RHAN 5CYNLLUNIAU FFIOEDD A MYNEDIAD: TYNNU CYMERADWYAETH YN ÔL ETC
Gwrthod cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd
I137Hysbysiad ynghylch gwrthod cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd
1
Os yw CCAUC wedi ei fodloni bod amod yn is-adran (3) wedi ei ddiwallu mewn cysylltiad â sefydliad rheoleiddiedig, caiff roi hysbysiad o dan yr adran hon i gorff llywodraethu’r sefydliad.
2
Mae hysbysiad o dan yr adran hon yn hysbysiad na fydd CCAUC yn cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd sy’n ymwneud â’r sefydliad cyn diwedd cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.
3
Yr amodau yw bod corff llywodraethu’r sefydliad wedi methu â chydymffurfio—
a
ag adran 10(1) (dyletswydd i sicrhau nad yw ffioedd cwrs rheoleiddiedig yn mynd uwchlaw’r terfyn ffioedd cymwys),
b
â gofyniad cyffredinol yng nghynllun y sefydliad a gymeradwywyd,
c
cyfarwyddyd o dan adran 13 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â gofynion cyffredinol cynllun a gymeradwywyd),
d
â chyfarwyddyd o dan adran 19 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad ag ansawdd annigonol), neu
e
â chyfarwyddyd o dan adran 33 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r Cod).
4
Nid yw corff llywodraethu i’w drin at ddibenion is-adran (3)(b) fel pe bai wedi methu â chydymffurfio â gofyniad cyffredinol mewn cynllun a gymeradwywyd os yw CCAUC wedi ei fodloni bod y corff llywodraethu wedi cymryd pob cam rhesymol i gydymffurfio â’r gofyniad.
5
Os yw CCAUC yn rhoi hysbysiad o dan yr adran hon i gorff llywodraethu sefydliad, ni chaiff CCAUC gymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad arfaethedig sy’n ymwneud â’r sefydliad cyn diwedd y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.
6
Pan fo CCAUC wedi rhoi hysbysiad o dan yr adran hon—
a
caiff dynnu’r hysbysiad yn ôl, a
b
os gwna hynny, mae’r cyfyngiad yn is-adran (5) yn peidio â bod yn gymwys.
I57
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—
a
y cyfnod y caniateir ei bennu mewn hysbysiad o dan yr adran hon;
b
y materion sydd i’w hystyried gan CCAUC wrth benderfynu pa un ai i roi hysbysiad o dan yr adran hon neu ei dynnu’n ôl;
c
y weithdrefn sydd i’w dilyn mewn cysylltiad â thynnu hysbysiad yn ôl.
8
Os yw corff llywodraethu sefydliad nad yw’n sefydliad rheoleiddiedig yn methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd o dan adran 13, mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â’r sefydliad hwnnw fel y mae’n gymwys mewn perthynas â sefydliad rheoleiddiedig.
9
Am y ddarpariaeth weithdrefnol ynghylch hysbysiad o dan yr adran hon, gweler adrannau 41 i 44.
Tynnu cymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad presennol yn ôl
I238Dyletswydd i dynnu cymeradwyaeth yn ôl
I101
Os yw CCAUC wedi ei fodloni nad yw sefydliad rheoleiddiedig bellach o fewn adran 2(3), rhaid iddo dynnu’n ôl ei gymeradwyaeth i’r cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â’r sefydliad drwy roi hysbysiad o dan yr adran hon i gorff llywodraethu’r sefydliad.
I62
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—
a
y materion sydd i’w hystyried gan CCAUC wrth wneud penderfyniad at ddibenion yr adran hon;
b
y weithdrefn sydd i’w dilyn mewn cysylltiad â rhoi hysbysiad o dan yr adran hon.
I93
Caiff rheoliadau sy’n gwneud darpariaeth fel y’i disgrifir yn is-adran (2)(b) (ymhlith pethau eraill) ddiwygio neu gymhwyso, gydag addasiadau neu hebddynt, unrhyw ddarpariaeth a wneir gan neu o dan adrannau 41 i 44.
I339Pŵer i dynnu cymeradwyaeth yn ôl
1
Os yw CCAUC wedi ei fodloni bod amod yn is-adran (2) wedi ei ddiwallu mewn cysylltiad â sefydliad rheoleiddiedig, caiff dynnu’n ôl ei gymeradwyaeth i’r cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â’r sefydliad drwy roi hysbysiad o dan yr adran hon i gorff llywodraethu’r sefydliad.
2
Yr amodau yw—
a
bod corff llywodraethu’r sefydliad wedi methu’n fynych â chydymffurfio ag adran 10(1) (dyletswydd i sicrhau nad yw ffioedd cwrs rheoleiddiedig yn mynd uwchlaw’r terfyn ffioedd cymwys) neu wedi methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd cydymffurfio ac ad-dalu,
b
bod y corff llywodraethu wedi methu’n fynych â chydymffurfio â gofynion cyffredinol cynllun y sefydliad a gymeradwywyd neu wedi methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd o dan adran 13 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â gofynion cyffredinol cynllun a gymeradwywyd),
c
bod ansawdd yr addysg a ddarperir gan neu ar ran y sefydliad yn ddifrifol o annigonol, neu
d
bod methiant difrifol wedi bod gan gorff llywodraethu’r sefydliad i gydymffurfio â’r Cod.
3
Nid yw corff llywodraethu i’w drin at ddibenion is-adran (2)(b) fel be bai wedi methu â chydymffurfio â gofyniad cyffredinol mewn cynllun a gymeradwywyd os yw CCAUC wedi ei fodloni bod y corff llywodraethu wedi cymryd pob cam rhesymol i gydymffurfio â’r gofyniad.
I74
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch y materion sydd i’w hystyried gan CCAUC wrth benderfynu pa un ai i roi hysbysiad o dan yr adran hon.
5
Am y ddarpariaeth weithdrefnol ynghylch hysbysiad o dan yr adran hon, gweler adrannau 41 i 44.
Cyhoeddi etc hysbysiad o dan y Rhan hon
I440Cyhoeddi etc hysbysiad o dan y Rhan hon
I121
Os yw CCAUC yn rhoi hysbysiad o dan adran 37, 38 neu 39, rhaid iddo—
a
rhoi copi o’r hysbysiad i Weinidogion Cymru, a
b
cyhoeddi’r hysbysiad.
I8I112
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch sut a phryd y mae CCAUC i gydymffurfio ag is-adran (1).