgynghorai.

(3)Rhaid i’r ymgynghoriad o dan is-adran (1) beidio â dod i ben hyd nes bod o leiaf 12 wythnos wedi mynd heibio ers y diwrnod y dechreuodd yr ymgynghoriad.

(4)Cyn cyhoeddi ei gynllun llesiant lleol, rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gynnal cyfarfod lle mae pob aelod yn cadarnhau ei fod yn cymeradwyo’r cynllun ar gyfer ei gyhoeddi.

(5)Os yw’r awdurdod lleol yn gweithredu trefniadau gweithredol o dan Ran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22), ni chaiff gweithrediaeth yr awdurdod arfer y swyddogaeth o gymeradwyo’r cynllun llesiant o dan y trefniadau hynny; at hynny nid yw adran 101 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (cyflawni swyddogaethau gan bwyllgorau etc.) yn gymwys i’r swyddogaeth honno.

(6)Yn achos pob Bwrdd Iechyd Lleol, pob awdurdod tân ac achub yng Nghymru a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru, ni cheir arfer y swyddogaeth o gymeradwyo’r cynllun llesiant lleol ond mewn cyfarfod o’r corff o dan sylw.

44Adolygu cynlluniau llesiant lleol

(1)Caiff bwrdd gwasanaethau cyhoeddus—

(a)adolygu a diwygio ei amcanion lleol;

(b)adolygu a diwygio ei gynllun llesiant lleol (a rhaid iddo ddiwygio ei gynllun os yw wedi diwygio ei amcanion lleol).

(2)O ran pob bwrdd—

(a)rhaid iddo adolygu ei amcanion lleol neu ei gynllun llesiant lleol os yw’n cael cyfarwyddyd i wneud hynny gan Weinidogion Cymru, a

(b)caiff ddiwygio ei amcanion neu ddiwygio ei gynllun o ganlyniad i adolygiad o’r fath.

(3)Wrth roi cyfarwyddyd o dan is-adran (2)(a) rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad sy’n cynnwys eu rhesymau am ei roi.

(4)Cyn diwygio ei gynllun, rhaid i bob bwrdd ymgynghori â’r canlynol—

(a)y Comisiynydd;

(b)y personau y soniwyd amdanynt yn adran 43(1).

(5)Rhaid i gynllun diwygiedig gael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(6)Rhaid i fwrdd anfon copi o’i gynllun diwygiedig at y canlynol—

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)y Comisiynydd;

(c)Archwilydd Cyffredinol Cymru;

(d)pwyllgor trosolwg a chraffu yr awdurdod lleol.

45Adroddiadau cynnydd blynyddol

(1)Rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus baratoi a chyhoeddi adroddiad—

(a)ymhen dim mwy na 14 o fisoedd ar ôl cyhoeddi ei gynllun llesiant lleol, a

(b)yn dilyn hynny, ymhen dim mwy na blwyddyn ar ôl cyhoeddi bob adroddiad blaenorol o dan yr adran hon.

(2)Ond nid oes angen adroddiad o dan is-adran (1)(b) os yw cynllun llesiant lleol i’w gyhoeddi yn rhinwedd adran 39(7) (cyhoeddi cynllun llesiant lleol newydd ar ôl etholiad) ymhen dim mwy na blwyddyn ar ôl cyhoeddi’r adroddiad blaenorol o dan yr adran hon.

(3)Rhaid i adroddiad o dan yr adran hon bennu’r camau a gymerwyd ers cyhoeddi cynllun llesiant lleol diweddaraf y bwrdd i gyflawni’r amcanion a nodir yn y cynllun.

(4)Caiff adroddiad o dan yr adran hon gynnwys unrhyw wybodaeth arall y mae’r bwrdd yn ei hystyried yn briodol.

(5)Rhaid i fwrdd anfon copi o bob adroddiad a gyhoeddwyd o dan yr adran hon at y canlynol—

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)y Comisiynydd;

(c)Archwilydd Cyffredinol Cymru;

(d)pwyllgor trosolwg a chraffu yr awdurdod lleol.