RHAN 7DARPARIAETH ATODOL YNGHYLCH SWYDDOGAETHAU CCAUC
Arfer swyddogaethau gan CCAUC
47Cydnawsedd â chyfraith elusennau a dogfennau llywodraethu sefydliadau
(1)
Nid oes dim byd yn y Ddeddf hon yn rhoi pŵer i CCAUC i’w gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu sefydliad wneud unrhyw beth sy’n anghydnaws—
(a)
ag unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol neu gyfyngiad cyfreithiol sy’n gymwys i’r corff llywodraethu yn rhinwedd bod y sefydliad yn elusen, neu
(b)
â dogfennau llywodraethu’r sefydliad.
(2)
At ddibenion is-adran (1)(b), dogfennau llywodraethu sefydliad yw—
(a)
yn achos sefydliad a sefydlwyd drwy siarter Frenhinol—
(i)
siarter y sefydliad, a
(ii)
unrhyw offeryn sy’n ymwneud â rhedeg y sefydliad, y mae’n ofynnol cael cymeradwyaeth y Cyfrin Gyngor er mwyn gwneud neu ddiwygio’r offeryn hwnnw;
(b)
yn achos sefydliad sy’n cael ei redeg gan gorfforaeth addysg uwch, offeryn llywodraethu’r gorfforaeth ac erthyglau llywodraethu’r sefydliad;
(c)
yn achos sefydliad sy’n cael ei redeg gan gorfforaeth addysg bellach, offeryn llywodraethu’r gorfforaeth a’i herthyglau llywodraethu;
(d)
yn achos sefydliad a ddynodwyd o dan adran 129 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 neu adran 28 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, offeryn llywodraethu’r sefydliad a’i erthyglau llywodraethu;
(e)
yn achos sefydliad nad yw’n dod o fewn paragraffau (a) i (d) sy’n cael ei redeg gan gwmni, memorandwm y cwmni a’i erthyglau cymdeithasu.