Adran 35 – Pwyllgor trosolwg a chraffu awdurdod lleol
128.Mae adran 35 yn ei gwneud yn ofynnol bod pob awdurdod lleol yn sicrhau bod gan ei bwyllgor trosolwg a chraffu y pŵer i gyflawni’r canlynol:
adolygu penderfyniadau a wnaed neu gamau a gymerwyd gan y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus wrth arfer ei swyddogaethau, neu graffu arnynt;
adolygu trefniadau llywodraethu’r bwrdd, neu graffu arnynt;
gwneud adroddiadau neu argymhellion i Weinidogion Cymru;
ystyried pa bynnag faterion yn ymwneud â’r bwrdd a atgyfeirir i’r pwyllgor gan Weinidogion Cymru, ac adrodd wrth Weinidogion Cymru yn unol â hynny; a
chyflawni pa bynnag swyddogaethau eraill a osodir arno gan y Ddeddf.
129.Bydd yr awdurdod lleol yn gwneud hynny drwy’r ’trefniadau gweithrediaeth’ y mae’n ofynnol iddo’u gwneud o dan Ran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000. Trefniadau gweithrediaeth yw trefniadau a wneir gan awdurdod lleol i sefydlu gweithrediaeth, a’i rhoi ar waith, i ymgymryd â’r cyfrifoldeb am swyddogaethau penodol yr awdurdod.
130.Rhaid i’r pwyllgor anfon copi o unrhyw adroddiad neu argymhelliad a wneir ganddo o dan is-adran (1)(c) at Weinidogion Cymru, y Comisiynydd ac Archwilydd Cyffredinol Cymru.
131.Caiff pwyllgor trosolwg a chraffu, wrth ymgymryd â’r swyddogaethau y darperir ar eu cyfer o dan is-adran (1), ei gwneud yn ofynnol i un neu ragor o’r personau a gaiff fod yn bresennol mewn cyfarfod o’r bwrdd gwasanaethau cyhoeddus, neu unrhyw un a ddynodir gan berson o’r fath, fod yn bresennol mewn cyfarfod o’r pwyllgor i esbonio pa bynnag faterion a fynnir gan y pwyllgor.
132.Pan fo gan awdurdod lleol fwy nag un pwyllgor trosolwg a chraffu, rhaid dehongli’r cyfeiriad yn Rhan 4 o’r Ddeddf at ei bwyllgor trosolwg a chraffu fel cyfeiriad at y pwyllgor a ddynodir gan yr awdurdod lleol at ddibenion adran 35.