45Cyfarwyddydau: cydymffurfio a gorfodiLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Os yw CCAUC yn rhoi cyfarwyddyd i gorff llywodraethu o dan y Ddeddf hon, rhaid i’r corff llywodraethu gydymffurfio â’r cyfarwyddyd.
(2)Mae’r cyfarwyddyd yn orfodadwy drwy waharddeb yn dilyn cais gan CCAUC.
(3)Os yw’r corff llywodraethu yn gofyn iddo wneud hynny, rhaid i CCAUC roi hysbysiad i’r corff llywodraethu sy’n datgan a yw wedi ei fodloni ei fod wedi cydymffurfio â’r cyfarwyddyd (neu â gofyniad penodol yn y cyfarwyddyd).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 45 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)
I2A. 45 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(l)