RHAN 2CYNLLUNIAU FFIOEDD A MYNEDIAD
Cydymffurfio â’r terfyn ffioedd
10Terfynau ar ffioedd myfyrwyr
(1)
Rhaid i gorff llywodraethu sefydliad o fewn is-adran (2) sicrhau nad yw ffioedd cwrs rheoleiddiedig yn mynd uwchlaw’r terfyn ffioedd cymwys.
(2)
Mae sefydliad yn dod o fewn yr is-adran hon os yw cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud ag ef wedi ei gymeradwyo o dan adran 7 (pa un a yw’r cynllun hwnnw mewn grym o hyd ai peidio).
(3)
“Ffioedd cwrs rheoleiddiedig” yw’r ffioedd sy’n daladwy i’r sefydliad gan berson cymhwysol—
(a)
mewn cysylltiad â’r person yn ymgymryd â chwrs cymhwysol, a
(b)
mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd sy’n gymwys i’r cwrs hwnnw, pan fo’r flwyddyn honno yn dechrau ar adeg o fewn y cyfnod a bennir o dan adran 4 yng nghynllun ffioedd a mynediad diweddaraf y sefydliad (pa un a yw’r cynllun hwnnw mewn grym o hyd ai peidio).
(4)
Cynllun ffioedd a mynediad diweddaraf y sefydliad yw’r cynllun ffioedd a mynediad a gymeradwywyd yn fwyaf diweddar o dan adran 7 mewn perthynas â’r sefydliad.
(5)
Y terfyn ffioedd cymwys yw—
(a)
mewn achos pan fo cynllun ffioedd a mynediad diweddaraf y sefydliad yn pennu terfyn ffioedd ar gyfer y cwrs a’r flwyddyn o dan sylw, y terfyn hwnnw;
(b)
mewn achos pan fo cynllun ffioedd a mynediad diweddaraf y sefydliad yn darparu ar gyfer penderfynu ar derfyn ffioedd ar gyfer y cwrs a’r flwyddyn o dan sylw, y terfyn hwnnw fel y penderfynir arno yn unol â’r cynllun.