RHAN 6HYSBYSIADAU A CHYFARWYDDYDAU A RODDIR GAN CCAUC
Y weithdrefn rhybuddio ac adolygu ar gyfer hysbysiadau a chyfarwyddydau penodol
41Cymhwyso adrannau 42 i 44
(1)
Mae adrannau 42 i 44 yn gymwys i—
(a)
hysbysiad o dan adran 7(1)(b) (gwrthod cynllun ffioedd a mynediad arfaethedig),
(b)
cyfarwyddyd cydymffurfio ac ad-dalu,
(c)
cyfarwyddyd o dan adran 13 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â gofynion cyffredinol cynllun a gymeradwywyd),
(d)
cyfarwyddyd o dan adran 19 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad ag ansawdd annigonol),
(e)
cyfarwyddyd o dan adran 33 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r Cod),
(f)
hysbysiad o dan adran 37 (gwrthod cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd), ac
(g)
hysbysiad o dan adran 39 (tynnu cymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad yn ôl).
(2)
Ond nid yw’r adrannau hynny yn gymwys i gyfarwyddyd nad yw’n darparu ond ar gyfer dirymu cyfarwyddyd cynharach (gweler adran 46).