xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 7LL+CDARPARIAETH ATODOL YNGHYLCH SWYDDOGAETHAU CCAUC

Arfer swyddogaethau gan CCAUCLL+C

47Cydnawsedd â chyfraith elusennau a dogfennau llywodraethu sefydliadauLL+C

(1)Nid oes dim byd yn y Ddeddf hon yn rhoi pŵer i CCAUC i’w gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu sefydliad wneud unrhyw beth sy’n anghydnaws—

(a)ag unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol neu gyfyngiad cyfreithiol sy’n gymwys i’r corff llywodraethu yn rhinwedd bod y sefydliad yn elusen, neu

(b)â dogfennau llywodraethu’r sefydliad.

(2)At ddibenion is-adran (1)(b), dogfennau llywodraethu sefydliad yw—

(a)yn achos sefydliad a sefydlwyd drwy siarter Frenhinol—

(i)siarter y sefydliad, a

(ii)unrhyw offeryn sy’n ymwneud â rhedeg y sefydliad, y mae’n ofynnol cael cymeradwyaeth y Cyfrin Gyngor er mwyn gwneud neu ddiwygio’r offeryn hwnnw;

(b)yn achos sefydliad sy’n cael ei redeg gan gorfforaeth addysg uwch, offeryn llywodraethu’r gorfforaeth ac erthyglau llywodraethu’r sefydliad;

(c)yn achos sefydliad sy’n cael ei redeg gan gorfforaeth addysg bellach, offeryn llywodraethu’r gorfforaeth a’i herthyglau llywodraethu;

(d)yn achos sefydliad a ddynodwyd o dan adran 129 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 neu adran 28 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, offeryn llywodraethu’r sefydliad a’i erthyglau llywodraethu;

(e)yn achos sefydliad nad yw’n dod o fewn paragraffau (a) i (d) sy’n cael ei redeg gan gwmni, memorandwm y cwmni a’i erthyglau cymdeithasu.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 47 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I2A. 47 mewn grym ar 25.5.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 3(e)

48Dyletswydd i ystyried pwysigrwydd diogelu rhyddid academaiddLL+C

Wrth arfer swyddogaethau yn rhinwedd y Ddeddf hon, rhaid i CCAUC ystyried pwysigrwydd diogelu rhyddid academaidd gan gynnwys, yn benodol, rhyddid sefydliadau—

(a)i benderfynu ar gynnwys cyrsiau penodol a’r dull o’u haddysgu, eu goruchwylio neu eu hasesu,

(b)i benderfynu ar y meini prawf ar gyfer derbyn myfyrwyr ac i gymhwyso’r meini prawf hynny mewn achosion penodol, ac

(c)i benderfynu ar y meini prawf ar gyfer dethol a phenodi staff academaidd ac i gymhwyso’r meini prawf hynny mewn achosion penodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 48 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I4A. 48 mewn grym ar 25.5.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 3(e)

F149Dyletswydd i ystyried canllawiau Gweinidogion CymruLL+C

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

F1Deddf wedi ei diddymu (1.8.2024 ar gyfer diddymu aau. 25, 49, 50(5)-(7), 51, 53, Atod. Pt. 1 parau. 2, 5, 7-26, Atod. Pt. 2) gan Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (asc 1), a. 148(2), Atod. 4 para. 31 (ynghyd ag a. 19); O.S. 2024/806, ergl. 3(c)(iv) (ynghyd ag erglau. 28-42)

Adroddiadau sydd i’w llunio gan CCAUCLL+C

50Adroddiadau blynyddolLL+C

(1)Cyn gynted â phosibl ar ôl diwedd pob cyfnod adrodd, rhaid i CCAUC gyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru ar sut, yn ystod y cyfnod, y mae CCAUC wedi arfer ei swyddogaethau yn rhinwedd y Ddeddf hon.

(2)Cyn gynted â phosibl ar ôl cael adroddiad o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o’r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(3)Rhaid i’r adroddiad gydymffurfio ag unrhyw ofynion y caiff Gweinidogion Cymru eu pennu drwy gyfarwyddyd i CCAUC.

(4)Caiff y gofynion hynny gynnwys gofynion o ran ffurf a chynnwys yr adroddiad.

F1(5). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F1(6). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F1(7). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

F1Deddf wedi ei diddymu (1.8.2024 ar gyfer diddymu aau. 25, 49, 50(5)-(7), 51, 53, Atod. Pt. 1 parau. 2, 5, 7-26, Atod. Pt. 2) gan Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (asc 1), a. 148(2), Atod. 4 para. 31 (ynghyd ag a. 19); O.S. 2024/806, ergl. 3(c)(iv) (ynghyd ag erglau. 28-42)

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 50 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I6A. 50 mewn grym ar 1.8.2017 gan O.S. 2017/239, ergl. 2

F151Adroddiadau arbennigLL+C

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

F1Deddf wedi ei diddymu (1.8.2024 ar gyfer diddymu aau. 25, 49, 50(5)-(7), 51, 53, Atod. Pt. 1 parau. 2, 5, 7-26, Atod. Pt. 2) gan Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (asc 1), a. 148(2), Atod. 4 para. 31 (ynghyd ag a. 19); O.S. 2024/806, ergl. 3(c)(iv) (ynghyd ag erglau. 28-42)

Gwybodaeth arall etc sydd i’w rhoi gan CCAUCLL+C

52Datganiad mewn cysylltiad â swyddogaethau ymyrrydLL+C

(1)Rhaid i CCAUC lunio a chyhoeddi datganiad sy’n nodi sut y mae’n bwriadu arfer ei swyddogaethau ymyrryd.

(2)O ran CCAUC—

(a)rhaid iddo adolygu’r datganiad yn gyson;

(b)caiff ei ddiwygio.

(3)Cyn cyhoeddi’r datganiad neu ddatganiad diwygiedig, rhaid i CCAUC ymgynghori â’r canlynol—

(a)corff llywodraethu pob sefydliad rheoleiddiedig, a

(b)unrhyw bersonau eraill sy’n briodol yn ei farn ef.

(4)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)llunio’r datganiad (gan gynnwys o ran ei ffurf a’i gynnwys);

(b)ei gyhoeddi;

(c)yr ymgynghoriad sydd i’w gynnal o dan is-adran (3).

(5)Swyddogaethau ymyrryd CCAUC yw ei swyddogaethau o dan y darpariaethau a ganlyn⁠—

(a)adran 11 (cyfarwyddydau cydymffurfio ac ad-dalu);

(b)adran 13 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â gofynion cyffredinol cynllun a gymeradwywyd);

(c)adran 19 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad ag ansawdd annigonol);

(d)adran 20(1) a (2) (mesurau eraill mewn cysylltiad ag ansawdd annigonol);

(e)adran 33 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r Cod);

(f)adran 34(1) a (2) (mesurau eraill mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r Cod);

(g)adran 37 (gwrthod cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd);

(h)adrannau 38 a 39 (tynnu cymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad presennol yn ôl).

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 52 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I8A. 52(1) mewn grym ar 25.5.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 3(g)

I9A. 52(1) mewn grym ar 1.9.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(n)

I10A. 52(1) mewn grym ar 3.2.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2016/110, ergl. 2(b)

I11A. 52(2)(3) mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(o)

I12A. 52(4) mewn grym ar 20.5.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 2(r)

I13A. 52(5) mewn grym ar 25.5.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 3(h)

F153Gwybodaeth a chyngor sydd i’w rhoi gan CCAUC i Weinidogion CymruLL+C

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

F1Deddf wedi ei diddymu (1.8.2024 ar gyfer diddymu aau. 25, 49, 50(5)-(7), 51, 53, Atod. Pt. 1 parau. 2, 5, 7-26, Atod. Pt. 2) gan Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (asc 1), a. 148(2), Atod. 4 para. 31 (ynghyd ag a. 19); O.S. 2024/806, ergl. 3(c)(iv) (ynghyd ag erglau. 28-42)

54Gwybodaeth a chyngor arallLL+C

(1)Caiff CCAUC—

(a)adnabod arfer da sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch, a

(b)rhoi gwybodaeth a chyngor ynghylch yr arfer hwnnw i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig, neu i gyrff llywodraethu sefydliadau rheoleiddiedig yn gyffredinol.

(2)Wrth arfer ei swyddogaethau, mae corff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig i ystyried unrhyw wybodaeth neu gyngor a roddir gan CCAUC iddo ef, neu i gyrff llywodraethu yn gyffredinol, o dan is-adran (1)(b).

(3)Caiff CCAUC ddarparu unrhyw wybodaeth a chyngor arall sy’n briodol yn ei farn ef gan roi sylw i’w swyddogaethau a swyddogaethau sefydliadau rheoleiddiedig (ymhlith pethau eraill).

(4)Caiff yr wybodaeth a’r cyngor hynny (ymhlith pethau eraill) ymwneud â’r canlynol—

(a)pwerau a dyletswyddau sefydliadau rheoleiddiedig;

(b)trefnu a rheoli materion ariannol sefydliadau rheoleiddiedig;

(c)effaith cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad.

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 54 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I15A. 54(2) mewn grym ar 1.8.2017 gan O.S. 2017/239, ergl. 2

I16A. 54(1) mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(q)

I17A. 54(3)(4) mewn grym ar 25.5.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 3(i)