RHAN 2LL+CCYNLLUNIAU FFIOEDD A MYNEDIAD

Cydymffurfio â’r terfyn ffioeddLL+C

11Cyfarwyddydau cydymffurfio ac ad-daluLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo CCAUC wedi ei fodloni bod corff llywodraethu sefydliad wedi methu â chydymffurfio ag adran 10(1).

(2)Caiff CCAUC gyfarwyddo’r corff llywodraethu i wneud naill ai un o’r canlynol neu’r ddau—

(a)cydymffurfio ag adran 10(1);

(b)ad-dalu’r ffioedd uwchlaw’r terfyn a dalwyd i’r sefydliad.

(3)Caiff cyfarwyddyd o dan yr adran hon (“cyfarwyddyd cydymffurfio ac ad-dalu”) bennu⁠—

(a)y camau sydd i’w cymryd (neu nad ydynt i’w cymryd) gan y corff llywodraethu at y diben o gydymffurfio ag adran 10(1);

(b)y modd y mae ad-dalu’r ffioedd uwchlaw’r terfyn i fod i gael ei roi ar waith, neu y gall gael ei roi ar waith.

(4)Os yw CCAUC yn rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon, rhaid iddo—

(a)rhoi copi o’r cyfarwyddyd i Weinidogion Cymru;

(b)cyhoeddi’r cyfarwyddyd.

(5)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch sut a phryd y mae CCAUC i gydymffurfio ag is-adran (4).

(6)Mae “ffioedd uwchlaw’r terfyn” yn ffioedd cwrs rheoleiddiedig, i’r graddau y mae’r ffioedd hynny yn mynd uwchlaw’r terfyn ffioedd cymwys (fel y’i meintiolir at ddibenion y ddyletswydd o dan adran 10(1) y mae’r corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio â hi).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I2A. 11(1)-(4)(6) mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(c)

I3A. 11(5) mewn grym ar 20.5.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 2(i)

I4A. 11(5) mewn grym ar 1.9.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(c)