xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Os yw CCAUC yn rhoi i gorff llywodraethu hysbysiad neu gyfarwyddyd y mae’r adran hon yn gymwys iddo, rhaid iddo ar yr un pryd roi i’r corff llywodraethu ddatganiad—
(a)sy’n nodi rhesymau CCAUC dros roi’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd,
(b)sy’n hysbysu’r corff llywodraethu y caiff wneud cais am adolygiad o’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd o dan adran 44, ac
(c)sy’n cynnwys unrhyw wybodaeth ragnodedig arall.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Aau. 42-44 cymhwyso (28.3.2016) gan Rheoliadau Addysg Uwch (Cynlluniau Ffioedd a Mynediad) (Hysbysiadau, Gweithdrefn a Chyhoeddi) (Cymru) 2016 (O.S. 2016/223), rhlau. 1(1), 5(a)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 43 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)
I2A. 43(a)(b) mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(k)
I3A. 43(c) mewn grym ar 20.5.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 2(p)
I4A. 43(c) mewn grym ar 1.9.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(k)