Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015

4Y cyfnod y mae cynllun yn ymwneud ag efLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i gynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â sefydliad bennu cyfnod y mae i gael effaith mewn cysylltiad ag ef.

(2)Ni chaniateir i’r cyfnod a bennir fod yn hwy na dwy flynedd.

(3)Caiff rheoliadau ddiwygio is-adran (2) i roi cyfnod gwahanol yn lle’r cyfnod a grybwyllir am y tro yn yr is-adran honno.

(4)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (3), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)CCAUC,

(b)corff llywodraethu pob sefydliad rheoleiddiedig, ac

(c)unrhyw bersonau eraill sy’n briodol yn eu barn hwy.

(5)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at y cyfnod y mae cynllun yn ymwneud ag ef yn gyfeiriadau at y cyfnod a bennir ynddo o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I2A. 4(1)(2)(5) mewn grym ar 1.1.2016 gan O.S. 2015/1327, ergl. 6(b)

I3A. 4(3)(4) mewn grym ar 20.5.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 2(c)

I4A. 4(3)(4) mewn grym ar 1.1.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1327, ergl. 6(b)