- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015, RHAN 3 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 19 Ebrill 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhn. 3 addaswyd (1.9.2015) gan The Higher Education (Wales) Act 2015 (Consequential Provision) Order 2015 (O.S. 2015/1353), erglau. 1(2), 4(1)
(1)Rhaid i CCAUC asesu, neu wneud trefniadau ar gyfer asesu, ansawdd yr addysg a ddarperir yng Nghymru—
(a)gan bob sefydliad rheoleiddiedig;
(b)ar ran pob sefydliad rheoleiddiedig (pa un ai gan sefydliad rheoleiddiedig arall neu gan ddarparwr allanol).
(2)At ddibenion is-adran (1), mae addysg a ddarperir y tu allan i Gymru i’w thrin fel pe bai wedi ei darparu yng Nghymru os y’i darperir fel rhan o gwrs a ddarperir yn bennaf yng Nghymru.
(3)Yn y Ddeddf hon, mae cyfeiriadau at ddarparwr allanol yn gyfeiriadau at berson—
(a)nad yw’n sefydliad rheoleiddiedig, ond
(b)sy’n gyfrifol am ddarparu cwrs addysg cyfan, neu ran ohono, ar ran sefydliad rheoleiddiedig.
(4)At ddibenion is-adran (3)(b)—
(a)caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch yr amgylchiadau pan fo person i’w drin (neu nad yw i’w drin) fel person sy’n gyfrifol am ddarparu cwrs (neu ran ohono);
(b)nid yw cwrs (neu ran ohono) i’w drin fel cwrs a ddarperir ar ran sefydliad rheoleiddiedig os y’i darperir o dan drefniadau gyda’r sefydliad hwnnw a wnaed cyn i’r adran hon ddod i rym.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C2A. 17(1) addaswyd (31.7.2015) gan Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015 (O.S. 2015/1484), rhlau. 1(1), 5(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)
I2A. 17 mewn grym ar 1.9.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(g)
I3A. 17(4)(a) mewn grym ar 20.5.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 2(j)
(1)Mae adrannau 19 ac 20 yn gymwys os, o ganlyniad i arfer ei swyddogaethau o dan adran 17, mae CCAUC wedi ei fodloni—
(a)bod ansawdd yr addysg a ddarperir gan neu ar ran sefydliad rheoleiddiedig, neu
(b)bod ansawdd cwrs addysg penodol a ddarperir felly,
yn annigonol neu’n debygol o ddod yn annigonol.
(2)At ddibenion y Ddeddf hon, mae ansawdd yr addysg neu gwrs addysg yn annigonol os nad yw’n ddigonol i ddiwallu anghenion rhesymol y rhai hynny sy’n cael yr addysg neu sy’n ymgymryd â’r cwrs.
Gwybodaeth Cychwyn
I4A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)
I5A. 18 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(h)
(1)Caiff CCAUC roi cyfarwyddyd i gorff llywodraethu’r sefydliad sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gymryd (neu beidio â chymryd) camau penodedig at y diben o—
(a)gwella ansawdd yr addysg neu’r cwrs, neu
(b)atal ansawdd yr addysg neu’r cwrs rhag dod yn annigonol.
(2)Am y ddarpariaeth weithdrefnol ynghylch cyfarwyddydau o dan yr adran hon, gweler adrannau 41 i 44.
Gwybodaeth Cychwyn
I6A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)
I7A. 19 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(h)
(1)Caiff CCAUC roi cyngor neu gymorth i gorff llywodraethu’r sefydliad gyda golwg ar—
(a)gwella ansawdd yr addysg neu’r cwrs, neu
(b)atal ansawdd yr addysg neu’r cwrs rhag dod yn annigonol.
(2)Caiff CCAUC gynnal, neu drefnu i berson arall gynnal, adolygiad o unrhyw faterion y mae o’r farn eu bod yn berthnasol i ansawdd yr addysg a ddarperir gan neu ar ran y sefydliad.
(3)Rhaid i gorff llywodraeth ystyried unrhyw gyngor a roddir iddo o dan is-adran (1).
Gwybodaeth Cychwyn
I8A. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)
I9A. 20 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(h)
(1)Rhaid i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig sicrhau y darperir i berson sy’n arfer swyddogaeth yn rhinwedd adran 17 neu 20 unrhyw wybodaeth, cymorth a mynediad i gyfleusterau’r sefydliad sy’n ofynnol yn rhesymol gan y person at y diben o arfer y swyddogaeth (gan gynnwys y diben o arfer unrhyw bŵer o dan adran 22).
(2)Rhaid i gorff llywodraethu darparwr allanol sicrhau y darperir i berson sy’n arfer swyddogaeth yn rhinwedd adran 17 neu 20(2) unrhyw wybodaeth, cymorth a mynediad i gyfleusterau’r darparwr allanol ag sy’n ofynnol yn rhesymol gan y person at y diben o arfer y swyddogaeth (gan gynnwys y diben o arfer unrhyw bŵer o dan adran 22).
(3)Os yw CCAUC wedi ei fodloni bod corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio ag is-adran (1) neu (2), caiff ei gyfarwyddo i gymryd (neu i beidio â chymryd) camau penodedig at y diben o sicrhau’r ddarpariaeth o wybodaeth, cymorth neu fynediad fel y’i disgrifir yn is-adran (1) neu (2) (fel y bo’n briodol).
Gwybodaeth Cychwyn
I10A. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)
I11A. 21 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(h)
(1)At y diben o arfer swyddogaeth yn rhinwedd adran 17 neu 20(2), caiff person awdurdodedig—
(a)mynd i mewn i fangre sefydliad rheoleiddiedig neu ddarparwr allanol;
(b)edrych ar ddogfennau y daw o hyd iddynt yn y fangre, eu copïo neu eu cymryd.
(2)Yn is-adran (1)(b), mae cyfeiriadau at—
(a)dogfennau yn cynnwys gwybodaeth wedi ei chofnodi ar unrhyw ffurf;
(b)dogfennau y daw o hyd iddynt yn y fangre yn cynnwys—
(i)dogfennau sydd wedi eu storio ar gyfrifiaduron neu ar ddyfeisiau storio electronig yn y fangre, a
(ii)dogfennau sydd wedi eu storio mewn man arall ond gellir cael mynediad iddynt drwy gyfrifiaduron yn y fangre.
(3)Mae’r pŵer a roddir gan is-adran (1)(b) yn cynnwys pŵer—
(a)i’w gwneud yn ofynnol i berson ddarparu dogfennau;
(b)i osod gofynion o ran sut y darperir dogfennau (a gaiff gynnwys gofynion i ddarparu copïau darllenadwy o ddogfennau sydd wedi eu storio’n electronig);
(c)i edrych ar gyfrifiadur y mae dogfennau wedi eu creu neu eu storio arno neu ar ddyfais storio electronig y mae dogfennau wedi eu creu neu eu storio arni.
(4)Ni chaniateir i bŵer a roddir gan yr adran hon ond gael ei arfer ar ôl rhoi hysbysiad rhesymol—
(a)i gorff llywodraethu’r sefydliad rheoleiddiedig neu ddarparwr allanol y mae’r person awdurdodedig yn bwriadu arfer y pŵer mewn perthynas â’i fangre, a
(b)corff llywodraethu unrhyw sefydliad rheoleiddiedig y mae’r sefydliad hwnnw neu’r darparwr allanol hwnnw yn darparu ar ei ran yr addysg y mae arfer y swyddogaeth o dan adran 17 neu 20(2) yn ymwneud â hi.
(5)Nid yw is-adran (4) yn gymwys i arfer pŵer os yw’r person awdurdodedig wedi ei fodloni—
(a)bod yr achos yn achos brys, neu
(b)y byddai cydymffurfio â’r is-adran honno yn tanseilio’r diben o arfer y pŵer.
(6)Yn yr adran hon, ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan CCAUC (pa un ai yn gyffredinol neu’n benodol) i arfer y pwerau a roddir gan yr adran hon.
(7)Cyn arfer pŵer o dan yr adran hon, rhaid i berson awdurdodedig, os yw’n ofynnol iddo wneud hynny, ddangos copi o awdurdodiad y person o dan is-adran (6).
(8)O ran y pwerau a roddir gan yr adran hon—
(a)caniateir iddynt gael eu harfer ar adegau rhesymol yn unig;
(b)ni chaniateir iddynt gael eu harfer i’w gwneud yn ofynnol i berson wneud unrhyw beth ac eithrio ar adeg sy’n rhesymol.
(9)Nid yw’r pwerau a roddir gan yr adran hon yn cynnwys pŵer i fynd i mewn i annedd heb gytundeb y meddiannydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I12A. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)
I13A. 22 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(h)
(1)Caiff CCAUC ddyroddi neu gymeradwyo canllawiau ynghylch unrhyw fater sy’n berthnasol yn ei farn ef i wella neu gynnal ansawdd yr addysg a ddarperir gan neu ar ran sefydliadau rheoleiddiedig.
(2)Cyn dyroddi neu gymeradwyo canllawiau o dan yr adran hon (neu unrhyw ganllawiau diwygiedig), rhaid i CCAUC ymgynghori â’r canlynol—
(a)corff llywodraethu pob sefydliad rheoleiddiedig, a
(b)unrhyw bersonau eraill sy’n briodol yn ei farn ef.
(3)Rhaid i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig ystyried unrhyw ganllawiau a ddyroddir neu a gymeradwyir o dan yr adran hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I14A. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)
I15A. 23 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(h)
(1)Caiff CCAUC ddyroddi neu gymeradwyo canllawiau ynghylch—
(a)y meini prawf sydd i’w cymhwyso gan berson sy’n arfer swyddogaeth yn rhinwedd adran 17 wrth asesu ansawdd yr addysg;
(b)y materion y bydd CCAUC yn eu hystyried wrth benderfynu a yw ansawdd yr addysg, neu gwrs addysg, yn annigonol neu’n debygol o ddod yn annigonol.
(2)Cyn dyroddi neu gymeradwyo canllawiau o dan yr adran hon (neu unrhyw ganllawiau diwygiedig), rhaid i CCAUC ymgynghori â’r canlynol—
(a)corff llywodraethu pob sefydliad rheoleiddiedig, a
(b)unrhyw bersonau eraill sy’n briodol yn ei farn ef.
Gwybodaeth Cychwyn
I16A. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)
I17A. 24 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(h)
(1)Rhaid i CCAUC sefydlu pwyllgor i’w gynghori ar arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon.
(2)Caiff CCAUC roi i’r pwyllgor unrhyw swyddogaethau eraill sy’n briodol yn ei farn ef.
(3)Rhaid i un aelod o’r pwyllgor fod yn berson yr ymddengys i CCAUC ei fod yn cynrychioli buddiannau personau y darperir addysg uwch yng Nghymru iddynt.
(4)O ran aelodau eraill y pwyllgor—
(a)rhaid i fwyafrif fod yn bersonau nad ydynt yn aelodau o CCAUC;
(b)rhaid i fwyafrif fod yn bersonau yr ymddengys i CCAUC fod ganddynt brofiad o ddarparu addysg uwch neu eu bod wedi dangos galluedd o ran darparu addysg uwch.
(5)Wrth benodi personau o fewn is-adran (4)(b) i’r pwyllgor, rhaid i CCAUC ystyried dymunoldeb penodi personau sydd ar hyn o bryd yn ymwneud â darparu addysg uwch neu ag ymgymryd â chyfrifoldeb am ei darparu.
(6)Mae Atodlen 1 i Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 yn gymwys o ran y pwyllgor fel y mae’n gymwys o ran pwyllgor a sefydlir gan CCAUC o dan baragraff 8 o’r Atodlen honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I18A. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)
I19A. 25 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(h)
(1)Mae’r adran hon yn gymwys—
(a)pan fo cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â sefydliad yn peidio â bod mewn grym, a
(b)pan na fo cynllun ffioedd a mynediad newydd mewn grym mewn perthynas â’r sefydliad.
(2)Mae’r Rhan hon yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas ag addysg a ddarperir gan neu ar ran y sefydliad drwy gwrs dynodedig.
(3)At ddibenion cymhwyso’r Rhan hon yn rhinwedd is-adran (2), mae’r sefydliad i’w drin fel sefydliad rheoleiddiedig.
(4)Mae cwrs dynodedig yn gwrs sydd wedi ei ddynodi at ddibenion adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan yr adran honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I20A. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)
I21A. 26 mewn grym ar 1.8.2017 gan O.S. 2017/239, ergl. 2
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: