RHAN 6HYSBYSIADAU A CHYFARWYDDYDAU A RODDIR GAN CCAUC
Darpariaethau cyffredinol ynghylch cyfarwyddydau a roddir gan CCAUC
45Cyfarwyddydau: cydymffurfio a gorfodi
(1)
Os yw CCAUC yn rhoi cyfarwyddyd i gorff llywodraethu o dan y Ddeddf hon, rhaid i’r corff llywodraethu gydymffurfio â’r cyfarwyddyd.
(2)
Mae’r cyfarwyddyd yn orfodadwy drwy waharddeb yn dilyn cais gan CCAUC.
(3)
Os yw’r corff llywodraethu yn gofyn iddo wneud hynny, rhaid i CCAUC roi hysbysiad i’r corff llywodraethu sy’n datgan a yw wedi ei fodloni ei fod wedi cydymffurfio â’r cyfarwyddyd (neu â gofyniad penodol yn y cyfarwyddyd).