RHAN 5CYNLLUNIAU FFIOEDD A MYNEDIAD: TYNNU CYMERADWYAETH YN ÔL ETC
Tynnu cymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad presennol yn ôl
39Pŵer i dynnu cymeradwyaeth yn ôl
(1)
Os yw CCAUC wedi ei fodloni bod amod yn is-adran (2) wedi ei ddiwallu mewn cysylltiad â sefydliad rheoleiddiedig, caiff dynnu’n ôl ei gymeradwyaeth i’r cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â’r sefydliad drwy roi hysbysiad o dan yr adran hon i gorff llywodraethu’r sefydliad.
(2)
Yr amodau yw—
(a)
bod corff llywodraethu’r sefydliad wedi methu’n fynych â chydymffurfio ag adran 10(1) (dyletswydd i sicrhau nad yw ffioedd cwrs rheoleiddiedig yn mynd uwchlaw’r terfyn ffioedd cymwys) neu wedi methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd cydymffurfio ac ad-dalu,
(b)
bod y corff llywodraethu wedi methu’n fynych â chydymffurfio â gofynion cyffredinol cynllun y sefydliad a gymeradwywyd neu wedi methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd o dan adran 13 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â gofynion cyffredinol cynllun a gymeradwywyd),
(c)
bod ansawdd yr addysg a ddarperir gan neu ar ran y sefydliad yn ddifrifol o annigonol, neu
(d)
bod methiant difrifol wedi bod gan gorff llywodraethu’r sefydliad i gydymffurfio â’r Cod.
(3)
Nid yw corff llywodraethu i’w drin at ddibenion is-adran (2)(b) fel be bai wedi methu â chydymffurfio â gofyniad cyffredinol mewn cynllun a gymeradwywyd os yw CCAUC wedi ei fodloni bod y corff llywodraethu wedi cymryd pob cam rhesymol i gydymffurfio â’r gofyniad.
(4)
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch y materion sydd i’w hystyried gan CCAUC wrth benderfynu pa un ai i roi hysbysiad o dan yr adran hon.
(5)
Am y ddarpariaeth weithdrefnol ynghylch hysbysiad o dan yr adran hon, gweler adrannau 41 i 44.