Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015

Aelodau’r Pwyllgor Asesu AnsawddLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

31(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i berson sydd, yn union cyn i adran 25 ddod i rym, yn aelod o’r Pwyllgor Asesu Ansawdd a sefydlwyd gan CCAUC o dan adran 70(1)(b) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (“yr hen bwyllgor”).

(2)Pan ddaw adran 25 i rym, daw’r person yn aelod o’r pwyllgor a sefydlir gan CCAUC o dan yr adran honno (“y pwyllgor newydd”).

(3)Mae aelodaeth y person o’r pwyllgor newydd—

(a)ar yr un telerau â phenodiad y person i’r hen bwyllgor, a

(b)am gyfnod sy’n gyfatebol i gyfnod y penodiad hwnnw sy’n parhau i fod pan ddaw adran 25 i rym.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. para. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I2Atod. para. 31 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(u)