Search Legislation

Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015, RHAN 2 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 19 Ebrill 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to the whole Act associated Parts and Chapters:

RHAN 2LL+CDARPARIAETH DROSIANNOL

Cynlluniau a gymeradwywyd o dan Ddeddf Addysg Uwch 2004LL+C

27Mae paragraff 28 yn gymwys i’r graddau y mae cynllun o dan Ddeddf 2004 yn pennu terfyn nad yw’r ffioedd sy’n daladwy gan berson sy’n berson cymhwysol i fynd uwch ei law, neu’n darparu ar gyfer penderfynu ar y terfyn hwnnw—

(a)mewn cysylltiad â’r person yn ymgymryd â chwrs sy’n gwrs cymhwysol, a

(b)mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd sy’n gymwys i’r cwrs ac sy’n dechrau yn ystod y cyfnod trosiannol (“blwyddyn academaidd drosiannol”).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. para. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I2Atod. para. 27 mewn grym ar 1.8.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 4(b)(i)

28LL+CMae’r cynllun i’w drin yn ystod y cyfnod trosiannol fel pe bai’n gynllun ffioedd a mynediad sydd wedi ei gymeradwyo o dan adran 7, at ddibenion—

(a)adran 4(4)(b);

(b)adrannau 10 i 12, 14, 15(1)(a) ac 16;

(c)adrannau 17 i 23;

(d)adran 24(2)(a);

(e)adran 28(2);

(f)adrannau 51(1)(e), 52(3) a 54(1);

(g)unrhyw ddeddfiad arall, pryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir, a bennir mewn rheoliadau (“deddfiad cymwysedig”).

Ond mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan baragraff 30.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. para. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I4Atod. para. 28(g) mewn grym ar 20.5.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 2(t)(i)

I5Atod. para. 28 (a)-(f) mewn grym ar 1.8.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 4(b)(ii)

29(1)At y diben hwn—LL+C

(a)mae’r cynllun i’w drin fel pe bai wedi ei gymeradwyo o dan adran 7 ar y diwrnod y daw’r paragraff hwn i rym;

(b)mae’r cyfnod, sef y cyfnod trosiannol (gweler is-baragraff (2)), i’w drin fel y cyfnod a bennir yn y cynllun o dan adran 4;

(c)mae’r terfyn a ddarperir gan y cynllun ar gyfer cwrs a blwyddyn academaidd drosiannol i’w drin fel y terfyn ffioedd cymwys ar gyfer y cwrs a’r flwyddyn academaidd o dan sylw;

(d)mae’r sefydliad y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef i’w drin fel pe bai’n sefydliad rheoleiddiedig.

(2)Y cyfnod trosiannol yw’r cyfnod sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r paragraff hwn i rym ac sy’n dod i ben ar 31 Awst 2017.

(3)Mae “cynllun o dan Ddeddf 2004” yn gynllun a gymeradwywyd o ran Cymru, o dan adran 34 o Ddeddf Addysg Uwch 2004, cyn i’r paragraff hwn ddod i rym.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. para. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I7Atod. para. 29 mewn grym ar 1.8.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 4(b)(iii)

30(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch cymhwyso darpariaeth y cyfeirir ati ym mharagraff 28(a) i (f), neu ddeddfiad cymwysedig, i gynllun o dan Ddeddf 2004 yn ystod y cyfnod trosiannol.LL+C

(2)Caiff y rheoliadau (ymhlith pethau eraill) ddarparu’r canlynol o ran darpariaeth neu ddeddfiad cymwysedig—

(a)nid yw i fod yn gymwys i gynllun o dan Ddeddf 2004 yn ystod y cyfnod trosiannol, neu

(b)mae i fod yn gymwys gydag addasiadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. para. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I9Atod. para. 30 mewn grym ar 20.5.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 2(t)(ii)

Aelodau’r Pwyllgor Asesu AnsawddLL+C

31(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i berson sydd, yn union cyn i adran 25 ddod i rym, yn aelod o’r Pwyllgor Asesu Ansawdd a sefydlwyd gan CCAUC o dan adran 70(1)(b) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (“yr hen bwyllgor”).

(2)Pan ddaw adran 25 i rym, daw’r person yn aelod o’r pwyllgor a sefydlir gan CCAUC o dan yr adran honno (“y pwyllgor newydd”).

(3)Mae aelodaeth y person o’r pwyllgor newydd—

(a)ar yr un telerau â phenodiad y person i’r hen bwyllgor, a

(b)am gyfnod sy’n gyfatebol i gyfnod y penodiad hwnnw sy’n parhau i fod pan ddaw adran 25 i rym.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. para. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I11Atod. para. 31 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(u)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources