xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhn. 3 addaswyd (1.9.2015) gan The Higher Education (Wales) Act 2015 (Consequential Provision) Order 2015 (O.S. 2015/1353), erglau. 1(2), 4(1)
(1)Mae’r adran hon yn gymwys—
(a)pan fo cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â sefydliad yn peidio â bod mewn grym, a
(b)pan na fo cynllun ffioedd a mynediad newydd mewn grym mewn perthynas â’r sefydliad.
(2)Mae’r Rhan hon yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas ag addysg a ddarperir gan neu ar ran y sefydliad drwy gwrs dynodedig.
(3)At ddibenion cymhwyso’r Rhan hon yn rhinwedd is-adran (2), mae’r sefydliad i’w drin fel sefydliad rheoleiddiedig.
(4)Mae cwrs dynodedig yn gwrs sydd wedi ei ddynodi at ddibenion adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan yr adran honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)
I2A. 26 mewn grym ar 1.8.2017 gan O.S. 2017/239, ergl. 2