Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015

Cynlluniau a gymeradwywyd: cydymffurfedd ac effeithiolrwyddLL+C

15Dyletswydd CCAUC i fonitro a gwerthuso cydymffurfedd ac effeithiolrwyddLL+C

(1)Rhaid i CCAUC—

(a)monitro cydymffurfedd ag adran 10(1);

(b)monitro cydymffurfedd â gofynion cyffredinol cynlluniau a gymeradwywyd;

(c)gwerthuso effeithiolrwydd pob cynllun a gymeradwywyd;

(d)gwerthuso effeithiolrwydd cynlluniau a gymeradwywyd yn gyffredinol.

(2)At ddibenion yr adran hon, effeithiolrwydd cynllun a gymeradwywyd yw ei effeithiolrwydd o ran hybu—

(a)cyfle cyfartal, a

(b)addysg uwch.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I2A. 15(1)(a) mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(f)

Rhagolygol

16Monitro a gwerthuso cydymffurfedd ac effeithiolrwydd: dyletswydd i gydweithreduLL+C

(1)Rhaid i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig sicrhau y darperir i CCAUC unrhyw wybodaeth, cymorth a mynediad i gyfleusterau’r sefydliad sy’n ofynnol yn rhesymol gan CCAUC at ddiben ei swyddogaethau o dan adran 15.

(2)Os yw CCAUC wedi ei fodloni bod corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio ag is-adran (1), caiff ei gyfarwyddo i gymryd (neu i beidio â chymryd) camau penodedig at y diben o sicrhau’r ddarpariaeth o wybodaeth, cymorth neu fynediad fel y’i disgrifir yn ys is-adran honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)