Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015

3Dynodi darparwyr addysg uwch eraillLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, yn dilyn cais gan ddarparwr addysg uwch o fewn is-adran (2), ddynodi’r darparwr at ddibenion yr adran hon.

(2)Mae darparwr addysg uwch o fewn yr is-adran hon yn ddarparwr—

(a)sy’n darparu addysg uwch yng Nghymru ac sy’n elusen, ond

(b)na fyddai (oni bai am y dynodiad) yn cael ei ystyried yn sefydliad at ddibenion y Ddeddf hon.

(3)Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan is-adran (4)(d), mae darparwr addysg uwch a ddynodir o dan yr adran hon, oni bai bod y dynodiad wedi ei dynnu’n ôl, i’w drin, at ddibenion unrhyw ddarpariaeth a wneir gan neu o dan y Ddeddf hon, fel pe bai’n sefydliad.

(4)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)gwneud cais am ddynodiad;

(b)gwneud dynodiadau o dan yr adran hon (gan gynnwys darpariaeth ynghylch y materion sydd i’w hystyried wrth benderfynu pa un ai i wneud dynodiad);

(c)tynnu dynodiad yn ôl (gan gynnwys darpariaeth ynghylch y materion sydd i’w hystyried wrth benderfynu pa un ai i dynnu dynodiad yn ôl);

(d)effaith tynnu dynodiad yn ôl (gan gynnwys darpariaeth i ddarparwr y mae ei ddynodiad wedi ei dynnu’n ôl barhau i gael ei drin fel sefydliad at ddibenion rhagnodedig).

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I2A. 3(1)-(3) mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(a)

I3A. 3(4) mewn grym ar 20.5.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 2(b)

I4A. 3(4) mewn grym ar 1.9.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(a)