xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Sefydlir swydd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru (y cyfeirir ato yn y Ddeddf hon fel y “Comisiynydd”).
(2)Rhaid i’r Comisiynydd fod yn unigolyn a benodir gan Weinidogion Cymru.
(3)Cyn gwneud y penodiad o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Cynulliad Cenedlaethol drwy ei bwyllgor cyfrifol.
(4)Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch y Comisiynydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I2A. 17 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(e)
Dyletswydd gyffredinol y Comisiynydd yw—
(a)hyrwyddo’r egwyddor datblygu cynaliadwy, yn arbennig er mwyn—
(i)gweithredu fel gwarchodwr gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion, a
(ii)annog cyrff cyhoeddus i roi rhagor o ystyriaeth i effaith hirdymor yr hyn a wnânt, a
(b)at y diben hwnnw i fonitro ac asesu cyflawniad yr amcanion llesiant a osodir gan gyrff cyhoeddus.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I4A. 18 mewn grym ar 1.2.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 2