RHAN 7DARPARIAETH ATODOL YNGHYLCH SWYDDOGAETHAU CCAUC
Adroddiadau sydd i’w llunio gan CCAUC
50Adroddiadau blynyddol
(1)
Cyn gynted â phosibl ar ôl diwedd pob cyfnod adrodd, rhaid i CCAUC gyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru ar sut, yn ystod y cyfnod, y mae CCAUC wedi arfer ei swyddogaethau yn rhinwedd y Ddeddf hon.
(2)
Cyn gynted â phosibl ar ôl cael adroddiad o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o’r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
(3)
Rhaid i’r adroddiad gydymffurfio ag unrhyw ofynion y caiff Gweinidogion Cymru eu pennu drwy gyfarwyddyd i CCAUC.
(4)
Caiff y gofynion hynny gynnwys gofynion o ran ffurf a chynnwys yr adroddiad.
(5)
At ddibenion yr adran hon y cyfnod adrodd cyntaf yw’r cyfnod—
(a)
sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r adran hon i rym, a
(b)
sy’n dod i ben ar ba ddiwrnod bynnag yw’r cynharach o flwyddyn ar ôl y diwrnod hwnnw, a diwrnod a bennir gan CCAUC mewn hysbysiad a roddir i Weinidogion Cymru.
(6)
Y cyfnodau adrodd dilynol yw pob cyfnod olynol o 12 mis.
(7)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy gyfarwyddyd bennu gofynion y mae hysbysiad a roddir fel y’i disgrifir yn is-adran (5) i gydymffurfio â hwy (gan gynnwys o ran ffurf a chynnwys, a’r adeg y mae i’w roi); ac nid yw’r hysbysiad i’w drin fel pe bai wedi ei roi at ddibenion is-adran (5) oni bai ei fod yn cydymffurfio â’r gofynion hynny.