Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Amcanion llesiant

7Datganiadau ynghylch amcanion llesiant

(1)Wrth gyhoeddi’r amcanion llesiant (gan gynnwys amcanion llesiant a adolygwyd o dan adran 8 neu 9) rhaid i gorff cyhoeddus hefyd gyhoeddi datganiad sy’n—

(a)egluro pam y mae’r corff yn ystyried y bydd cyflawni’r amcanion yn cyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant;

(b)egluro pam y mae’r corff cyhoeddus yn ystyried ei fod wedi gosod amcanion llesiant yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, gan gynnwys sut y mae’r corff yn bwriadu cynnwys personau eraill sydd â diddordeb mewn cyrraedd y nodau llesiant a sicrhau bod y personau hynny’n adlewyrchu amrywiaeth poblogaeth—

(i)Cymru (pan fo’r corff yn arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru gyfan), neu

(ii)y rhan o Gymru y mae’r corff yn arfer swyddogaethau mewn perthynas â hi;

(c)nodi’r camau y mae’r corff cyhoeddus yn bwriadu eu cymryd i gyflawni’r amcanion hynny yn unol â’r egwyddor (gan gynnwys sut y mae’n bwriadu ei lywodraethu ei hun, sut y bydd yn parhau i adolygu’r camau a sut y mae’n bwriadu sicrhau bod adnoddau’n cael eu dyrannu’n flynyddol at ddiben cymryd camau o’r fath);

(d)pennu’r cyfnodau erbyn pryd y mae’r corff yn disgwyl y bydd yn cyflawni’r amcanion;

(e)darparu unrhyw wybodaeth arall y bydd y corff yn ei hystyried yn briodol ynghylch cymryd y camau a chyflawni’r amcanion.

(2)Caniateir cynnwys amcanion llesiant corff cyhoeddus sydd hefyd yn aelod o fwrdd gwasanaethau cyhoeddus yng nghynllun llesiant lleol y bwrdd hwnnw (gweler Penodau 1 a 2 o Ran 4).

8Amcanion llesiant Gweinidogion Cymru

(1)Rhaid i amcanion llesiant Gweinidogion Cymru gael eu gosod a’u cyhoeddi—

(a)heb fod yn hwyrach na 6 mis ar ôl y dyddiad y cynhelir yr etholiad cyffredinol cyntaf ar ôl cychwyn yr adran hon, a

(b)heb fod yn hwyrach na 6 mis ar ôl dyddiad pob etholiad cyffredinol dilynol.

(2)Rhaid i amcanion llesiant Gweinidogion Cymru gael eu gosod ar gyfer y cyfnod—

(a)sy’n dechrau gyda’r diwrnod a bennir at y diben hwnnw yn y datganiad a gyhoeddir o dan adran 7, a

(b)sy’n dod i ben gyda diwrnod yr etholiad cyffredinol arferol nesaf o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(3)Os yw’r nodau llesiant yn cael eu diwygio, rhaid i Weinidogion Cymru adolygu eu hamcanion llesiant.

(4)Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu, yn dilyn adolygiad o dan is-adran (3), nad yw un neu ragor o’u hamcanion llesiant yn briodol bellach, rhaid iddynt ddiwygio’r amcan neu’r amcanion perthnasol.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg arall, adolygu a diwygio eu hamcanion llesiant.

(6)Rhaid i amcanion llesiant a ddiwygir o dan is-adran (4) neu (5) gael eu gosod ar gyfer gweddill y cyfnod y cyfeirir ato yn is-adran (2).

(7)Pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio eu hamcanion llesiant o dan is-adran (4) neu (5), rhaid iddynt eu cyhoeddi gyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(8)Wrth osod neu ddiwygio eu hamcanion llesiant, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried adroddiad y Comisiynydd a gyhoeddir o dan adran 23.

(9)Yn is-adran (1), ystyr “etholiad cyffredinol” yw—

(a)y bleidlais a gynhelir mewn etholiad cyffredinol arferol o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), neu

(b)y bleidlais a gynhelir mewn etholiad cyffredinol eithriadol o dan adran 5 o’r Ddeddf honno.

9Amcanion llesiant cyrff cyhoeddus eraill

(1)Nid yw cyfeiriadau yn yr adran hon at gorff cyhoeddus yn cynnwys Gweinidogion Cymru.

(2)Rhaid i amcanion llesiant corff cyhoeddus gael eu gosod a’u cyhoeddi—

(a)heb fod yn hwyrach na dechrau’r flwyddyn ariannol sy’n dilyn cychwyn yr adran hon, a

(b)ar ba adegau dilynol bynnag ag y bo’r corff yn eu hystyried yn briodol.

(3)Os yw’r nodau llesiant yn cael eu diwygio, rhaid i gorff cyhoeddus adolygu ei amcanion llesiant.

(4)Os yw corff cyhoeddus yn penderfynu, yn dilyn adolygiad o dan is-adran (3), nad yw un neu ragor o’i amcanion llesiant yn briodol bellach, rhaid iddo ddiwygio’r amcan neu’r amcanion perthnasol.

(5)Caiff corff cyhoeddus, ar unrhyw adeg arall, adolygu a diwygio ei amcanion llesiant.

(6)Pan fo corff cyhoeddus yn diwygio ei amcanion llesiant o dan is-adran (3) neu (4), rhaid iddo eu cyhoeddi gyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol.

(7)Wrth osod neu ddiwygio ei amcanion llesiant, rhaid i gorff cyhoeddus ystyried adroddiad y Comisiynydd o dan adran 23.