RHAN 6HYSBYSIADAU A CHYFARWYDDYDAU A RODDIR GAN CCAUC
Y weithdrefn rhybuddio ac adolygu ar gyfer hysbysiadau a chyfarwyddydau penodol
44Adolygu hysbysiadau a chyfarwyddydau
(1)
Os yw CCAUC yn rhoi i gorff llywodraethu hysbysiad neu gyfarwyddyd y mae’r adran hon yn gymwys iddo, caiff y corff llywodraethu (yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir fel y’i disgrifir yn is-adran (4)(a)) wneud cais am adolygiad o’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd.
(2)
Mae adolygiad i’w gynnal gan berson, neu banel o bersonau, a benodir gan Weinidogion Cymru; a chaiff Gweinidogion Cymru dalu tâl a lwfansau i bersonau a benodir o dan yr is-adran hon.
(3)
Rhaid i Weinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth mewn cysylltiad ag adolygiadau o dan yr adran hon.
(4)
Caiff y rheoliadau, ymhlith pethau eraill, wneud darpariaeth—
(a)
ynghylch y seiliau y caniateir i gais am adolygiad gael ei wneud arnynt;
(b)
ynghylch y cyfnod y caniateir i gais gael ei wneud ynddo a’r ffordd y caniateir gwneud hynny;
(c)
ynghylch y weithdrefn sydd i’w dilyn gan berson neu banel sy’n cynnal adolygiad;
(d)
ynghylch y camau sydd i’w cymryd gan CCAUC yn dilyn adolygiad;
(e)
i hysbysiad neu gyfarwyddyd y mae’r adran hon yn gymwys iddo beidio â chael ei drin fel pe bai wedi ei roi hyd nes bod unrhyw gamau a bennir yn y rheoliadau wedi eu cymryd, neu hyd nes bod unrhyw gyfnod a bennir yn y rheoliadau wedi dod i ben.