C1RHAN 2CYNLLUNIAU FFIOEDD A MYNEDIAD

Annotations:

Cynlluniau a gymeradwywyd: cydymffurfedd ac effeithiolrwydd

I115C1Dyletswydd CCAUC i fonitro a gwerthuso cydymffurfedd ac effeithiolrwydd

1

Rhaid i CCAUC

I3a

monitro cydymffurfedd ag adran 10(1);

b

monitro cydymffurfedd â gofynion cyffredinol cynlluniau a gymeradwywyd;

c

gwerthuso effeithiolrwydd pob cynllun a gymeradwywyd;

d

gwerthuso effeithiolrwydd cynlluniau a gymeradwywyd yn gyffredinol.

2

At ddibenion yr adran hon, effeithiolrwydd cynllun a gymeradwywyd yw ei effeithiolrwydd o ran hybu—

a

cyfle cyfartal, a

b

addysg uwch.

I216C1Monitro a gwerthuso cydymffurfedd ac effeithiolrwydd: dyletswydd i gydweithredu

1

Rhaid i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig sicrhau y darperir i CCAUC unrhyw wybodaeth, cymorth a mynediad i gyfleusterau’r sefydliad sy’n ofynnol yn rhesymol gan CCAUC at ddiben ei swyddogaethau o dan adran 15.

2

Os yw CCAUC wedi ei fodloni bod corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio ag is-adran (1), caiff ei gyfarwyddo i gymryd (neu i beidio â chymryd) camau penodedig at y diben o sicrhau’r ddarpariaeth o wybodaeth, cymorth neu fynediad fel y’i disgrifir yn ys is-adran honno.