RHAN 2CYNLLUNIAU FFIOEDD A MYNEDIAD

Cais am gymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad

2Cais gan sefydliad am gymeradwyaeth CCAUC i gynllun ffioedd a mynediad

(1)

Caiff corff llywodraethu sefydliad o fewn is-adran (3) wneud cais i CCAUC am gymeradwyaeth CCAUC i gynllun ffioedd a mynediad arfaethedig sy’n ymwneud â’r sefydliad.

(2)

Mae cynllun ffioedd a mynediad yn gynllun sy’n cydymffurfio ag adrannau 4 i 6.

(3)

Mae sefydliad o fewn yr is-adran hon yn sefydliad yng Nghymru—

(a)

sy’n darparu addysg uwch, a

(b)

sy’n elusen.

(4)

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch gwneud cais am gymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad.