Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015

24Canllawiau ynghylch meini prawf ar gyfer asesu ansawddLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff CCAUC ddyroddi neu gymeradwyo canllawiau ynghylch—

(a)y meini prawf sydd i’w cymhwyso gan berson sy’n arfer swyddogaeth yn rhinwedd adran 17 wrth asesu ansawdd yr addysg;

(b)y materion y bydd CCAUC yn eu hystyried wrth benderfynu a yw ansawdd yr addysg, neu gwrs addysg, yn annigonol neu’n debygol o ddod yn annigonol.

(2)Cyn dyroddi neu gymeradwyo canllawiau o dan yr adran hon (neu unrhyw ganllawiau diwygiedig), rhaid i CCAUC ymgynghori â’r canlynol—

(a)corff llywodraethu pob sefydliad rheoleiddiedig, a

(b)unrhyw bersonau eraill sy’n briodol yn ei farn ef.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I2A. 24 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(h)