RHAN 4MATERION ARIANNOL SEFYDLIADAU RHEOLEIDDIEDIG

Cod rheolaeth ariannol

29Y weithdrefn os na chymeradwyir Cod drafft gan Weinidogion Cymru

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo drafft o’r Cod cyntaf, neu o God diwygiedig, a gyflwynir iddynt o dan adran 28.

(2)

Rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad i CCAUC ynghylch y penderfyniad a’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

(3)

Os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad i CCAUC o dan is-adran (2) eu bod wedi penderfynu peidio â chymeradwyo drafft o’r Cod cyntaf, rhaid i CCAUC gyflwyno drafft pellach o’r Cod cyntaf i Weinidogion Cymru.

(4)

Os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad i CCAUC o dan is-adran (2) eu bod wedi penderfynu peidio â chymeradwyo drafft o God diwygiedig, rhaid i CCAUC naill ai—

(a)

cyflwyno drafft pellach o’r Cod diwygiedig i Weinidogion Cymru, neu

(b)

rhoi hysbysiad i Weinidogion Cymru—

(i)

yn datgan bod CCAUC wedi penderfynu peidio â pharhau â’r gwaith o ddiwygio’r Cod, a

(ii)

yn nodi’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

(5)

Caiff hysbysiad o dan is-adran (2) bennu cyfnod y mae rhaid, cyn diwedd y cyfnod hwnnw, i CCAUC gydymffurfio ag is-adran (3) neu (4) (fel y bo’n briodol).

(6)

Cyn cyflwyno drafft pellach o’r Cod cyntaf neu o God diwygiedig i Weinidogion Cymru, rhaid i CCAUC gynnal unrhyw ymgynghoriad pellach sy’n briodol yn ei farn ef.

(7)

Rhaid i ddrafft pellach a gyflwynir i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon gynnwys gydag ef adroddiad—

(a)

sy’n esbonio sut y mae CCAUC, wrth lunio’r drafft, wedi ystyried y rhesymau a nodwyd yn yr hysbysiad a roddwyd gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (2),

(b)

sy’n nodi rhesymau CCAUC dros delerau’r drafft, ac

(c)

sy’n rhoi manylion unrhyw ymgynghoriad a gynhaliwyd o dan is-adran (6) mewn perthynas â’r drafft ac yn crynhoi’r sylwadau a gafodd CCAUC yn ystod yr ymgynghoriad.

(8)

Mae is-adrannau (2) i (7) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo drafft a gyflwynir iddynt o dan yr adran hon fel y maent yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo drafft a gyflwynir iddynt o dan adran 28.