RHAN 3COMISIYNYDD CENEDLAETHAU’R DYFODOL CYMRU
Panel cynghori’r Comisiynydd
26Panel cynghori
(1)
Sefydlir panel o gynghorwyr (y “panel cynghori”) at y diben o ddarparu cyngor i’r Comisiynydd ynghylch arfer swyddogaethau’r Comisiynydd.
(2)
Dyma aelodau’r panel cynghori—
(a)
Comisiynydd Plant Cymru;
(b)
Comisiynydd y Gymraeg;
(c)
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru;
(d)
yr aelod staff o fewn Llywodraeth Cymru a ddynodwyd yn Brif Swyddog Meddygol Cymru gan Weinidogion Cymru;
(e)
cadeirydd Corff Adnoddau Naturiol Cymru neu aelod anweithredol arall o’r corff hwnnw a ddetholir gan y cadeirydd;
(f)
swyddog o’r corff sy’n cynrychioli undebau llafur yng Nghymru a elwir yn Wales TUC Cymru a enwebir gan y corff hwnnw;
(g)
cadeirydd, cyfarwyddwr neu swyddog tebyg y caiff Gweinidogion Cymru ei benodi mewn corff sy’n cynrychioli personau sy’n cynnal busnes yng Nghymru;
(h)
y cyfryw berson arall ag y caiff Gweinidogion Cymru ei benodi.
27Aelodau penodedig
(1)
Cyn penodi aelod o dan adran 26(2)(h) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiynydd.
(2)
Mae aelod penodedig yn dal y swydd am gyfnod o ddim llai na 3 blynedd a dim mwy na 5 mlynedd fel y penderfynir gan Weinidogion Cymru.
(3)
Caniateir ailbenodi aelod penodedig unwaith, am gyfnod pellach o ddim llai na 3 blynedd a dim mwy na 5 mlynedd (pa un a yw’r cyfnod hwn yn gyfnod olynol wedi penodiad cyntaf yr aelod ai peidio).
(4)
Caiff Gweinidogion Cymru roi taliad cydnabyddiaeth i aelodau penodedig.
(5)
Caiff aelod penodedig ymddiswyddo o’r panel drwy roi hysbysiad ysgrifenedig o ddim llai na 3 mis i Weinidogion Cymru o fwriad yr aelod i wneud hynny.
(6)
Caiff Gweinidogion Cymru ar ôl ymgynghori â'r Comisiynydd ddiswyddo aelod penodedig os yw’n fodlon bod yr aelod—
(a)
yn anaddas i barhau i fod yn aelod o’r panel, neu
(b)
yn analluog neu’n anfodlon i weithredu fel aelod.
28Talu treuliau aelodau’r panel
Caiff Gweinidogion Cymru dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a chynhaliaeth) ac arian rhodd i aelodau’r panel cynghori.