RHAN 2CYNLLUNIAU FFIOEDD A MYNEDIAD

Cais am gymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad

3Dynodi darparwyr addysg uwch eraill

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru, yn dilyn cais gan ddarparwr addysg uwch o fewn is-adran (2), ddynodi’r darparwr at ddibenion yr adran hon.

(2)

Mae darparwr addysg uwch o fewn yr is-adran hon yn ddarparwr—

(a)

sy’n darparu addysg uwch yng Nghymru ac sy’n elusen, ond

(b)

na fyddai (oni bai am y dynodiad) yn cael ei ystyried yn sefydliad at ddibenion y Ddeddf hon.

(3)

Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan is-adran (4)(d), mae darparwr addysg uwch a ddynodir o dan yr adran hon, oni bai bod y dynodiad wedi ei dynnu’n ôl, i’w drin, at ddibenion unrhyw ddarpariaeth a wneir gan neu o dan y Ddeddf hon, fel pe bai’n sefydliad.

(4)

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)

gwneud cais am ddynodiad;

(b)

gwneud dynodiadau o dan yr adran hon (gan gynnwys darpariaeth ynghylch y materion sydd i’w hystyried wrth benderfynu pa un ai i wneud dynodiad);

(c)

tynnu dynodiad yn ôl (gan gynnwys darpariaeth ynghylch y materion sydd i’w hystyried wrth benderfynu pa un ai i dynnu dynodiad yn ôl);

(d)

effaith tynnu dynodiad yn ôl (gan gynnwys darpariaeth i ddarparwr y mae ei ddynodiad wedi ei dynnu’n ôl barhau i gael ei drin fel sefydliad at ddibenion rhagnodedig).