xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5LL+CCYNLLUNIAU FFIOEDD A MYNEDIAD: TYNNU CYMERADWYAETH YN ÔL ETC

Tynnu cymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad presennol yn ôlLL+C

38Dyletswydd i dynnu cymeradwyaeth yn ôlLL+C

(1)Os yw CCAUC wedi ei fodloni nad yw sefydliad rheoleiddiedig bellach o fewn adran 2(3), rhaid iddo dynnu’n ôl ei gymeradwyaeth i’r cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â’r sefydliad drwy roi hysbysiad o dan yr adran hon i gorff llywodraethu’r sefydliad.

(2)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)y materion sydd i’w hystyried gan CCAUC wrth wneud penderfyniad at ddibenion yr adran hon;

(b)y weithdrefn sydd i’w dilyn mewn cysylltiad â rhoi hysbysiad o dan yr adran hon.

(3)Caiff rheoliadau sy’n gwneud darpariaeth fel y’i disgrifir yn is-adran (2)(b) (ymhlith pethau eraill) ddiwygio neu gymhwyso, gydag addasiadau neu hebddynt, unrhyw ddarpariaeth a wneir gan neu o dan adrannau 41 i 44.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 38 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I2A. 38(2) mewn grym ar 20.5.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 2(l)

39Pŵer i dynnu cymeradwyaeth yn ôlLL+C

(1)Os yw CCAUC wedi ei fodloni bod amod yn is-adran (2) wedi ei ddiwallu mewn cysylltiad â sefydliad rheoleiddiedig, caiff dynnu’n ôl ei gymeradwyaeth i’r cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â’r sefydliad drwy roi hysbysiad o dan yr adran hon i gorff llywodraethu’r sefydliad.

(2)Yr amodau yw—

(a)bod corff llywodraethu’r sefydliad wedi methu’n fynych â chydymffurfio ag adran 10(1) (dyletswydd i sicrhau nad yw ffioedd cwrs rheoleiddiedig yn mynd uwchlaw’r terfyn ffioedd cymwys) neu wedi methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd cydymffurfio ac ad-dalu,

(b)bod y corff llywodraethu wedi methu’n fynych â chydymffurfio â gofynion cyffredinol cynllun y sefydliad a gymeradwywyd neu wedi methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd o dan adran 13 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â gofynion cyffredinol cynllun a gymeradwywyd),

(c)bod ansawdd yr addysg a ddarperir gan neu ar ran y sefydliad yn ddifrifol o annigonol, neu

(d)bod methiant difrifol wedi bod gan gorff llywodraethu’r sefydliad i gydymffurfio â’r Cod.

(3)Nid yw corff llywodraethu i’w drin at ddibenion is-adran (2)(b) fel be bai wedi methu â chydymffurfio â gofyniad cyffredinol mewn cynllun a gymeradwywyd os yw CCAUC wedi ei fodloni bod y corff llywodraethu wedi cymryd pob cam rhesymol i gydymffurfio â’r gofyniad.

(4)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch y materion sydd i’w hystyried gan CCAUC wrth benderfynu pa un ai i roi hysbysiad o dan yr adran hon.

(5)Am y ddarpariaeth weithdrefnol ynghylch hysbysiad o dan yr adran hon, gweler adrannau 41 i 44.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 39 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I4A. 39(4) mewn grym ar 20.5.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 2(m)