RHAN 8CYFFREDINOL

55Rheoliadau

(1)

Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)

Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer—

(a)

i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol;

(b)

i wneud darpariaeth gysylltiedig, atodol, ganlyniadol, drosiannol, ddarfodol neu arbed.

(3)

Ni chaniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys (ar ei ben ei hun neu gyda darpariaeth arall) reoliadau o fewn is-adran (4) gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

(4)

Y rheoliadau o fewn yr is-adran hon yw—

(a)

y rheoliadau cyntaf sydd i’w gwneud o dan adran 2(4);

(b)

rheoliadau o dan adran 3(4);

(c)

rheoliadau o dan adran 4(3);

(d)

y rheoliadau cyntaf sydd i’w gwneud o dan adran 5(3);

(e)

rheoliadau o dan adran 6(1);

(f)

rheoliadau o dan adran 7(3);

(g)

rheoliadau o dan adran 13;

(h)

rheoliadau o dan adran 38(2) sy’n diwygio darpariaeth yn y Ddeddf hon;

(i)

rheoliadau o dan adran 58 sy’n diwygio neu’n diddymu darpariaeth mewn—

(i)

Deddf Seneddol, neu

(ii)

Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(5)

Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.