RHAN 2CYNLLUNIAU FFIOEDD A MYNEDIAD

Cynnwys cynllun ffioedd a mynediad

4Y cyfnod y mae cynllun yn ymwneud ag ef

(1)

Rhaid i gynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â sefydliad bennu cyfnod y mae i gael effaith mewn cysylltiad ag ef.

(2)

Ni chaniateir i’r cyfnod a bennir fod yn hwy na dwy flynedd.

(3)

Caiff rheoliadau ddiwygio is-adran (2) i roi cyfnod gwahanol yn lle’r cyfnod a grybwyllir am y tro yn yr is-adran honno.

(4)

Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (3), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)

CCAUC,

(b)

corff llywodraethu pob sefydliad rheoleiddiedig, ac

(c)

unrhyw bersonau eraill sy’n briodol yn eu barn hwy.

(5)

Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at y cyfnod y mae cynllun yn ymwneud ag ef yn gyfeiriadau at y cyfnod a bennir ynddo o dan yr adran hon.