RHAN 7DARPARIAETH ATODOL YNGHYLCH SWYDDOGAETHAU CCAUC

Gwybodaeth arall etc sydd i’w rhoi gan CCAUC

54Gwybodaeth a chyngor arall

(1)

Caiff CCAUC

(a)

adnabod arfer da sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch, a

(b)

rhoi gwybodaeth a chyngor ynghylch yr arfer hwnnw i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig, neu i gyrff llywodraethu sefydliadau rheoleiddiedig yn gyffredinol.

(2)

Wrth arfer ei swyddogaethau, mae corff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig i ystyried unrhyw wybodaeth neu gyngor a roddir gan CCAUC iddo ef, neu i gyrff llywodraethu yn gyffredinol, o dan is-adran (1)(b).

(3)

Caiff CCAUC ddarparu unrhyw wybodaeth a chyngor arall sy’n briodol yn ei farn ef gan roi sylw i’w swyddogaethau a swyddogaethau sefydliadau rheoleiddiedig (ymhlith pethau eraill).

(4)

Caiff yr wybodaeth a’r cyngor hynny (ymhlith pethau eraill) ymwneud â’r canlynol—

(a)

pwerau a dyletswyddau sefydliadau rheoleiddiedig;

(b)

trefnu a rheoli materion ariannol sefydliadau rheoleiddiedig;

(c)

effaith cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad.