RHAN 2CYNLLUNIAU FFIOEDD A MYNEDIAD

Cydymffurfio â’r terfyn ffioedd

12Darpariaeth atodol ynghylch cyfarwyddydau cydymffurfio ac ad-dalu

(1)

Caiff CCAUC ddyroddi canllawiau ynghylch y camau sydd i’w cymryd at y diben o gydymffurfio â chyfarwyddyd cydymffurfio ac ad-dalu.

(2)

Cyn dyroddi canllawiau o dan yr adran hon, rhaid i CCAUC ymgynghori â chorff llywodraethu pob sefydliad rheoleiddiedig; a chaiff ymgynghori â chorff llywodraethu unrhyw sefydliad arall o fewn adran 2(3) sy’n briodol yn ei farn ef.

(3)

Rhaid i gorff llywodraethu y mae cyfarwyddyd cydymffurfio ac ad-dalu wedi ei roi iddo, wrth gydymffurfio â’r cyfarwyddyd, ystyried unrhyw ganllawiau a ddyroddir o dan yr adran hon.

(4)

Am y ddarpariaeth weithdrefnol ynghylch cyfarwyddydau cydymffurfio ac ad-dalu, gweler adrannau 41 i 44.