RHAN 7DARPARIAETH ATODOL YNGHYLCH SWYDDOGAETHAU CCAUC
Gwybodaeth arall etc sydd i’w rhoi gan CCAUC
52Datganiad mewn cysylltiad â swyddogaethau ymyrryd
(1)
Rhaid i CCAUC lunio a chyhoeddi datganiad sy’n nodi sut y mae’n bwriadu arfer ei swyddogaethau ymyrryd.
(2)
O ran CCAUC—
(a)
rhaid iddo adolygu’r datganiad yn gyson;
(b)
caiff ei ddiwygio.
(3)
Cyn cyhoeddi’r datganiad neu ddatganiad diwygiedig, rhaid i CCAUC ymgynghori â’r canlynol—
(a)
corff llywodraethu pob sefydliad rheoleiddiedig, a
(b)
unrhyw bersonau eraill sy’n briodol yn ei farn ef.
(4)
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—
(a)
llunio’r datganiad (gan gynnwys o ran ei ffurf a’i gynnwys);
(b)
ei gyhoeddi;
(c)
yr ymgynghoriad sydd i’w gynnal o dan is-adran (3).
(5)
Swyddogaethau ymyrryd CCAUC yw ei swyddogaethau o dan y darpariaethau a ganlyn—
(a)
adran 11 (cyfarwyddydau cydymffurfio ac ad-dalu);
(b)
adran 13 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â gofynion cyffredinol cynllun a gymeradwywyd);
(c)
adran 19 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad ag ansawdd annigonol);
(d)
adran 20(1) a (2) (mesurau eraill mewn cysylltiad ag ansawdd annigonol);
(e)
adran 33 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r Cod);
(f)
adran 34(1) a (2) (mesurau eraill mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r Cod);
(g)
adran 37 (gwrthod cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd);
(h)
adrannau 38 a 39 (tynnu cymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad presennol yn ôl).