xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CCYNLLUNIAU FFIOEDD A MYNEDIAD

Cydymffurfio â gofynion cyffredinol cynllun a gymeradwywydLL+C

13Cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â gofynion cyffredinol cynllun a gymeradwywydLL+C

(1)Os yw’r amod yn is-adran (2) neu (3) wedi ei ddiwallu, caiff CCAUC roi cyfarwyddyd o fewn is-adran (4) i gorff llywodraethu sefydliad.

(2)Yr amod yw bod CCAUC wedi ei fodloni—

(a)bod methiant wedi bod gan y corff llywodraethu i gydymffurfio â gofyniad cyffredinol mewn cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â’r sefydliad, a

(b)ar adeg y methiant, fod y cynllun ffioedd a mynediad wedi ei gymeradwyo o dan adran 7.

(3)Yr amod yw bod CCAUC wedi ei fodloni bod y corff llywodraethu yn debygol o fethu â chydymffurfio â gofyniad cyffredinol yng nghynllun y sefydliad a gymeradwywyd.

(4)Mae cyfarwyddyd o fewn yr is-adran hon yn gyfarwyddyd sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r corff llywodraethu gymryd (neu beidio â chymryd) camau penodedig at y diben o ymdrin â’r methiant i gydymffurfio neu atal methiant o’r fath.

(5)Ond ni chaiff CCAUC roi cyfarwyddyd o dan yr adran hon os yw wedi ei fodloni bod y corff llywodraethu wedi cymryd pob cam rhesymol i gydymffurfio â’r gofyniad o dan sylw.

(6)Am y ddarpariaeth weithdrefnol ynghylch cyfarwyddydau o dan yr adran hon, gweler adrannau 41 i 44.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I2A. 13 mewn grym ar 1.8.2017 gan O.S. 2017/239, ergl. 2