Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015

34Mesurau eraill mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r CodLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff CCAUC roi cyngor neu gymorth i’r corff llywodraethu gyda golwg ar wella trefniadaeth neu reolaeth materion ariannol y sefydliad.

(2)Caiff CCAUC gynnal, neu drefnu i berson arall gynnal, adolygiad o unrhyw faterion y mae o’r farn eu bod yn berthnasol i gydymffurfedd y sefydliad â’r Cod.

(3)Rhaid i gorff llywodraethu ystyried unrhyw gyngor a roddir iddo o dan is-adran (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 34 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I2A. 34 mewn grym ar 1.8.2017 gan O.S. 2017/239, ergl. 2