Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015

Valid from 01/08/2017

35Rheolaeth ariannol: dyletswydd i gydweithreduLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig sicrhau y darperir i berson sy’n arfer swyddogaeth yn rhinwedd adran 31 neu 34 unrhyw wybodaeth, cymorth a mynediad i gyfleusterau’r sefydliad sy’n ofynnol yn rhesymol gan y person at y diben o arfer y swyddogaeth (gan gynnwys y diben o arfer unrhyw bŵer o dan adran 36).

(2)Os yw CCAUC wedi ei fodloni bod corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio ag is-adran (1), caiff ei gyfarwyddo i gymryd (neu i beidio â chymryd) camau penodedig at y diben o sicrhau’r ddarpariaeth o wybodaeth, cymorth neu fynediad fel y’i disgrifir yn yr is-adran honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 35 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I2A. 35 mewn grym ar 1.8.2017 gan O.S. 2017/239, ergl. 2