RHAN 6HYSBYSIADAU A CHYFARWYDDYDAU A RODDIR GAN CCAUC
Y weithdrefn rhybuddio ac adolygu ar gyfer hysbysiadau a chyfarwyddydau penodol
42Hysbysiadau a chyfarwyddydau arfaethedig: gofyniad i roi hysbysiad rhybuddio
(1)
Os yw CCAUC yn bwriadu rhoi i gorff llywodraethu hysbysiad neu gyfarwyddyd y mae’r adran hon yn gymwys iddo, rhaid i CCAUC roi hysbysiad rhybuddio i’r corff llywodraethu.
(2)
Rhaid i’r hysbysiad rhybuddio—
(a)
nodi’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd arfaethedig;
(b)
datgan rhesymau CCAUC dros fwriadu ei roi;
(c)
hysbysu’r corff llywodraethu y caiff gyflwyno sylwadau am yr hysbysiad neu’r cyfarwyddyd arfaethedig;
(d)
pennu, yn unol ag unrhyw ddarpariaeth a wneir drwy reoliadau, y cyfnod y caniateir i sylwadau gael eu cyflwyno ynddo a’r ffordd y caniateir gwneud hynny.
(3)
Wrth benderfynu pa un ai i roi’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd, rhaid i CCAUC ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y corff llywodraethu yn unol â’r hysbysiad rhybuddio.
(4)
Os yw CCAUC, ar ôl ystyried y sylwadau hynny, yn penderfynu peidio â rhoi’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd, rhaid iddo roi hysbysiad am y penderfyniad hwnnw i’r corff llywodraethu.