Cyflwyniad

1.Mae’r Nodiadau Esboniadol hyn ar gyfer Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 27 Ionawr 2015 ac a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 12 Mawrth 2015. Fe’u lluniwyd gan Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo’r sawl sy’n darllen y Ddeddf. Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â’r Ddeddf ond nid ydynt yn rhan ohoni.

Cefndir

2.Yn 2011, daethpwyd â darpariaethau yn Rhan 3 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 i rym o ran Cymru gan Weinidogion Cymru. Mae’r Rhan honno yn galluogi Gweinidogion Cymru, wrth wneud grantiau i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), i osod amod yn nodi bod CCAUC yn ei dro, wrth ddarparu cymorth ariannol i sefydliad yng Nghymru, i osod amod yn ymwneud â’r ffioedd a godir gan y sefydliad. Mae’r trefniadau ffioedd hyn yn gymwys mewn perthynas â chyrsiau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012.

3.Ar gyfer sefydliad nad oes ganddo gynllun a gymeradwywyd (sef cynllun a gymeradwywyd gan CCAUC), yr amod a osodir gan CCAUC yw nad yw’r ffioedd a godir i fynd uwchlaw swm sylfaenol a bennir mewn rheoliadau. Ar gyfer sefydliad sydd â chynllun a gymeradwywyd, yr amod yw nad yw’r ffioedd a godir i fynd uwchlaw’r symiau a bennir yn y cynllun a bod y sefydliad i gydymffurfio â darpariaethau cyffredinol ei gynllun a gymeradwywyd o ran hybu cyfle cyfartal mewn cysylltiad â mynediad i addysg uwch a hybu addysg uwch. Nid yw’r ffioedd a nodir yn y cynllun i fynd uwchlaw’r swm uwch a bennir mewn rheoliadau.

4.Ar y cyd â’r trefniadau newydd hynny ar gyfer ffioedd, cyflwynwyd newidiadau gan Weinidogion Cymru i’r cymorth ffioedd dysgu sydd ar gael oddi wrth Weinidogion Cymru i fyfyrwyr sy’n ymgymryd â chyrsiau addysg uwch. Mae cyllid a oedd yn cael ei ddarparu i CCAUC gan Weinidogion Cymru yn y gorffennol ac yn cael ei ddyrannu gan CCAUC i sefydliadau yng Nghymru o dan Ran 2 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 a Rhan 3 o Ddeddf Addysg 2005 wedi ei ailgyfeirio tuag at y cymorth sydd ar gael oddi wrth Weinidogion Cymru i fyfyrwyr.

5.Mae ailgyfeirio cyllid yn golygu bod y swm o gymorth ariannol a ddarperir gan CCAUC i sefydliadau yng Nghymru wedi lleihau. O ganlyniad, nid yw’r fframwaith rheoleiddiol presennol, sy’n cynnwys y trefniadau ffioedd a sefydlwyd gan Ddeddf Addysg Uwch 2004, swyddogaethau CCAUC o ran asesu ansawdd yr addysg a ddarperir gan sefydliadau (o dan Ran 2 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992) a’r memorandwm ariannol blynyddol rhwng CCAUC a sefydliadau yng Nghymru, bellach yn gweithredu yn y modd yr arferai weithredu. Yn benodol, gan fod CCAUC yn darparu swm llai o gymorth ariannol i sefydliadau yng Nghymru, mae llai o gymorth ariannol y gall CCAUC osod amodau mewn cysylltiad ag ef at ddibenion y trefniadau ffioedd a’r drefn asesu ansawdd bresennol a’r memorandwm ariannol blynyddol.

6.Mae’r Ddeddf yn sefydlu fframwaith rheoleiddiol newydd ar gyfer sefydliadau addysg uwch a darparwyr addysg uwch eraill yng Nghymru sydd â chynllun ffioedd a mynediad mewn grym, a gymeradwywyd gan CCAUC (sefydliadau rheoleiddiedig). Ni fydd y fframwaith rheoleiddiol newydd yn dibynnu ar CCAUC yn darparu cymorth ariannol i’r sefydliadau a’r darparwyr hynny o dan Ran 2 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 neu Ran 3 o Ddeddf Addysg 2005.

7.Bydd sefydliadau rheoleiddiedig yn gallu gosod eu ffioedd eu hunain, hyd at uchafswm a bennir mewn rheoliadau. Mae’r Ddeddf yn darparu i CCAUC orfodi cydymffurfedd â’r ffioedd hynny. Mae’r Ddeddf hefyd yn darparu i CCAUC asesu ansawdd yr addysg a ddarperir yng Nghymru gan ac ar ran sefydliadau rheoleiddiedig. Mae’r Ddeddf yn darparu i God rheolaeth ariannol fod yn gymwys i’r sefydliadau hynny. Y bwriad yw bod cyrsiau addysg uwch a gynigir gan sefydliadau rheoleiddiedig yn cael eu dynodi at ddibenion cymorth ffioedd dysgu a chymorth cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyrwyr cymwys gan Weinidogion Cymru (yn benodol, wedi eu dynodi gan reoliadau cymorth i fyfyrwyr a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998).

8.Cyhoeddwyd Papur Gwyn yn nodi cynigion polisi cychwynnol Llywodraeth Cymru ar 2 Gorffennaf 2012 a chyhoeddwyd crynodeb o’r ymatebion a gafwyd i’r Papur Gwyn ym mis Mawrth 2013. Cyhoeddwyd ymgynghoriad technegol yn dilyn hynny ym mis Mai 2013. Cyhoeddwyd crynodeb o’r ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad technegol ym mis Ebrill 2014.

Crynodeb O’R Ddeddf

9.Mae wyth Rhan i’r Ddeddf sy’n cynnwys 60 o adrannau ac un Atodlen.

Sylwebaeth Ar Adrannau O’R Ddeddf

Rhan 1 – Cyflwyniad

Adran 1 - Trosolwg o’r Ddeddf

10.Mae’r adran hon yn disgrifio cynnwys y Ddeddf.

Rhan 2 – Cynlluniau Ffioedd a Mynediad

Adran 2 – Cais gan sefydliad am gymeradwyaeth CCAUC i gynllun ffioedd a mynediad

11.Mae’r adran hon yn caniatáu i gorff llywodraethu sefydliad o fath penodol wneud cais i CCAUC am gymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad. Mae angen i sefydliad fod yn sefydliad yng Nghymru sy’n darparu addysg uwch ac sy’n elusen.

12.Mae sefydliad yn sefydliad “yng Nghymru” os cynhelir ei weithgareddau yn bennaf neu’n gyfan gwbl yng Nghymru. At y diben hwn, mae’r Brifysgol Agored yn sefydliad “yng Nghymru” (gweler adran 57(3)).

13.Mae adran 2(4) yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch gwneud ceisiadau o dan yr adran hon. Gallai rheoliadau o’r fath ei gwneud yn ofynnol i sefydliad ddarparu mathau penodol o wybodaeth ategol.

Adran 3 – Dynodi darparwyr addysg uwch eraill

14.Mae’r adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddynodi darparwr elusennol addysg uwch yng Nghymru yn sefydliad, na fyddai fel arall yn cael ei ystyried yn sefydliad, at ddibenion y Ddeddf ac unrhyw reoliadau a wneir oddi tani. Gwneir dynodiad mewn perthynas â chais gan y darparwr o dan sylw. Gallai’r pŵer hwn, er enghraifft, gael ei arfer i ddynodi darparwr nad yw’n gallu dyfarnu graddau ond sy’n darparu cyrsiau addysg uwch eraill ar lefel is ar y fframwaith credydau a chymwysterau. Fel arall, gallai’r pŵer gael ei arfer i ddynodi darparwr sy’n gwmni elusennol cyfyngedig drwy warant sy’n darparu cyrsiau addysg uwch. Efallai na fyddai darparwyr o’r fath yn eu hystyried eu hunain yn “sefydliad” at ddibenion adran 2 ond serch hynny, efallai y byddant yn dymuno i’r cyrsiau hynny gael eu dynodi gan reoliadau cymorth i fyfyrwyr (at ddibenion cymorth i fyfyrwyr gan Weinidogion Cymru) a gallu gwneud cais am gymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad o dan yr adran honno. Bydd angen i ddarparwr addysg uwch sydd wedi ei ddynodi o dan adran 3 o’r Ddeddf fodloni pob elfen o adran 2(3) o’r Ddeddf o hyd er mwyn gwneud cais i CCAUC am gymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad.

15.O dan adran 3(4), mae Gweinidogion Cymru yn gallu gwneud rheoliadau ynghylch gwneud ceisiadau gan ddarparwyr o’r fath, tynnu dynodiad yn ôl ac effaith tynnu dynodiad o’r fath yn ôl yn y fath fodd. Gallai rheoliadau, er enghraifft, wneud darpariaeth ynghylch y math o wybodaeth sydd i ategu cais am ddynodiad. Gallai rheoliadau hefyd ddarparu, pan fo dynodiad darparwr wedi ei dynnu’n ôl, fod y darparwr i barhau i gael ei drin fel sefydliad am gyfnod cyfyngedig ac mewn perthynas ag elfennau penodol o’r fframwaith rheoleiddiol newydd.

Adran 4 - Y cyfnod y mae cynllun yn ymwneud ag ef

16.Rhaid i gynlluniau ffioedd a mynediad bennu’r cyfnod y maent i gael effaith mewn cysylltiad ag ef. Mae adran 4(2) yn darparu na chaniateir i’r cyfnod fod yn hwy na dwy flynedd. Caiff rheoliadau bennu cyfnod gwahanol yn lle’r cyfnod hwnnw, ond cyn gwneud rheoliadau o’r fath, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r cyrff a’r personau hynny y cyfeirir atynt yn adran 4(4). Ar hyn o bryd, mae rheoliadau a wneir o dan Ddeddf Addysg Uwch 2004 yn darparu mai’r cyfnod hwyaf y caiff cynllun fod mewn grym ynddo yw dwy flynedd.

Adran 5 - Terfyn ffioedd

17.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i gynllun ffioedd a mynediad bennu terfyn ffioedd, neu ddarparu ar gyfer penderfynu ar derfyn ffioedd, mewn perthynas â phob “cwrs cymhwysol” ac mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd y cwrs sy’n dechrau yn ystod y cyfnod y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef.

18.Mae “cwrs cymhwysol” yn gwrs a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru ac sydd wedi ei ddisgrifio mewn rheoliadau. Mae adran 5(2)(b) yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau o’r fath ac mae adran 5(7) yn cyfyngu ar allu Gweinidogion Cymru i wahaniaethu rhwng dosbarthiadau penodol o gwrs wrth ragnodi disgrifiadau o “gwrs cymhwysol”. At y dibenion hyn, y bwriad yw mai’r cyrsiau sydd i’w rhagnodi yn “gyrsiau cymhwysol” fydd y cyrsiau addysg uwch hynny a ddynodir ar hyn o bryd at ddibenion cymorth i fyfyrwyr gan reoliadau a wneir o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (gan gynnwys cyrsiau gradd gyntaf a chyrsiau ar gyfer y Diploma Addysg Uwch, y Diploma Cenedlaethol Uwch, y Dystysgrif Genedlaethol Uwch a’r Dystysgrif Addysg Uwch). Yr unig gyrsiau ôl-radd sydd i fod â’r gallu i fod yn gyrsiau cymhwysol yw cyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon (adran 5(6)).

19.Wrth ddarparu ar gyfer penderfynu ar derfyn ffioedd, yn hytrach na phennu terfyn ffioedd, gallai cynllun ffioedd a mynediad, er enghraifft, bennu bod cynnydd chwyddiannol i fod yn gymwys i ffioedd cwrs o un flwyddyn academaidd i un arall. Fel arall, gallai cynllun ddarparu ar gyfer terfyn ffioedd drwy gyfeirio at yr uchafswm ar gyfer ffioedd a ragnodir mewn rheoliadau.

20.At y dibenion hyn, “ffioedd” yw ffioedd cwrs, gan gynnwys ffioedd derbyn, cofrestru a dysgu (gweler adran 57(1)). Y ffioedd sydd i’w hystyried at ddibenion y terfyn ffioedd yw ffioedd sy’n daladwy i sefydliad gan “berson cymhwysol”, sef person (ac eithrio myfyrwyr rhyngwladol) a ddisgrifir mewn rheoliadau. Mae adran 5(5) yn galluogi Gweinidogion Cymru i ragnodi dosbarthiadau o berson at y dibenion hyn. Y bwriad yw y bydd “personau cymhwysol” yn cynnwys personau yn y categorïau a ganlyn sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig: personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig, ffoaduriaid ac aelodau o’u teuluoedd a gwladolion yr Undeb Ewropeaidd.

21.Ni chaniateir i derfyn ffioedd mewn cynllun fynd uwchlaw’r uchafswm sydd i’w ragnodi mewn rheoliadau mewn unrhyw achos.

22.Mae adran 5(9) yn galluogi i reoliadau ddarparu ar gyfer yr amgylchiadau pan fo ffioedd sy’n daladwy i berson yn hytrach na sefydliad rheoleiddiedig (megis ffioedd sy’n daladwy i berson sydd wedi ei freinio ac sy’n darparu cwrs ar ran sefydliad rheoleiddiedig o dan drefniadau breinio) gan berson cymhwysol i’w trin at ddibenion y terfyn ffioedd fel pe baent yn daladwy i’r sefydliad rheoleiddiedig.

Adran 6 – Hybu cyfle cyfartal ac addysg uwch

23.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i gynllun ffioedd a mynediad gynnwys unrhyw ddarpariaethau sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal mewn cysylltiad â mynediad i addysg uwch neu hybu addysg uwch a ragnodir drwy reoliadau.

24.Caiff rheoliadau, er enghraifft, ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu sefydliad ymrwymo, drwy ei gynllun ffioedd a mynediad, i gymryd camau i ddenu ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr sydd, ar ddyddiad cymeradwyo’r cynllun, yn aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg uwch. Yn ymarferol, gallai hyn gynnwys mesurau allgymorth megis darparu ysgolion haf neu ymwneud ag ysgolion neu golegau, gyda’r bwriad o ehangu cyfranogiad drwy ddenu myfyrwyr na fyddent fel arall yn ystyried addysg uwch o gwbl o bosibl neu na fyddent yn ystyried gwneud cais i sefydliadau penodol o bosibl.

25.Caiff rheoliadau hefyd ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu sefydliadau ymrwymo, drwy eu cynlluniau ffioedd a mynediad, i gymryd camau i gadw myfyrwyr sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Gallai’r mesurau hyn gynnwys cymorth academaidd a chymorth bugeiliol megis cymorth sgiliau astudio neu raglenni coetsio a mentora sydd wedi eu teilwra i ddiwallu anghenion penodol grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg uwch.

Adran 7 – Cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad

26.Pan fo corff llywodraethu sefydliad yn gwneud cais i CCAUC o dan adran 2 am gymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad, CCAUC sydd i benderfynu pa un ai i gymeradwyo’r cynllun neu ei wrthod. Ni chaiff CCAUC gymeradwyo cynllun oni bai ei fod wedi ei fodloni bod y sefydliad sy’n gwneud cais yn sefydliad yng Nghymru sy’n darparu addysg uwch ac sy’n elusen. Bydd CCAUC naill ai’n cymeradwyo neu’n gwrthod cynllun drwy roi hysbysiad i gorff llywodraethu’r sefydliad o dan sylw. Mae adrannau 41 i 44 o’r Ddeddf yn darparu ar gyfer y weithdrefn sydd i fod yn gymwys mewn cysylltiad â hysbysiad i wrthod cynllun.

27.Mae adran 7(3) yn galluogi rheoliadau i ddarparu ar gyfer materion sydd i’w hystyried gan CCAUC wrth benderfynu pa un ai i gymeradwyo neu i wrthod cynllun o dan yr adran hon. Gallai rheoliadau, er enghraifft, wneud darpariaeth i CCAUC ystyried ansawdd yr addysg a ddarperir gan y sefydliad sy’n gwneud cais a’r ffordd y mae’n trefnu ac yn rheoli ei faterion ariannol.

28.Mae adran 7(4) yn diffinio’r cyfnod pan fo cynllun ffioedd a mynediad a gymeradwywyd mewn grym. Mae’r cysyniad hwn bod cynllun “mewn grym” yn berthnasol i’r cyfeiriadau yn y Ddeddf at ”sefydliad rheoleiddiedig”, sef bod “sefydliad rheoleiddiedig” yn sefydliad sydd â chynllun sydd mewn grym ar hyn o bryd. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, nad yw’r ddyletswydd o dan adran 16 (dyletswydd i gydweithredu mewn perthynas â swyddogaethau monitro a gwerthuso CCAUC) ond yn gymwys cyhyd â bod cynllun mewn grym mewn gwirionedd.

Adran 8 – Cyhoeddi cynllun a gymeradwywyd

29.Mae’r adran hon yn galluogi i reoliadau ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig gyhoeddi ei gynllun a gymeradwywyd. Y bwriad yw y bydd rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu gyhoeddi’r cynllun a gymeradwywyd mewn modd sy’n golygu ei fod ar gael yn gyfleus i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru yn y sefydliad ac i ddarpar fyfyrwyr.

Adran 9 – Amrywio cynllun a gymeradwywyd

30.Caiff rheoliadau ganiatáu i gorff llywodraethu sefydliad rheoleieddiedig amrywio ei gynllun a gymeradwywyd. Caiff corff llywodraethu sefydliad, er enghraifft, ddymuno cynnwys darpariaethau ychwanegol yn ei gynllun sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal. Fodd bynnag, rhaid i unrhyw reoliadau a wneir o dan yr adran hon ddarparu mai dim ond os caiff amrywiad ei gymeradwyo gan CCAUC y mae i gymryd effaith. Gallai rheoliadau, er enghraifft, nodi sut y mae ceisiadau ar gyfer amrywiadau i gael eu cyflwyno a gallai ddarparu bod gweithdrefn hysbysiad rhybuddio i fod yn gymwys i benderfyniad ynghylch yr amrywiad i gynllun.

Adran 10 – Terfyn ar ffioedd myfyrwyr

31.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu sefydliad, y mae cynllun ffioedd a mynediad wedi ei gymeradwyo mewn perthynas ag ef, sicrhau nad yw “ffioedd cwrs rheoleiddiedig” yn mynd uwchlaw’r “terfyn ffioedd cymwys”, pa un a yw’r cynllun ffioedd mewn grym o hyd ai peidio.

32.Mae “ffioedd cwrs rheoleiddiedig” wedi ei diffinio yn adran 10(3). Maent yn ffioedd sy’n daladwy i’r sefydliad gan berson cymhwysol mewn cysylltiad â’r person hwnnw yn ymgymryd â chwrs cymhwysol mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yn y cwrs hwnnw sy’n dechrau yn ystod y cyfnod y mae cynllun ffioedd y sefydliad a gymeradwywyd yn fwyaf diweddar yn ymwneud ag ef (sef y cyfnod a bennir o dan adran 4). Y “terfyn ffioedd cymwys” yw’r terfyn ffioedd ar gyfer y cwrs a’r flwyddyn o dan sylw a nodir yng nghynllun ffioedd a mynediad y sefydliad a gymeradwywyd yn fwyaf diweddar.

33.Bydd yn ofynnol i sefydliad sydd â chynllun mewn grym sicrhau bod y ffioedd ar gyfer blynyddoedd academaidd sy’n dechrau o fewn y cyfnod y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef yn cydymffurfio â’r terfyn ffioedd cymwys. Pan fo cynllun sefydliad wedi dod i ben (pan fo’r cyfnod y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef wedi dod i ben), neu pan fo CCAUC wedi tynnu ei gymeradwyaeth i gynllun yn ôl o dan naill ai adran 38 (dyletswydd CCAUC i dynnu cymeradwyaeth yn ôl) neu adran 39 (pŵer CCAUC i dynnu cymeradwyaeth yn ôl), bydd yn ofynnol i gorff llywodraethu’r sefydliad sicrhau bod ffioedd ar gyfer blynyddoedd academaidd sy’n dechrau o fewn y cyfnod y mae’r cynllun ffioedd yn ymwneud ag ef yn parhau i gydymffurfio â’r terfyn ffioedd cymwys. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, os bydd CCAUC yn tynnu ei gymeradwyaeth i gynllun sefydliad yn ôl, na fydd myfyrwyr cymhwysol yn y sefydliad yn colli’r diogelwch o ran ffioedd a fyddai wedi bod ynghlwm wrth y terfyn ffioedd yn ystod y cyfnod yr oedd y cynllun a dynnwyd yn ôl yn ymwneud ag ef.

Adran 11 – Cyfarwyddydau cydymffurfio ac ad-dalu

34.Mae’r adran hon yn galluogi CCAUC i roi cyfarwyddyd i gorff llywodraethu sefydliad pan fo wedi ei fodloni bod y corff llywodraethu wedi methu â sicrhau nad yw ffioedd cwrs rheoleiddiedig yn mynd uwchlaw’r terfyn ffioedd cymwys o dan adran 10(1). Caiff CCAUC gyfarwyddo’r corff llywodraethu i gydymffurfio ag adran 10(1) a/neu ad-dalu ffioedd a dalwyd i’r sefydliad i’r graddau y maent yn mynd uwchlaw’r terfyn ffioedd cymwys. Felly, os yw ffioedd sy’n uwch na’r terfyn ffioedd wedi eu codi ond heb eu talu eto, er enghraifft, gellid rhoi cyfarwyddyd i gydymffurfio; ond os yw’r ffioedd mewn gwirionedd wedi eu talu uwchlaw’r terfyn, gellid ei gwneud yn ofynnol i’r corff llywodraethu ad-dalu’r swm uwchlaw’r terfyn a chydymffurfio â’r terfyn yn y dyfodol.

35.Caiff cyfarwyddyd a roddir o dan adran 11 bennu’r camau sydd i’w cymryd (neu nad ydynt i’w cymryd) gan y corff llywodraethu at y diben o sicrhau nad yw ffioedd cwrs rheoleiddiedig yn mynd uwchlaw’r terfyn ffioedd cymwys. Caiff cyfarwyddyd hefyd bennu’r modd y mae ffioedd uwchlaw’r terfyn i gael eu had-dalu (neu y gallant gael eu had-dalu). Er enghraifft, gallai ffioedd uwchlaw’r terfyn gael eu had-dalu drwy leihau’r ffioedd sy’n daladwy gan fyfyriwr cymhwysol mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd sydd i ddod yn ei gwrs. Mae adran 11(4) yn ei gwneud yn ofynnol i CCAUC, drwy roi cyfarwyddyd o dan yr adran hon, roi copi o’r cyfarwyddyd i Weinidogion Cymru a’i gyhoeddi. Mae adran 11(5) yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch sut a phryd y mae CCAUC i gyhoeddi cyfarwyddyd a roddir o dan yr adran hon. Gallai rheoliadau, er enghraifft, ei gwneud yn ofynnol i CCAUC gyhoeddi’r cyfarwyddyd ar ei wefan.

Adran 12 – Darpariaethau atodol ynghylch cyfarwyddydau cydymffurfio ac ad-dalu

36.Mae’r adran hon yn caniatáu i CCAUC ddyroddi canllawiau ynghylch y camau sydd i’w cymryd gan gorff llywodraethu sefydliad wrth gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir o dan adran 11. Gallai canllawiau ddarparu ar gyfer yr amgylchiadau pan fo ffioedd uwchlaw’r terfyn i’w had-dalu i fyfyriwr yn uniongyrchol a’r amgylchiadau pan fo ffioedd uwchlaw’r terfyn i’w had-dalu drwy’r Student Loans Company Limited. Mae adran 12(3) yn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu, wrth gydymffurfio â chyfarwyddyd o’r fath, ystyried unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan CCAUC o dan yr adran hon. Cyn dyroddi’r canllawiau, rhaid i CCAUC ymgynghori â chorff llywodraethu pob sefydliad rheoleiddiedig a chaiff ymgynghori â chyrff llywodraethu sefydliadau eraill yng Nghymru sy’n darparu addysg uwch ac sy’n elusennau yn ôl yr un sy’n briodol ym marn CCAUC.

Adran 13 – Cyfarwyddydau mewn cysylltiad a methiant i gydymffurfio a gofynion cyffredinol cynllun a gymeradwywyd

37.Caiff CCAUC roi cyfarwyddyd i gorff llywodraethu sefydliad os yw wedi ei fodloni bod y corff llywodraethu wedi methu â cydymffurfio â gofyniad cyffredinol yng nghynllun ffioedd a mynediad y sefydliad. Gofyniad cyffredinol mewn cynllun yw darpariaeth sy’n cael ei chynnwys ynddo sy’n ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu sefydliad wneud (neu beidio â gwneud) pethau penodedig (gweler adran 6(7)). Byddai’r cyfarwyddyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r corff llywodraethu gymryd (neu beidio â chymryd) camau penodedig at y diben o ymdrin â’r methiant i gydymffurfio. Gall CCAUC roi cyfarwyddyd o’r fath ar adeg pan nad yw’r cynllun o dan sylw mewn grym mwyach, cyn belled â bod y cynllun mewn grym ar adeg y methiant.

38.Gall CCAUC hefyd roi cyfarwyddyd i gorff llywodraethu sefydliad os yw wedi ei fodloni bod y corff llywodraethu yn debygol o fethu â chydymffurfio â gofyniad cyffredinol yng nghynllun y sefydliad sydd mewn grym. Byddai cyfarwyddyd o’r fath yn ei gwneud yn ofynnol i’r corff llywodraethu gymryd (neu beidio â chymryd) camau penodedig ar y diben o atal y methiant i gydymffurfio.

39.Mae adran 13(5) yn atal CCAUC rhag rhoi cyfarwyddyd i gorff llywodraethu sefydliad o dan yr adran hon pan fo CCAUC wedi ei fodloni bod y corff llywodraethu wedi cymryd pob cam rhesymol i gydymffurfio â’r gofyniad cyffredinol o dan sylw. Er enghraifft, efallai y bydd corff llywodraethu sefydliad yn ymrwymo yn ei gynllun a gymeradwywyd i ddarparu cyrsiau ysgol haf ar gyfer nifer penodedig o ddisgyblion ysgol na fyddent yn ystyried mynd i addysg uwch fel arall o bosibl. Mae nifer y disgyblion sy’n mynd ar y cyrsiau ysgol haf wedi hynny mewn gwirionedd yn is na’r nifer a nodwyd yn y cynllun a gymeradwywyd, er i’r sefydliad roi cyhoeddusrwydd eang i’r cyrsiau a chydweithio ag ysgolion lleol i annog disgyblion i fanteisio ar y ddarpariaeth. Efallai, yn yr achos hwnnw, y byddai CAAUC wedi ei fodloni bod y corff llywodraethu wedi cymryd pob cam rhesymol i gydymffurfio â’r gofyniad cyffredinol.

40.Mae’r gweithdrefnau hysbysiad rhybuddio ac adolygu yn adrannau 41 i 44 yn gymwys i gyfarwyddydau o dan adran 13.

Adran 14 – Dilysrwydd contractau

41.Mae’r berthynas gyfreithiol rhwng sefydliad a’i fyfyrwyr yn berthynas o dan gontract yn bennaf (er nad yw’r berthynas wedi ei diffinio gan gyfraith contract yn unig). Mae’r adran hon yn gymwys pan fo contract rhwng sefydliad a pherson cymhwysol mewn cysylltiad â’r person hwnnw yn ymgymryd â chwrs cymhwysol yn darparu ar gyfer talu ffioedd sydd uwchlaw’r terfyn ffioedd cymwys gan y person. (O ran y terfyn ffioedd cymwys, gweler adran 10(5).)

42.Mae adran 14(2) yn darparu bod contract o’r fath i’w drin fel pe bai’n darparu ar gyfer talu ffioedd sy’n gyfatebol i’r terfyn ffioedd cymwys. Felly, pan fo myfyriwr yn gwrthod talu unrhyw ffioedd uwchlaw’r terfyn a bennir mewn contract, ni fydd y sefydliad yn gallu adennill y ffioedd uwchlaw’r terfyn. Ond bydd y contract yn parhau’n orfodadwy fel arall, yn nhermau dyletswydd y sefydliad i ddarparu addysg i’r myfyriwr, er bod y contract yn darparu ar gyfer talu ffioedd sy’n mynd uwchlaw’r terfyn ffioedd cymwys (adran 14(3)).

Adran 15 – Dyletswydd CCAUC i fonitro a gwerthuso cydymffurfedd ac effeithiolrwydd

43.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i CCAUC fonitro cydymffurfedd sefydliadau rheoleiddiedig ag adran 10(1) (y gofyniad i sicrhau nad yw ffioedd cwrs rheoleiddiedig yn mynd uwchlaw’r terfyn ffioedd cymwys). Mae hefyd yn ofynnol i CCAUC fonitro cydymffurfedd sefydliadau rheoleiddiedig â gofynion cyffredinol eu cynlluniau. (Gweler adran 6(7) i gael ystyr “gofynion cyffredinol”.) Mae angen i CCAUC fonitro cydymffurfedd sefydliadau ag adran 10(1) yn ogystal â gofynion cyffredinol cynlluniau a gymeradwywyd er mwyn arfer ei swyddogaethau o dan adrannau 11, 37 a 39.

44.Mae’r adran hon hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i CCAUC werthuso effeithiolrwydd pob cynllun, a’r cynlluniau yn gyffredinol, o ran hybu cyfle cyfartal mewn cysylltiad â mynediad i addysg uwch a hybu addysg uwch. Mae angen i CCAUC werthuso effeithiolrwydd cynlluniau a gymeradwywyd er mwyn arfer ei swyddogaeth o roi gwybodaeth a chyngor am arfer da o dan adran 54.

Adran 16 – Monitro a gwerthuso cydymffurfedd ac effeithiolrwydd: dyletswydd i gydweithredu

45.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu sefydliadau rheoleiddiedig gydweithredu â CCAUC at ddibenion swyddogaethau monitro a gwerthuso CCAUC o dan adran 15.

46.Mae’r ddyletswydd i gydweithredu yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu sicrhau’r ddarpariaeth o wybodaeth, chymorth a mynediad i gyfleusterau sy’n ofynnol gan CCAUC o bosibl at ddibenion y swyddogaethau hynny. Mewn cymhariaeth, rhaid i gynlluniau o dan ddarpariaethau presennol Deddf Addysg Uwch 2004 ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu sefydliad ddarparu i CCAUC unrhyw wybodaeth sy’n ofynnol yn rhesymol gan CCAUC.

47.Caiff CCAUC roi cyfarwyddyd i gorff llywodraethu os yw CCAUC wedi ei fodloni bod y corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio â’i ddyletswydd i gydweithredu. Caiff y cyfarwyddyd ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu gymryd, neu beidio â chymryd, camau i sicrhau’r ddarpariaeth o wybodaeth, cymorth neu fynediad i gyfleusterau. Nid yw’r gweithdrefnau hysbysiad rhybuddio ac adolygu a nodir yn Rhan 6 o’r Ddeddf yn gymwys i gyfarwyddyd o’r fath.

Rhan 3 – Ansawdd yr Addysg

Adran 17 – Asesu ansawdd yr addysg

48.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i CCAUC asesu neu wneud trefniadau i asesu ansawdd yr addysg yng Nghymru a ddarperir gan ac ar ran sefydliadau rheoleiddiedig. (At y diben hwn, mae addysg yng Nghymru yn cynnwys addysg a ddarperir y tu allan i Gymru, os yw’r addysg yn rhan o gwrs a ddarperir yn bennaf yng Nghymru.)

49.Ar hyn o bryd, caiff CCAUC wneud trefniadau i gyrff eraill ymgymryd ag asesiadau o’r sefydliadau y mae’n eu cyllido ar faterion sy’n ymwneud ag ansawdd yr addysg. Mae hyn yn cynnwys trefniadau y mae CCAUC yn eu gwneud gyda’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (ASA) ac Estyn (mewn cysylltiad â hyfforddiant i athrawon). Bydd yr adran hon yn caniatáu i CCAUC wneud trefniadau tebyg gyda’r ASA, Estyn neu gyrff eraill i asesu ansawdd yr addysg a ddarperir gan ac ar ran sefydliadau rheoleiddiedig.

50.Mae’r adran hon hefyd yn diffinio “darparwr allanol” at ddiben y Ddeddf. Mae hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i ragnodi, drwy gyfrwng rheoliadau, yr amgylchiadau pan fo person i’w drin, neu nad yw i’w drin, fel pe bai’n gyfrifol am ddarparu cwrs addysg ar ran sefydliad rheoleiddiedig. Mae hefyd yn darparu nad yw cwrs i’w ddosbarthu fel pe bai wedi ei ddarparu ar ran sefydliad rheoleiddiedig os y’i darperir o dan drefniadau a wnaed cyn i’r adran ddod i rym.

51.Mae “darparwr allanol” yn debygol o fod yn sefydliad neu’n ddarparwr arall sy’n cyflenwi’r cwrs cyfan, neu ran ohono, ar ran sefydliad rheoleiddiedig o dan drefniadau breinio.

52.Mae’n debygol y bydd rheoliadau yn darparu na fydd darlithwyr neu diwtoriaid unigol yn cael eu trin fel pe baent yn gyfrifol am ddarparu cwrs addysg ar ran sefydliad rheoleiddiedig.

53.Caiff canllawiau a ddyroddir neu a gymeradwyir gan CCAUC o dan adran 24 gynnwys meini prawf sydd i’w cymhwyso gan berson sy’n asesu ansawdd yr addysg.

Adrannau 18 i 20 – Addysg o ansawdd annigonol

54.Mae rheoliad 18 yn nodi ystyr ansawdd annigonol.

55.Caiff CCAUC ddyroddi neu gymeradwyo canllawiau ynghylch ffactorau y caniateir iddo eu hystyried wrth benderfynu a yw ansawdd yr addysg yn annigonol (gweler adran 24).

56.Mae adran 19 yn darparu i CCAUC roi cyfarwyddydau i’r corff llywodraethu pan geir achos o ansawdd annigonol.

57.Caiff cyfarwyddyd ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu gymryd camau (neu beidio â chymryd camau) i wella ansawdd yr addysg neu gwrs, neu i atal ansawdd yr addysg neu gwrs rhag dod yn anaddas. Er enghraifft, gallai cyfarwyddyd gynnwys gofyniad:

58.Gallai cyfarwyddyd hefyd ei gwneud yn ofynnol i welliannau gael eu gwneud i ansawdd yr addysg a ddarperir ar ran sefydliad rheoleiddiedig gan sefydliadau partner o dan drefniadau breinio.

59.Mae’r gweithdrefnau hysbysiad rhybuddio ac adolygu yn adrannau 41 i 44 yn gymwys i gyfarwyddydau o dan adran 19.

60.Mae adran 20 yn caniatáu i CCAUC, yn achos ansawdd annigonol, roi cyngor neu gymorth i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig neu gynnal neu drefnu adolygiad o sefydliad. Bydd hyn yn caniatáu i CCAUC ddarparu cymorth i sefydliadau rheoleiddiedig mewn ffordd debyg i’r cymorth y mae’n ei ddarparu i’r sefydliadau y mae’n eu cyllido ar hyn o bryd.

61.Mae’r cyngor a’r cymorth a roddir gan CCAUC i’w rhoi gyda golwg ar wella ansawdd yr addysg neu gwrs addysg; neu atal ansawdd yr addysg neu gwrs addysg rhag dod yn annigonol.

62.Rhagwelir y gallai CCAUC ddefnyddio’r pŵer hwn i drefnu i dîm cymorth helpu sefydliad i wella ansawdd yr addysg; er enghraifft tîm sy’n cynnwys adolygwyr cymheiriaid neu arbenigwyr rheoli. Fel arall, gallai CCAUC drefnu adolygiad wedi ei dargedu o sefydliad penodol, er enghraifft i nodi a oes materion gweithredol ehangach yn cyfrannu at yr ansawdd annigonol.

Adran 21 – Asesu ansawdd etc: dyletswydd i gydweithredu

63.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu sefydliadau rheoleiddiedig a darparwyr allanol (gweler adran 17 i gael y diffiniad o “darparwr allanol”) gydweithredu â phersonau sy’n arfer swyddogaethau o dan adran 17 (asesu ansawdd yr addysg) ac adran 20 (cyngor, cymorth ac adolygiadau mewn achosion o ansawdd annigonol).

64.Mae’r ddyletswydd i gydweithredu yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu sicrhau’r ddarpariaeth o wybodaeth, cymorth a mynediad i gyfleusterau sy’n ofynnol gan berson at ddibenion y swyddogaethau hynny.

65.Caiff CCAUC roi cyfarwyddyd i gorff llywodraethu os yw CCAUC wedi ei fodloni bod corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio a’i ddyletswydd i gydweithredu. Caiff y cyfarwyddyd ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu gymryd, neu beidio â chymryd, camau i sicrhau’r ddarpariaeth o wybodaeth, cymorth neu fynediad i gyfleusterau. Nid yw cyfarwyddyd a roddir o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i’r gweithdrefnau hysbysiad rhybuddio ac adolygu a nodir yn adrannau 41 i 44.

Adran 22 – Asesu ansawdd etc: pwerau mynd i mewn ac arolygu

66.Mae adran 22 yn darparu ar gyfer yr hawl i fynd i mewn ac arolygu at y diben o arfer swyddogaethau o dan adrannau 17 (asesu ansawdd yr addysg) neu 20(2) (adolygu materion sy’n ymwneud ag ansawdd yr addysg).

67.Caiff person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan CCAUC fynd i mewn i fangre sefydliad rheoleiddiedig neu ddarparwr allanol a chaiff edrych ar ddogfennau y daw o hyd iddynt yn y fangre, eu copïo neu eu cymryd.

68.Ni chaniateir i bŵer mynd i mewn ac arolygu ond gael ei arfer ar ôl rhoi hysbysiad rhesymol i’r corff llywodraethu ac eithrio mewn achosion brys neu pan fyddai rhoi hysbysiad yn tanseilio’r diben o arfer y pŵer mynd i mewn neu arolygu. Gallai mynd i mewn heb hysbysiad fod yn briodol pan fo CCAUC yn ystyried bod dogfennau perthnasol yn debygol o gael eu symud o fangre’r sefydliad neu eu dinistrio os rhoddir hysbysiad.

69.Ni chaniateir i bŵer mynd i mewn ac arolygu ond gael ei arfer ar adegau rhesymol ac nid yw’n cynnwys pŵer i fynd i mewn i annedd (er enghraifft llety myfyrwyr neu staff) heb gytundeb y meddiannydd.

70.Cyn arfer pŵer o dan yr adran hon rhaid i berson ddangos copi o’i awdurdodiad oddi wrth CCAUC os yw’n ofynnol iddo wneud hynny.

Adran 23 – Canllawiau ynghylch materion sy’n berthnasol i ansawdd

71.Mae’r adran hon yn caniatáu i CCAUC ddyroddi neu gymeradwyo canllawiau ynghylch materion sy’n ymwneud â gwella neu gynnal ansawdd yr addysg a ddarperir gan neu ar ran sefydliadau rheoleiddiedig. Ystyrir na fydd angen i CCAUC ddyroddi canllawiau bob amser ond mae’n bosibl y bydd yn dymuno dibynnu ar ganllawiau a ddyroddir gan gyrff sydd ag arbenigedd ym maes ansawdd addysg. Er enghraifft, byddai hyn yn caniatáu i CCAUC gymeradwyo canllawiau a ddyroddir gan yr ASA.

Adran 24 – Canllawiau ynghylch meini prawf ar gyfer asesu ansawdd

72.Mae’r adran hon yn caniatáu i CCAUC ddyroddi neu gymeradwyo canllawiau ar faterion penodol sy’n ymwneud ag asesu ansawdd. Fel yn adran 23, mae’n caniatáu i CCAUC gymeradwyo canllawiau a ddyroddir gan gyrff eraill pan fo hynny’n briodol yn ei farn ef. Ni all CCAUC ddyroddi na chymeradwyo canllawiau neu ganllawiau diwygiedig o dan adran 24 heb ymgynghori’n gyntaf â chorff llywodraethu pob sefydliad rheoleiddiedig ac unrhyw berson arall sy’n briodol yn ei farn ef. Mae hyn yn adlewyrchu’r gofyniad mewn cysylltiad â chanllawiau a ddyroddir neu a gymeradwyir gan CCAUC o dan adran 23.

73.Caiff y canllawiau ymwneud â meini prawf sydd i’w cymhwyso gan berson sy’n asesu ansawdd yr addysg o dan adran 17 a chânt hefyd nodi materion y bydd CCAUC yn eu hystyried wrth benderfynu a yw ansawdd yr addysg, neu gwrs addysg, yn annigonol.

Adran 25 – Pwyllgor i gynghori CCAUC ynghylch arfer swyddogaethau asesu ansawdd

74.Mae adran 70(1)(b) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 yn ei gwneud yn ofynnol i CCAUC, wrth arfer ei swyddogaethau presennol o dan y Ddeddf honno, sefydlu pwyllgor i gynghori ar arfer ei ddyletswydd asesu ansawdd.

75.Mae adran 25 yn ei gwneud y ofynnol i CCAUC sefydlu pwyllgor i gynghori ar arfer ei swyddogaethau asesu ansawdd o dan y Ddeddf.

76.Mae is-adrannau (3) a (4) yn nodi’r gofynion ar gyfer aelodaeth o’r pwyllgor hwnnw. Mae is-adran (4) yn gwneud darpariaeth ar gyfer yr hyn y mae rhaid i CCAUC ei ystyried wrth benodi aelodau sy’n dod o fewn is-adran (4) i’r pwyllgor hwnnw. Rhaid i un aelod o’r pwyllgor fod yn berson y mae’n ymddangos i CCAUC ei fod yn cynrychioli buddiannau myfyrwyr (is-adran (3)). O ran yr aelodau eraill, effaith is-adran (4) yw bod y gofynion ar gyfer aelodaeth yn debyg i’r gofynion ar gyfer y Pwyllgor Asesu Ansawdd a sefydlwyd gan CCAUC o dan adran 70(1)(b) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992. Ar y dyddiad y daw’r adran hon i rym bydd aelodau’r pwyllgor hwnnw yn dod yn aelodau o’r pwyllgor a sefydlir gan CCAUC o dan yr adran hon: gweler paragraff 31 o’r Atodlen i’r Ddeddf (sy’n cynnwys darpariaethau canlyniadol a throsiannol).

77.Mae Atodlen 1 i Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (sy’n cynnwys pwerau atodol ar gyfer CCAUC) yn gymwys i’r pwyllgor a sefydlir gan yr adran hon yn yr un modd ag y mae’n gymwys i’r pwyllgorau a sefydlir gan CCAUC o dan baragraff 8 o’r Atodlen honno. Er enghraifft, bydd yn caniatáu i CCAUC dalu lwfansau teithio a lwfansau eraill i aelodau’r pwyllgor nad ydynt yn aelodau o gyngor CCAUC.

Adran 26 – Cymhwyso Rhan 3 pan fo sefydliad yn peidio â chael cynllun a gymeradwywyd

78.Mae adran 26 yn darparu ar gyfer parhau â’r swyddogaethau asesu ansawdd yn Rhan 3 o’r Ddeddf o dan amgylchiadau penodol pan fo cynllun ffioedd a mynediad sefydliad yn peidio â bod mewn grym (naill ai ar ddiwedd y cyfnod y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef neu o ganlyniad i CCAUC yn tynnu ei gymeradwyaeth i’r cynllun yn ôl).

79.Bydd dyletswydd asesu ansawdd CCAUC yn parhau cyhyd â bod sefydliad yn darparu cyrsiau y mae myfyrwyr yn gymwys i gael cymorth statudol i fyfyrwyr ar eu cyfer a ddarperir gan Weinidogion Cymru. Cynigir y bydd Gweinidogion Cymru yn parhau i ddynodi cyrsiau at ddibenion cymorth i fyfyrwyr mewn cysylltiad â’r myfyrwyr hynny a ddechreuodd gwrs cyn i’r cynllun ffioedd a mynediad beidio â bod mewn grym.

80.Mae’r ddyletswydd barhaus ar CCAUC o dan yr adran hon i asesu ansawdd yr addysg yn ceisio cynnig diogelwch parhaus i fyfyrwyr a ddechreuodd eu cyrsiau ar adeg pan oedd gan sefydliad gynllun ffioedd a mynediad yn ei le.

Rhan 4 – Materion Ariannol Sefydliadau Rheoleiddiedig

Adran 27 – Dyletswydd CCAUC i lunio a chyhoeddi Cod

81.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i CCAUC lunio Cod sy’n ymwneud â threfnu a rheoli materion ariannol sefydliadau rheoleiddiedig, ei gyhoeddi a’i adolygu’n gyson.

82.Mae is-adran (2) yn rhoi enghreifftiau o’r materion y caiff y Cod ymdrin â hwy. Gall y materion hyn fod yn debyg i’r gofynion a welir ym Memorandwm Ariannol CCAUC gyda’r sefydliadau y mae’n eu cyllido a’r Cod Ymarfer Archwilio y mae CCAUC yn ei gyhoeddi ar hyn o bryd. Maent yn cynnwys:

83.Caiff y Cod osod gofynion y mae rhaid i sefydliadau rheoleiddiedig gydymffurfio â hwy a rhoi canllawiau y mae rhaid i sefydliadau rheoleiddiedig eu hystyried wrth reoli eu materion ariannol.

84.Er mai CCAUC fydd yn llunio’r Cod, rhagwelir y bydd y Cod yn ceisio sicrhau fframwaith rheolaeth mewn cysylltiad â materion ariannol sefydliad rheoleiddiedig sy’n debyg i’r hyn a osodir ar hyn o bryd ar sefydliadau sy’n cael arian CCAUC gan delerau ac amodau cyllido.

Adran 28 – Y weithdrefn ar gyfer cymeradwyo Cod gan Weinidogion Cymru

85.Mae’r adran hon yn nodi’r weithdrefn y mae rhaid i CCAUC ei dilyn cyn y gall gyhoeddi’r Cod cyntaf neu God diwygiedig. Rhaid i CCAUC ymgynghori â chorff llywodraethu pob sefydliad rheoleiddiedig a chyflwyno Cod drafft i’w gymeradwyo gan Weinidogion Cymru.

86.Rhagwelir y bydd CCAUC yn ymgynghori ar ddrafft o’r Cod cyntaf yn ystod blwyddyn academaidd 2015/2016 gyda golwg ar y Cod yn cael ei gyhoeddi a chymryd effaith ar gyfer dechrau blwyddyn academaidd 2017/2018.

Adran 29 – Y weithdrefn os na chymeradwyir Cod drafft gan Weinidogion Cymru

87.Rhaid i Weinidogion Cymru gymeradwyo drafft o’r Cod cyntaf neu ddrafft o God diwygiedig cyn bod modd i CCAUC ei gyhoeddi. Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo drafft a gyflwynir iddynt gan CCAUC, rhaid iddynt roi hysbysiad i CCAUC ynghylch y penderfyniad hwnnw a’r rhesymau drosto. Bydd hyn yn ysgogi gofynion o ran llunio drafft newydd gan CCAUC a’i gyflwyno i Weinidogion Cymru iddynt ei gymeradwyo neu (yn achos Cod diwygiedig arfaethedig) penderfyniad gan CCAUC na fydd y Cod yn cael ei ddiwygio.

Adran 30 – Y weithdrefn os cymeradwyir Cod drafft gan Weinidogion Cymru

88.Pan fo Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo Cod drafft a gyflwynir iddynt gan CCAUC o dan adran 28 neu adran 29, rhaid iddynt osod y drafft a gymeradwywyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

89.O fewn y cyfnod o 40 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r Cod drafft yn cael ei osod gan Weinidogion Cymru, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru benderfynu peidio â chymeradwyo’r drafft. Os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r drafft, ni chaiff CCAUC gyhoeddi’r drafft. Os yw’r drafft, yn yr achos hwnnw, yn ddrafft o’r Cod cyntaf, rhaid i CCAUC gyflwyno drafft pellach o’r Cod hwnnw i Weinidogion Cymru. Fodd bynnag, os yw’r drafft yn ddrafft o God diwygiedig, gall CCAUC benderfyno a yw’n mynd i gyflwyno drafft pellach o’r Cod diwygiedig i Weinidogion Cymru, er bod hyn yn ddarostyngedig i bŵer cyfarwyddo Gweinidogion Cymru o dan adran 28(4). Os nad oes penderfyniad o’r fath yn cael ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, rhaid i CCAUC gyhoeddi’r Cod yn nhelerau’r drafft fel y’i cymeradwywyd gan Weinidogion Cymru.

Adran 31 – Monitro cydymffurfedd â’r Cod

90.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i CCAUC fonitro, neu wneud trefniadau ar gyfer monitro, cydymffurfedd gan sefydliadau rheoleiddiedig â’r Cod. Mae CCAUC yn gallu ymgymryd â’r gwaith monitro ei hun neu sicrhau bod y gwaith monitro yn cael ei wneud ar ei ran gan berson arall.

91.Mae’n bosibl y bydd CCAUC yn dymuno trefnu i berson arall ymgymryd â’r gwaith o fonitro grŵp o sefydliadau rheoleiddiedig pan fo corff arall eisoes yn ymgymryd â gwaith tebyg, er enghraifft Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â sefydliadau addysg bellach sydd hefyd yn sefydliadau rheoleiddiedig. Fel arall, efallai y bydd CCAUC am drefnu i asesydd arbenigol neu archwilydd allanol ymgymryd â swyddogaethau sicrwydd.

Adrannau 32 i 34 – Methiant i gydymffurfio â’r Cod

92.Mae adrannau 32 i 34 yn darparu pwerau gorfodi i CCAUC os yw wedi ei fodloni bod sefydliad rheoleiddiedig wedi methu, neu’n debygol o fethu, â chydymffurfio â gofynion y Cod.

93.Caiff CCAUC roi cyfarwyddydau i gorff llywodraethu sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gymryd, neu beidio â chymryd, camau penodedig i:

94.Bydd y gweithdrefnau hysbysiad rhybuddio ac adolygu yn adrannau 41 i 44 yn gymwys i gyfarwyddydau o dan adran 33.

95.Mae adran 34 yn caniatáu i CCAUC roi cyngor neu gymorth i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig neu gynnal neu drefnu adolygiad o sefydliad pan fo wedi ei fodloni bod sefydliad rheoleiddiedig wedi methu neu’n debygol o fethu â chydymffurfio â gofynion y Cod. Mae’r cyngor a’r cymorth a roddir gan CCAUC i’w rhoi gyda golwg ar wella’r ffordd y mae materion ariannol sefydliad rheoleiddiedig yn cael eu trefnu a’u rheoli.

96.Ar hyn o bryd, os yw CCAUC yn nodi enghreifftiau o reolaeth ariannol annigonol mae’n gallu sefydlu timau cymorth i helpu sefydliad i wneud gwelliannau. Rhagwelir y byddai CCAUC yn dymuno i’r dull hwn o weithredu barhau. Caiff CCAUC geisio defnyddio’r pŵer hwn i drefnu i dîm cymorth helpu sefydliad i wella’r ffordd y mae ei faterion ariannol yn cael eu trefnu a’u rheoli pan fo CCAUC wedi nodi methiant i gydymffurfio â’r Cod. Fel arall, caiff CCAUC drefnu adolygiad wedi ei dargedu o sefydliad penodol gan archwilwyr arbenigol, er enghraifft pan fo CCAUC wedi ei fodloni bod methiant i gydymffurfio â’r Cod yn debygol.

Adran 35 – Rheolaeth ariannol: dyletswydd i gydweithredu

97.Mae’r ddyletswydd hon yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau rheoleiddiedig gydweithredu â phersonau sy’n arfer swyddogaethau o dan adrannau 31 (monitro cydymffurfedd â’r Cod), 34 (mesurau eraill mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r Cod) a 36 (pwerau mynd i mewn ac arolygu).

98.Mae’r ddyletswydd i gydweithredu yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu sicrhau’r ddarpariaeth o wybodaeth, cymorth a mynediad i gyfleusterau sy’n ofynnol gan berson at ddibenion y swyddogaethau hynny.

99.Caiff CCAUC roi cyfarwyddyd i gorff llywodraethu os yw CCAUC wedi ei fodloni bod corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio a’i ddyletswydd i gydweithredu. Caiff y cyfarwyddyd ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu gymryd, neu beidio â chymryd, camau i sicrhau’r ddarpariaeth o wybodaeth, cymorth neu fynediad i gyfleusterau. Ni fydd cyfarwyddyd a roddir o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i’r weithdrefn hysbysiad rhybuddio ac adolygu a nodir yn adrannau 41 i 44.

Adran 36 - Rheolaeth ariannol: pwerau mynd i mewn ac arolygu

100.Mae’r adran hon yn darparu ar gyfer hawl i fynd i mewn ac arolygu at ddibenion arfer swyddogaethau o dan adran 31 (monitro cydymffurfedd â’r Cod) neu 34(2) (adolygu materion sy’n ymwneud â chydymffurfedd â’r Cod).

101.Caiff person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan CCAUC fynd i mewn i fangre sefydliad rheoleiddiedig at y dibenion hynny. Caiff person awdurdodedig hefyd edrych ar ddogfennau y daw o hyd iddynt yn y fangre, eu copïo neu eu cymryd.

102.Ni chaniateir i bŵer mynd i mewn ac arolygu ond gael ei arfer ar ôl rhoi hysbysiad rhesymol i’r corff llywodraethu. Fodd bynnag, nid yw’r gofyniad i roi hysbysiad rhesymol yn ofynnol mewn achosion brys neu pan fyddai rhoi hysbysiad yn tanseilio’r diben o arfer y pŵer mynd i mewn neu arolygu. Gallai mynd i mewn heb hysbysiad fod yn briodol pan fo CCAUC yn ystyried bod dogfennau perthnasol yn debygol o gael eu symud o fangre’r sefydliad neu eu dinistrio os rhoddir hysbysiad, neu pan fo CCAUC wedi ei fodloni ei bod yn debygol bod methiant ariannol ar ddigwydd.

103.Ni chaniateir i bŵer mynd i mewn ac arolygu ond gael ei arfer ar adegau rhesymol ac nid yw’n cynnwys pŵer i fynd i mewn i annedd (er enghraifft llety staff neu fyfyrwyr) heb gytundeb y meddiannydd.

104.Cyn arfer pŵer o dan yr adran hon rhaid i berson ddangos copi o’i awdurdodiad oddi wrth CCAUC os yw’n ofynnol iddo wneud hynny.

Rhan 5 – Cynlluniau Ffioedd a Mynediad: Tynnu Cymeradwyaeth yn Ôl etc

Adran 37 – Hysbysiad ynghylch gwrthod cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd

105.Mae hysbysiad ynghylch gwrthod cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd yn un o’r ffyrdd y gall CCAUC gymryd camau gorfodi yn erbyn sefydliad am beidio â chydymffurfio â:

106.Ar hyn o bryd gall CCAUC wrthod cymeradwyo cynllun ffioedd newydd o dan Ddeddf Addysg Uwch 2004 ar y sail o beidio â chydymffurfio â’r terfynau ar ffioedd myfyrwyr neu ddarpariaethau cyffredinol cynllun sefydliad a gymeradwywyd. Er nad yw ansawdd addysgol na rheolaeth ariannol yn rhan o’r trefniadau cynllunio ffioedd presennol, mae CCAUC yn rheoleiddio sefydliad mewn cysylltiad â’r materion hyn drwy delerau ac amodau cyllido.

107.Unwaith bod hysbysiad wedi ei roi, ni chaiff CCAUC gymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd hyd nes bod y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad wedi dod i ben. Fodd bynnag, caiff CCAUC dynnu hysbysiad yn ôl ac ar yr adeg honno bydd y cyfyngiad ar gymeradwyo cynllun newydd yn dod i ben. Er enghraifft, caiff CCAUC ystyried tynnu hysbysiad yn ôl os yw wedi ei fodloni bod sefydliad wedi mynd ati i ddatrys y methiant a nodwyd mewn cyfarwyddyd ac nad yw’n briodol parhau â chamau gorfodi.

108.Mae is-adran (7) yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i ddarparu ar gyfer:

109.Caiff CCAUC roi cyfarwyddyd o dan adran 13 i gorff llywodraethu sefydliad a fu’n sefydliad rheoleiddiedig gynt ond nad yw’n sefydliad rheoleiddiedig mwyach, pan fethodd y corff llywodraethu hwnnw â chydymffurfio â gofyniad cyffredinol mewn cynllun ffioedd a mynediad ar adeg pan oedd y cynllun hwnnw mewn grym. Mae adran 37(7) yn cymhwyso adran 37 i sefydliadau nad ydynt yn sefydliadau rheoleiddiedig ond sydd wedi methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd o dan adran 13.

110.Mae adrannau 41 i 44 yn nodi’r gweithdrefnau hysbysiad rhybuddio ac adolygu sy’n gymwys i roi hysbysiad o dan yr adran hon.

Adran 38 – Dyletswydd i dynnu cymeradwyaeth yn ôl

111.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i CCAUC dynnu ei gymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad yn ôl drwy roi hysbysiad i gorff llywodraethu sefydliad os yw wedi ei fodloni bod sefydliad wedi peidio:

112.Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau o dan is-adran (2) wneud darpariaeth ynghylch pa faterion y mae rhaid i CCAUC eu hystyried wrth benderfynu a yw’n ofynnol iddo dynnu cymeradwyaeth yn ôl. Gallai’r rheoliadau hynny, er enghraifft, ei gwneud yn ofynnol i CCAUC ystyried penderfyniadau a wneir gan y Comisiwn Elusennau sy’n ymwneud â statws elusennol sefydliad os yw’n credu bod sefydliad wedi colli ei statws elusennol.

113.Nid yw’r gofynion gweithdrefnol yn adrannau 41 i 44 (gweithdrefnau rhybuddio ac adolygu) yn gymwys i’r adran hon. Fodd bynnag, caiff rheoliadau a wneir o dan is-adran (3) ddarparu ar gyfer y weithdrefn y mae rhaid i CCAUC ei dilyn. Mae’n cynnwys diwygio, cymhwyso neu addasu’r gofynion yn adrannau 41 i 44 at ddibenion yr adran hon. Gallai hynny, er enghraifft, ei gwneud yn ofynnol i CCAUC roi hysbysiad rhybuddio i gorff llywodraethu sefydliad ac ystyried y sylwadau a gyflwynwyd gan y corff llywodraethu cyn iddo benderfynu a yw’n ofynnol iddo dynnu cynllun ffioedd a mynediad sefydliad yn ôl.

Adran 39 - Pŵer i dynnu cymeradwyaeth yn ôl

114.Mae’r adran hon yn caniatáu i CCAUC dynnu ei gymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad yn ôl:

115.Gallai methu’n fynych (yng nghyd-destun ffioedd myfyrwyr a gofynion cyffredinol cynllun a gymeradwywyd) gynnwys nifer o fethiannau ar wahân neu ailadrodd yr un methiant neu barhau â’r un methiant. Mae adran 39(3) yn adlewyrchu’r ddarpariaeth yn adran 37(4). Mae adran 39(3) yn darparu, pan fo CCAUC wedi ei fodloni bod corff llywodraethu wedi cymryd pob cam rhesymol i gydymffurfio â gofyniad cyffredinol yn ei gynllun a gymeradwywyd, nad yw’r corff llywodraethu hwnnw i’w drin at ddibenion adran 39(2)(b) fel pe bai wedi methu â chydymffurfio â’r gofyniad hwnnw. Er enghraifft, caiff corff llywodraethu sefydliad ymrwymo yn ei gynllun a gymeradwywyd i ddarparu cymorth bwrsari i nifer penodol o fyfyrwyr. Mae nifer gwirioneddol y myfyrwyr sy’n cael bwrsari wedyn yn is na’r nifer a nodir yn y cynllun am fod nifer y myfyrwyr cymwys sy’n gwneud cais am y bwrsari yn llai na’r nifer a ddisgwyliwyd, er i’r bwrsari gael llawer o gyhoeddusrwydd. Mae’n bosibl y bydd CCAUC, yn y sefyllfa honno, wedi ei fodloni bod y corff llywodraethu wedi cymryd pob cam rhesymol i gydymffurfio â’r gofyniad cyffredinol.

116.Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch yr hyn y mae rhaid i CCAUC ei ystyried wrth benderfynu pa un ai i roi hysbysiad ei fod yn tynnu ei gymeradwyaeth i gynllun yn ôl o dan yr adran hon. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys gofyniad i CCAUC ystyried effaith addysg o ansawdd annigonol ar fyfyrwyr neu effaith peidio â chydymffurfio â’r Cod ar sefydlogrwydd ariannol sefydliad.

117.Mae’r gweithdrefnau hysbysiad rhybuddio ac adolygu yn adrannau 41 i 44 yn gymwys i hysbysiad a roddir gan CCAUC o dan yr adran hon.

Adran 40 – Cyhoeddi etc. hysbysiad o dan Ran 5

118.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i CCAUC roi copi o unrhyw hysbysiad y mae’n ei roi o dan Ran 5 i Weinidogion Cymru a chyhoeddi’r hysbysiad. Caiff rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru wneud darpariaeth ynghylch y ffordd y mae rhaid i CCAUC roi copi o’r hysbysiad i Weinidogion Cymru a chyhoeddi’r hysbysiad, ac ynghylch pryd y mae rhaid iddo wneud hynny. Gallai rheoliadau gynnwys gofyniad i CCAUC ddarparu copi o’r hysbysiad i Weinidogion Cymru o fewn cyfnod penodedig o amser ar ôl ei roi i sefydliad. Gallai rheoliadau hefyd ei gwneud yn ofynnol i CCAUC gyhoeddi’r hysbysiad ar wefan neu mewn papur newydd.

Rhan 6 – Hysbysiadau a chyfarwyddydau a roddir gan CCAUC

Adran 41 – Cymhwyso adrannau 42 i 44

119.Mae adrannau 42 i 44 yn ymwneud â hysbysiadau rhybuddio a roddir gan CCAUC cyn iddo roi hysbysiadau a chyfarwyddydau penodol i gorff llywodraethu sefydliad, yr wybodaeth y mae CCAUC i’w darparu gyda’r hysbysiadau a’r cyfarwyddydau hynny a’r broses o adolygu sydd ar gael mewn cysylltiad â’r hysbysiadau a’r cyfarwyddydau hynny.

120.Mewn cymhariaeth, mae darpariaethau presennol o dan Ddeddf Addysg Uwch 2004 yn darparu i CCAUC roi hysbysiad i gorff llywodraethu sefydliad pan fo â’i fryd ar wrthod cymeradwyo cynllun arfaethedig y sefydliad neu ar wrthod cymeradwyo cynllun newydd yn ystod cyfnod a bennir pan ddaw cynllun presennol y sefydliad i ben. Mae’r darpariaethau presennol hynny yn caniatáu i’r corff llywodraethu gyflwyno sylwadau i CCAUC ac yn ei gwneud yn ofynnol i CCAUC ystyried unrhyw sylwadau o’r fath cyn iddo wneud penderfyniad. Mae’r darpariaethau presennol hefyd yn caniatáu i’r corff llywodraethu wneud cais i berson neu banel o bersonau a benodir gan Weinidogion Cymru am i benderfyniad CCAUC gael ei adolygu (sydd â’r un effaith, i ddechrau, â phenderfyniad dros dro).

121.Mae’r hysbysiadau a’r cyfarwyddydau y mae adrannau 42 i 44 yn gymwys iddynt wedi eu disgrifio yn adran 41(1). Nid yw’r hysbysiadau a’r cyfarwyddydau hynny yn cynnwys hysbysiad o dan adran 38 (dyletswydd CCAUC i dynnu cymeradwyaeth yn ôl) nac ychwaith yn cynnwys cyfarwyddydau o dan adrannau 16, 19 neu 35 (cyfarwyddydau ynghylch methiant i gydweithredu). Nid yw adrannau 42 i 44 yn gymwys i gyfarwyddyd a roddir gan CCAUC pan na fo’r cyfarwyddyd hwnnw ond yn dirymu cyfarwyddyd cynharach gan CCAUC.

Adran 42 – Hysbysiadau a chyfarwyddydau arfaethedig: gofyniad i roi hysbysiad rhybuddio

122.Pan fo CCAUC yn bwriadu rhoi hysbysiad neu gyfarwyddyd a ddisgrifir yn adran 41(1) i gorff llywodraethu sefydliad, rhaid i CCAUC, yn y lle cyntaf, roi hysbysiad rhybuddio i’r corff llywodraethu.

123.Rhaid i hysbysiad rhybuddio nodi’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd arfaethedig a datgan rhesymau CCAUC dros fwriadu ei roi. Rhaid i’r hysbysiad rhybuddio hefyd hysbysu’r corff llywodraethu y caiff gyflwyno sylwadau am yr hysbysiad neu’r cyfarwyddyd arfaethedig. Caiff rheoliadau ddarparu ar gyfer y cyfnod y caniateir i sylwadau o’r fath gael eu cyflwyno ynddo a’r ffordd y caniateir gwneud hynny. Er enghraifft, gallai rheoliadau ddarparu bod CCAUC i gael sylwadau yn ysgrifenedig a bod rhaid i unrhyw sylwadau o’r fath ddod i law o fewn 40 niwrnod calendr i ddyddiad yr hysbysiad rhybuddio.

Adran 43 – Gwybodaeth sydd i’w rhoi gyda hysbysiadau a chyfarwyddydau

124.Os yw CCAUC yn rhoi hysbysiad neu gyfarwyddyd a ddisgrifir yn adran 41(1) i gorff llywodraethu sefydliad, rhaid iddo, ar yr un pryd, roi datganiad i’r corff llywodraethu hwnnw sy’n nodi rhesymau CCAUC dros roi’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd ac sy’n hysbysu’r corff llywodraethu y caiff wneud cais am adolygiad o’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd o dan adran 44. Rhaid i’r datganiad hefyd gynnwys unrhyw wybodaeth arall y mae’n ofynnol ei chynnwys drwy reoliadau. Gallai rheoliadau, er enghraifft, ei gwneud yn ofynnol i ddatganiad gael ei gynnwys i hysbysu’r corff llywodraethu y bydd copi o’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd yn cael ei roi i Weinidogion Cymru a’i gyhoeddi (yn achos cyfarwyddyd o dan adran 11 neu hysbysiadau o dan adrannau 37 neu 39).

Adran 44 – Adolygu hysbysiadau a chyfarwyddydau

125.Mae’r adran hon yn ymwneud ag adolygiad o hysbysiad neu gyfarwyddyd a ddisgrifir yn adran 41(1) unwaith y mae CCAUC wedi penderfynu rhoi hysbysiad neu gyfarwyddyd o’r fath i gorff llywodraethu sefydliad. Mae’r adran hon yn seiliedig ar adran 39 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 ac mae’r weithdrefn adolygu yn debygol o fod yn debyg i’r weithdrefn adolygu sydd yn ei lle o dan y Ddeddf honno.

126.Caiff corff llywodraethu sefydliad y mae’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd wedi ei gyfeirio ato wneud cais am adolygiad o’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd hwnnw. Cynhelir adolygiad gan berson neu banel o bersonau a benodir gan Weinidogion Cymru.

127.Mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan yr adran hon mewn cysylltiad ag adolygiadau.

128.Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch y seiliau y caniateir i gais am adolygiad gael ei wneud gan gorff llywodraethu arnynt. Gallai seiliau o’r fath ar gyfer adolygiad gynnwys, er enghraifft, fod y corff llywodraethu yn gallu cyflwyno ffactor perthnasol i’w ystyried nad oedd, am resymau da, wedi ei ddwyn i sylw CCAUC yn y gorffennol, neu fod y corff llywodraethu o’r farn bod CCAUC wedi diystyru ffactor perthnasol y dylai fod wedi ei ystyried wrth benderfynu rhoi’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd.

129.Caiff rheoliadau hefyd ddarparu ar gyfer y cyfnod y caniateir i gais gael ei wneud ynddo a’r ffordd y caniateir gwneud hynny. Er enghraifft, gallai rheoliadau ddarparu bod corff llywodraethu i wneud cais ysgrifenedig am adolygiad ac o fewn 40 niwrnod calendr i ddyddiad yr hysbysiad neu’r cyfarwyddyd.

130.Caiff rheoliadau hefyd wneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn sydd i’w dilyn gan berson neu banel sy’n cynnal yr adolygiad a’r camau i’w cymryd gan CCAUC yn dilyn adolygiad. Gallai rheoliadau o’r fath, er enghraifft, ei gwneud yn ofynnol i’r panel wneud argymhelliad o ganlyniad i’r adolygiad a’i gwneud yn ofynnol i CCAUC ystyried ei benderfyniad i roi’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd yn sgil yr argymhelliad hwnnw.

131.Caiff rheoliadau hefyd ddarparu i hysbysiad neu gyfarwyddyd y mae adran 44 yn gymwys iddo beidio â chael ei drin fel pe bai wedi ei roi gan CCAUC hyd nes bod camau penodedig wedi eu cymryd neu hyd nes bod cyfnod penodedig wedi dod i ben. Gallai rheoliadau, er enghraifft, ddarparu bod yr hysbysiad neu’r cyfarwyddyd i beidio â chael ei drin fel pe bai wedi ei roi hyd nes bod adolygiad wedi ei gwblhau neu hyd nes bod yr amser ar gyfer gwneud cais am adolygiad wedi dod i ben (heb i gais gael ei wneud gan y corff llywodraethu o dan sylw). Byddai hyn yn golygu nad oedd hysbysiad wedi cymryd effaith, neu nad oedd yn ofynnol i gorff llywodraethu gydymffurfio â chyfarwyddyd, tra oedd adolygiad yn digwydd neu pan ellid gwneud cais am adolygiad o hyd.

Adran 45 – Cyfarwyddydau: cydymffurfio a gorfodi

132.Pan fo CCAUC yn rhoi cyfarwyddyd o dan y Ddeddf i gorff llywodraethu, mae’n ofynnol i’r corff llywodraethu hwnnw gydymffurfio â’r cyfarwyddyd. Os yw’r corff llywodraethu yn methu â chydymffurfio â’r cyfarwyddyd, gall CCAUC wneud cais i’r llys er mwyn i’r cyfarwyddyd gael ei orfodi. Gall gwaharddeb a roddir gan y llys ei gwneud yn ofynnol i sefydliad gymryd camau penodol neu beidio â chymryd camau penodol.

Adran 46 – Cyfarwyddydau: cyffredinol

133.Os yw CCAUC yn rhoi cyfarwyddyd i gorff llywodraethu o dan y Ddeddf, rhaid i’r cyfarwyddyd hwnnw fod yn ysgrifenedig. Ar ôl rhoi cyfarwyddyd, gall CCAUC amrywio’r cyfarwyddyd hwnnw neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach. Nid yw adrannau 42 i 44 yn gymwys i gyfarwyddyd sy’n darparu ar gyfer dirymu cyfarwyddyd cynharach yn unig, ond maent yn gymwys i gyfarwyddyd sy’n amrywio cyfarwyddyd cynharach yr oedd yr adrannau hynny yn gymwys iddo (gweler adran 41).

Rhan 7 –Darpariaeth atodol ynghylch swyddogaethau CCAUC

Adran 47 – Cydnawsedd â chyfraith elusennau a dogfennau llywodraethu sefydliadau

134.Mae adran 47(1)(a) a (b) yn gosod cyfyngiadau cyffredinol ar arfer swyddogaethau CCAUC o dan y Ddeddf.

135.Effaith adran 47(1)(a) yw na all unrhyw gofynion y caiff CCAUC eu gosod ar gyrff llywodraethu sefydliadau o dan y Ddeddf ei gwneud yn ofynnol i’r cyrff llywodraethu hynny weithredu mewn modd sy’n torri eu rhwymedigaethau fel ymddiriedolwyr elusen. (Gallai CCAUC, er enghraifft, osod gofynion pan fo CCAUC yn rhoi cyfarwyddyd i sefydliad neu fel darpariaeth yn y Cod rheoli ariannol.)

136.Mae adran 47(1)(b) yn darparu na all CCAUC ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu sefydliad wneud unrhyw beth sy’n anghydnaws â’i ddogfennau llywodraethu. At y dibenion hyn, mae dogfennau llywodraethu sefydliad wedi eu diffinio yn adran 47(2) mewn perthynas â sefydliad a sefydlwyd drwy siarter Frenhinol, sefydliadau sy’n cael eu rhedeg gan gorfforaethau addysg uwch neu gorfforaethau addysg bellach, sefydliadau a ddynodwyd o dan adran 129 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 neu adran 28 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 a sefydliadau eraill sy’n cael eu rhedeg gan gwmnïau.

Adran 48 – Dyletswydd i ystyried pwysigrwydd diogelu rhyddid academaidd

137.Mae adran 48 yn gosod dyletswydd gyffredinol ar CCAUC i ystyried pwysigrwydd diogelu rhyddid academaidd wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Ddeddf. Yn benodol, rhaid i CCAUC ystyried pwysigrwydd diogelu rhyddid sefydliadau i benderfynu ar y materion a restrir yn adran 48(a) i (c). Pan na fo arfer swyddogaeth gan CCAUC o dan y Ddeddf yn berthnasol o gwbl i ddiogelu rhyddid sefydliadol, neu pan na fo arfer swyddogaeth yn cynnwys unrhyw ddewis ar ran CCAUC, ni fydd y ddyletswydd yn adran 48, yn ymarferol, yn ei gwneud yn ofynnol i CCAUC gymryd unrhyw gamau ychwanegol.

Adran 49 – Dyletswydd i ystyried canllawiau Gweinidogion Cymru

138.Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i CCAUC sy’n ymwneud ag arfer swyddogaethau CCAUC o dan y Ddeddf. Er enghraifft, gallai Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i CCAUC o ran arfer ei swyddogaethau monitro a gwerthuso o dan adran 15 sy’n ymwneud â chynlluniau ffioedd a mynediad, neu mewn perthynas â’i ddyletswydd o dan adran 17 (asesu ansawdd yr addysg). Yn yr un modd, gallai Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i CCAUC mewn cysylltiad â llunio Cod rheoli ariannol neu’r datganiad ar y polisi ymyrryd (gweler adran 52).

Adran 50 – Adroddiadau blynyddol

139.Mae darpariaeth bresennol yn adran 40A o Ddeddf Addysg Uwch 2004 yn ei gwneud yn ofynnol i CCAUC ddarparu adroddiad blynyddol i Weinidogion Cymru ar sut y mae CCAUC wedi cyflawni ei swyddogaethau o dan y Ddeddf honno.

140.Mae adran 50 o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i CCAUC ddarparu adroddiad blynyddol i Weinidogion Cymru ar sut y mae CCAUC wedi arfer ei swyddogaethau yn rhinwedd y Ddeddf. Mae gan CCAUC yr hyblygrwydd i bennu pa bryd y dylai’r cyfnod adrodd cyntaf ddod i ben, a bydd hynny’n pennu’r cyfnod adrodd blynyddol o hynny ymlaen. Mae Gweinidogion Cymru yn gallu pennu’r gofynion y mae rhaid i adroddiad o’r fath gydymffurfio â hwy. Gallai gofyniad o’r fath ymwneud â chyhoeddi’r adroddiad ond gall hefyd ymwneud â ffurf a chynnwys yr adroddiad. Cyn gynted â phosibl ar ôl i adroddiad blynyddol gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru gan CCAUC, rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o’r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Adran 51 – Adroddiadau arbennig

141.Mae adran 51 yn debyg i adran 40A(2) o Ddeddf Addysg Uwch 2004. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i CCAUC ddarparu adroddiad arbennig i Weinidogion Cymru pan y’i cyfarwyddir i wneud hynny.

142.Gallai Gweinidogion Cymru ddymuno cael adroddiad arbennig ynghylch y graddau y mae corff llywodraethu sefydliad yn cydymffurfio â’r terfynau ffioedd a nodir yn ei gynllun a gymeradwywyd neu ansawdd yr addysg a ddarperir mewn sefydliad (efallai pan fo pryderon wedi eu mynegi mewn perthynas â sefydliad penodol). Yn yr un modd, gallai Gweinidogion Cymru, o ystyried swyddogaethau gwerthuso CCAUC o dan adran 15, ddymuno cael adroddiad ar effeithiolrwydd cynlluniau a gymeradwywyd yn gyffredinol o ran hybu cyfle cyfartal mewn cysylltiad â mynediad i addysg uwch ac o ran hybu addysg uwch.

Adran 52 – Datganiad mewn cysylltiad â swyddogaethau ymyrryd

143.Mae adran 52 yn ei gwneud yn ofynnol i CCAUC lunio a chyhoeddi datganiad sy’n nodi sut y mae’n bwriadu arfer rhai o’i swyddogaethau. Mae’r swyddogaethau hynny wedi eu disgrifio yn adran 52(5). Nid yw adran 52(5) yn ymestyn i bwerau cyfarwyddo CCAUC o dan adrannau 16, 21 neu 35 sy’n ymwneud â dyletswydd corff llywodraethu i gydweithredu.

144.Mae adran 52(3) yn ei gwneud yn ofynnol i CCAUC ymgynghori â chorff llywodraethu pob sefydliad rheoleiddiedig ac unrhyw bersonau eraill sy’n briodol yn ei farn ef cyn cyhoeddi’r datganiad neu ddiwygio’r datganiad. Gallai’r personau eraill hynny gynnwys sefydliadau a oedd yn arfer bod yn sefydliadau rheoleiddiedig, ond nid ydynt yn sefydliadau rheoleiddiedig bellach.

Adran 53 – Gwybodaeth a chyngor sydd i’w rhoi gan CCAUC i Weinidogion Cymru

145.Mae adran 53 yn debyg i’r darpariaethau presennol yn adran 40A(3) o Ddeddf Addysg Uwch 2004. Mae’n darparu y gall Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i CCAUC ddarparu unrhyw wybodaeth a chyngor sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal mewn cysylltiad â mynediad i addysg uwch a hybu addysg uwch sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru. Mae hefyd yn caniatáu i CCAUC ddarparu gwybodaeth neu gyngor arall sy’n ymwneud â’r materion hynny i Weinidogion Cymru.

Adran 54 – Gwybodaeth a chyngor arall

146.Mae’r darpariaethau yn adran 54(1) yn debyg i’r darpariaethau presennol yn adran 40A(4) o Ddeddf Addysg Uwch 2004. O dan adran 54(1), mae CCAUC yn gallu adnabod arfer da sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal mewn cysylltiad â mynediad i addysg uwch a hybu addysg uwch a rhoi gwybodaeth a chyngor am arfer o’r fath i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig, neu gyrff llywodraethu sefydliadau o’r fath yn gyffredinol. Wrth ddatblygu unrhyw wybodaeth a chyngor at y dibenion hyn, bydd CCAUC yn gallu ystyried y gwerthusiadau a wneir ganddo o dan adran 15 o’r Ddeddf. Mae adran 54(2) yn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig ystyried unrhyw wybodaeth a chyngor a roddir gan CCAUC o dan adran 54(1) wrth arfer ei swyddogaethau.

147.Mae adran 54(3) a (4) yn galluogi CCAUC i ddarparu gwybodaeth a chyngor arall. Gallai hyn gynnwys darparu gwybodaeth a chyngor i gorff llywodraethu sefydliad cyn i’r corff llywodraethu hwnnw wneud cais am gymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad o dan adran 2. Gallai CCAUC, er enghraifft, ddarparu gwybodaeth a chyngor mewn perthynas â’r gofynion y mae rhaid i gyrff llywodraethu sefydliadau gydymffurfio â hwy yn dilyn cymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad. Gallai gwybodaeth a chyngor a ddarperid o dan y pwerau hyn hefyd ymwneud â rheolaeth ariannol sefydliad rheoleiddiedig a’u swyddogaethau eraill.

Rhan 8 - Cyffredinol

Adrannau 55 a 56 – Rheoliadau a Chyfarwyddydau

148.Mae adran 55 yn darparu i reoliadau o dan y Ddeddf gael eu gwneud drwy offeryn statudol. Bydd y rhan fwyaf o reoliadau yn ddarostyngedig i’r weithdrefn penderfyniad negyddol. Yr eithriadau yw’r rheoliadau hynny a wneir o dan adrannau a nodir yn is-adran (4) y mae rhaid eu cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, sef:

149.Mae adran 56 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru.

Adran 58 – Darpariaeth ganlyniadol a throsiannol etc

150.O ganlyniad i ddarpariaethau sylweddol y Ddeddf, mae angen gwneud diwygiadau canlyniadol i ddarpariaethau mewn deddfwriaeth arall ynghyd â diddymu darpariaethau mewn deddfwriaeth arall. Mae’r rhain wedi eu nodi yn Rhan 1 o’r Atodlen i’r Ddeddf. Mae’r darpariaethau trosiannol wedi eu nodi yn Rhan 2 o’r Atodlen i’r Ddeddf.

Yr Atodlen

151.Mae Rhan 1 o’r Atodlen (paragraffau 1 i 26) yn rhestru’r deddfiadau hynny y gwneir diwygiadau canlyniadol iddynt. Un effaith o Ran 1 o’r Atodlen fydd diddymu darpariaethau Deddf Addysg 2004 sy’n ymwneud â chynlluniau ffioedd i’r graddau y maent yn ymwneud â Chymru.

152.Mae Rhan 2 o’r Atodlen (paragraffau 27 i 31) yn gwneud darpariaeth ar gyfer trefniadau trosiannol. Bydd trefniadau trosiannol yn gymwys i gynlluniau ffioedd a gymeradwywyd o dan Ddeddf Addysg 2004 sy’n pennu terfynau ffioedd ar gyfer blynyddoedd academaidd sy’n dechrau yn ystod y cyfnod trosiannol, sef y cyfnod hyd at a chan gynnwys 31 Awst 2017. Bydd y trefniadau yn darparu bod y cynlluniau hynny i’w trin fel cynlluniau ffioedd a mynediad a gymeradwywyd o dan y Ddeddf at ddibenion penodol. Bydd hyn yn caniatáu i sefydliadau sydd â chynlluniau ffioedd a gymeradwywyd cyn i’r Ddeddf ddod i rym weithredu, i raddau cyfyngedig, o dan y cynllun rheoleiddiol a sefydlir gan y Ddeddf.

153.Bydd sefydliadau sy’n ddarostyngedig i’r trefniadau trosiannol yn ddarostyngedig i’r rhan fwyaf o ddarpariaethau’r Ddeddf sy’n ymwneud â therfynau ar ffioedd myfyrwyr ac ansawdd yr addysg, ond ni fyddant yn ddarostyngedig i’r Cod.

154.Bydd trefniadau trosiannol yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â sefydliadau sydd â chynlluniau ffioedd a gymeradwywyd o dan Ddeddf Addysg Uwch 2004 ar unrhyw reoliadau sydd i’w gwneud o dan adran 4(3) yn ystod y cyfnod trosiannol. Bydd trefniadau trosiannol hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i CCAUC ymgynghori â sefydliadau o’r fath ar unrhyw ganllawiau sydd i’w dyroddi neu i’w cymeradwyo o dan adran 24, ar God drafft ac ar Ddatganiad drafft ar y polisi ymyrryd. Bydd CCAUC hefyd yn gallu darparu cyngor a chymorth (o dan adran 54(1)) i’r sefydliadau hynny. Rhagwelir y bydd CCAUC yn llunio datganiad ar y polisi ymyrryd a’r Cod ac yn ymgynghori arnynt yn ystod y cyfnod trosiannol (gweler paragraff 29(2) o’r Atodlen). Rhagwelir y bydd y datganiad a’r Cod yn cymryd effaith o fis Medi 2017 ymlaen.

Adran 59 – Cychwyn

155.Mae’r adran hon yn ymdrin â chychwyn y Ddeddf ar ôl iddi gael y Cydsyniad Brenhinol. Mae’n darparu i Ran 1 (Trosolwg o’r Ddeddf) a’r rhan fwyaf o’r darpariaethau cyffredinol yn Rhan 8 ddod i rym ar y diwrnod y mae’r Ddeddf yn cael y Cydsyniad Brenhinol. Bydd darpariaethau sylweddol y Ddeddf, sydd wedi eu cynnwys yn Rhannau 2 i 7, adran 59(1) a (2) a’r Atodlen, yn dod i rym yn unol â gorchmynion a wneir gan Weinidogion Cymru.

Adran 60 – Enw byr etc

156.Mae is-adran (1) yn darparu mai enw’r Ddeddf yw Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015. Mae’r Ddeddf i’w chynnwys yn y rhestr o Ddeddfau Addysg a nodir yn adran 578 o Ddeddf Addysg 1996 (is-adran 2)). Bydd unrhyw gyfeiriad mewn deddfwriaeth at “y Deddfau Addysg” yn cynnwys cyfeiriad at y Ddeddf hon.

Cofnod Y Trafodion Yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru

157.Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o hynt y Ddeddf drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael Cofnod y Trafodion a rhagor o wybodaeth am hynt y Ddeddf hon ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar:

CyfnodDyddiad
Cyflwynwyd19 Mai 2014
Cyfnod 1 – Dadl14 Hydref 2014
Cyfnod 2 Pwyllgor Craffu – ystyried y gwelliannau5 Tachwedd 2014
13 Tachwedd 2014
Cyfnod 3 Cyfarfod Llawn – ystyried y gwelliannau20 Ionawr 2015
Cyfnod 4 Cymeradwywyd gan y Cynulliad27 Ionawr 2015
Y Cydsyniad Brenhinol12 Mawrth 2015