ATODLENDARPARIAETH GANLYNIADOL A THROSIANNOL ETC

RHAN 2DARPARIAETH DROSIANNOL

Aelodau’r Pwyllgor Asesu Ansawdd

31

(1)

Mae’r paragraff hwn yn gymwys i berson sydd, yn union cyn i adran 25 ddod i rym, yn aelod o’r Pwyllgor Asesu Ansawdd a sefydlwyd gan CCAUC o dan adran 70(1)(b) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (“yr hen bwyllgor”).

(2)

Pan ddaw adran 25 i rym, daw’r person yn aelod o’r pwyllgor a sefydlir gan CCAUC o dan yr adran honno (“y pwyllgor newydd”).

(3)

Mae aelodaeth y person o’r pwyllgor newydd—

(a)

ar yr un telerau â phenodiad y person i’r hen bwyllgor, a

(b)

am gyfnod sy’n gyfatebol i gyfnod y penodiad hwnnw sy’n parhau i fod pan ddaw adran 25 i rym.