RHAN 1CYFLWYNIAD
I11Trosolwg o’r Ddeddf hon
1
Mae wyth Rhan i’r Ddeddf hon.
2
Mae’r Rhan hon yn cynnwys trosolwg o’r Ddeddf.
3
Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch cynlluniau ffioedd a mynediad. Mae’n ymdrin â—
a
cynnwys cynllun ffioedd a mynediad, gan gynnwys terfyn ffioedd;
b
methiant i gydymffurfio â therfyn ffioedd neu â gofyniad arall sydd wedi ei gynnwys mewn cynllun ffioedd a mynediad;
c
dilysrwydd contractau penodol;
d
monitro cynlluniau ffioedd a mynediad.
4
Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch asesu ansawdd yr addysg a ddarperir gan neu ar ran sefydliadau sydd â chynllun ffioedd a mynediad, gan gynnwys darpariaeth ynghylch—
a
y pwerau sydd ar gael at ddibenion asesu;
b
y camau y caiff CCAUC eu cymryd mewn cysylltiad ag addysg o ansawdd annigonol.
5
Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch llunio a chyhoeddi cod sy’n ymwneud â threfnu a rheoli materion ariannol sefydliadau sydd â chynllun ffioedd a mynediad, gan gynnwys darpariaeth ynghylch—
a
cydymffurfedd â’r cod;
b
y pwerau sydd ar gael at ddibenion monitro cydymffurfedd â’r cod, ac mewn achos o fethu â chydymffurfio â’r cod.
6
Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer amgylchiadau—
a
pan gaiff CCAUC wrthod cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd ar gyfer sefydliad;
b
pan fo rhaid i CCAUC, neu pan gaiff CCAUC, dynnu’n ôl ei gymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad sefydliad.
7
Mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth weithdrefnol ynghylch hysbysiadau a chyfarwyddydau a roddir gan CCAUC (gan gynnwys darpariaeth ynghylch adolygu hysbysiadau a chyfarwyddydau penodol).
8
Mae Rhan 7 yn gwneud darpariaeth atodol ynghylch swyddogaethau CCAUC, gan gynnwys darpariaeth sy’n ymwneud â chanllawiau, adroddiadau, gwybodaeth a chyngor.
9
Mae Rhan 8 yn cynnwys darpariaethau cyffredinol, gan gynnwys darpariaeth ynghylch—
a
arfer pwerau i wneud rheoliadau;
b
dehongli’r termau a ddefnyddir yn y Ddeddf.
10
Mae’r Rhan honno hefyd yn cyflwyno Atodlen sy’n cynnwys diwygiadau i ddeddfiadau presennol a darpariaeth drosiannol.
C3RHAN 2CYNLLUNIAU FFIOEDD A MYNEDIAD
Cais am gymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad
I22C3Cais gan sefydliad am gymeradwyaeth CCAUC i gynllun ffioedd a mynediad
I1291
Caiff corff llywodraethu sefydliad o fewn is-adran (3) wneud cais i CCAUC am gymeradwyaeth CCAUC i gynllun ffioedd a mynediad arfaethedig sy’n ymwneud â’r sefydliad.
I1292
Mae cynllun ffioedd a mynediad yn gynllun sy’n cydymffurfio ag adrannau 4 i 6.
I1293
Mae sefydliad o fewn yr is-adran hon yn sefydliad yng Nghymru—
a
sy’n darparu addysg uwch, a
b
sy’n elusen.
I63I1314
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch gwneud cais am gymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad.
I33C3Dynodi darparwyr addysg uwch eraill
I911
Caiff Gweinidogion Cymru, yn dilyn cais gan ddarparwr addysg uwch o fewn is-adran (2), ddynodi’r darparwr at ddibenion yr adran hon.
I912
Mae darparwr addysg uwch o fewn yr is-adran hon yn ddarparwr—
a
sy’n darparu addysg uwch yng Nghymru ac sy’n elusen, ond
b
na fyddai (oni bai am y dynodiad) yn cael ei ystyried yn sefydliad at ddibenion y Ddeddf hon.
I913
Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan is-adran (4)(d), mae darparwr addysg uwch a ddynodir o dan yr adran hon, oni bai bod y dynodiad wedi ei dynnu’n ôl, i’w drin, at ddibenion unrhyw ddarpariaeth a wneir gan neu o dan y Ddeddf hon, fel pe bai’n sefydliad.
I64I944
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—
a
gwneud cais am ddynodiad;
b
gwneud dynodiadau o dan yr adran hon (gan gynnwys darpariaeth ynghylch y materion sydd i’w hystyried wrth benderfynu pa un ai i wneud dynodiad);
c
tynnu dynodiad yn ôl (gan gynnwys darpariaeth ynghylch y materion sydd i’w hystyried wrth benderfynu pa un ai i dynnu dynodiad yn ôl);
d
effaith tynnu dynodiad yn ôl (gan gynnwys darpariaeth i ddarparwr y mae ei ddynodiad wedi ei dynnu’n ôl barhau i gael ei drin fel sefydliad at ddibenion rhagnodedig).
Cynnwys cynllun ffioedd a mynediad
I44Y cyfnod y mae cynllun yn ymwneud ag ef
I1351
Rhaid i gynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â sefydliad bennu cyfnod y mae i gael effaith mewn cysylltiad ag ef.
I1352
Ni chaniateir i’r cyfnod a bennir fod yn hwy na dwy flynedd.
I65I1323
Caiff rheoliadau ddiwygio is-adran (2) i roi cyfnod gwahanol yn lle’r cyfnod a grybwyllir am y tro yn yr is-adran honno.
I65I1324
Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (3), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—
a
CCAUC,
b
corff llywodraethu pob sefydliad rheoleiddiedig, ac
c
unrhyw bersonau eraill sy’n briodol yn eu barn hwy.
I1355
Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at y cyfnod y mae cynllun yn ymwneud ag ef yn gyfeiriadau at y cyfnod a bennir ynddo o dan yr adran hon.
I55Terfyn ffioedd
I1361
Rhaid i gynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â sefydliad—
a
pennu terfyn ffioedd, neu
b
darparu ar gyfer penderfynu ar derfyn ffioedd,
mewn perthynas â phob cwrs cymhwysol ac mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd berthnasol (ac at y diben hwn caiff bennu terfynau ffioedd gwahanol neu ddarparu ar gyfer penderfynu ar derfynau ffioedd gwahanol mewn perthynas â chyrsiau gwahanol ac mewn cysylltiad â blynyddoedd academaidd perthnasol gwahanol).
2
At y diben hwn—
I136a
mae terfyn ffioedd, mewn perthynas â chwrs, yn derfyn na chaniateir i’r ffioedd sy’n daladwy i’r sefydliad gan berson cymhwysol, mewn cysylltiad â’r person yn ymgymryd â’r cwrs, fynd uwch ei law;
I61C1I127b
mae cwrs cymhwysol yn gwrs, o unrhyw ddisgrifiad rhagnodedig, a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru;
I136c
mae blwyddyn academaidd berthnasol, mewn perthynas â chwrs, yn flwyddyn academaidd sy’n gymwys i’r cwrs, ac y mae ffioedd yn daladwy i’r sefydliad mewn cysylltiad â hi, ac sy’n dechrau o fewn y cyfnod y mae’r cynllun ffioedd a mynediad yn ymwneud ag ef.
I61I1273
Pan fo cynllun ffioedd a mynediad yn pennu terfyn ffioedd mewn perthynas â blwyddyn a chwrs, ni chaniateir i’r terfyn ffioedd a bennir fynd uwchlaw pa swm bynnag a ragnodir at ddibenion yr adran hon (“yr uchafswm”).
I1364
Pan fo cynllun ffioedd a mynediad yn darparu ar gyfer penderfynu ar derfyn ffioedd mewn perthynas â blwyddyn a chwrs, rhaid i’r cynllun bennu nad yw’r terfyn ffioedd y penderfynir arno yn unol â’r cynllun i fynd uwchlaw’r uchafswm.
I61I1275
Mae person cymhwysol, at ddibenion is-adran (2)(a), yn berson—
a
nad yw’n fyfyriwr rhyngwladol, a
b
sy’n dod o fewn unrhyw ddosbarth o bersonau a ragnodir at ddibenion yr adran hon.
I61I1276
Ni chaniateir i’r pŵer i ragnodi disgrifiad o gwrs o dan yr adran hon gael ei arfer er mwyn rhagnodi cwrs ôl-radd, oni bai ei fod yn gwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon.
I61I1277
Yn ogystal, ni chaniateir i’r pŵer i ragnodi disgrifiad o gwrs o dan yr adran hon gael ei arfer er mwyn gwahaniaethu—
a
mewn perthynas â chyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon, rhwng cyrsiau gwahanol ar sail y pynciau y rhoddir yr hyfforddiant hwnnw arnynt;
b
mewn perthynas â chyrsiau eraill, rhwng cyrsiau gwahanol ar yr un lefel neu ar lefel gyffelyb ar sail y meysydd astudio neu ymchwil y maent yn ymwneud â hwy.
I61I1278
Mae myfyriwr rhyngwladol yn berson nad yw’n dod o fewn unrhyw ddosbarth o bersonau a ragnodir o dan adran 1 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983 (codi ffioedd uwch yn achos myfyrwyr nad oes ganddynt gysylltiad rhagnodedig â’r Deyrnas Unedig) at ddibenion is-adran (1) neu (2) o’r adran honno.
I61I1279
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer amgylchiadau pan fo ffioedd sy’n daladwy i berson, mewn cysylltiad â pherson cymhwysol yn ymgymryd â chwrs, neu â rhan o gwrs, a ddarperir ar ran sefydliad, i’w trin at ddibenion is-adran (2)(a) fel pe baent yn daladwy i’r sefydliad hwnnw mewn cysylltiad â’r person cymhwysol yn ymgymryd â’r cwrs.
I66Hybu cyfle cyfartal ac addysg uwch
I62I1281
Rhaid i gynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â sefydliad gynnwys unrhyw ddarpariaethau a ragnodir sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal neu hybu addysg uwch.
I1342
Caiff cynllun ffioedd a mynediad hefyd gynnwys darpariaethau pellach sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal neu hybu addysg uwch.
I62I1283
Mae’r darpariaethau y caniateir eu rhagnodi o dan is-adran (1) i’w cynnwys mewn cynllun yn cynnwys darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r corff llywodraethu—
a
cymryd camau i ddenu ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol (neu sicrhau bod camau o’r fath yn cael eu cymryd);
b
cymryd camau i gadw myfyrwyr sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol (neu sicrhau bod camau o’r fath yn cael eu cymryd);
c
darparu cymorth ariannol i fyfyrwyr (neu sicrhau bod cymorth o’r fath yn cael ei ddarparu);
d
rhoi gwybodaeth ar gael i fyfyrwyr neu ddarpar fyfyrwyr ynghylch y cymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr o unrhyw ffynhonnell (neu sicrhau bod gwybodaeth o’r fath yn cael ei rhoi ar gael).
I62I1284
Mae’r darpariaethau y caniateir eu rhagnodi i’w cynnwys mewn cynllun hefyd yn cynnwys darpariaethau—
a
sy’n nodi amcanion sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch;
b
sy’n nodi gwybodaeth am wariant mewn cysylltiad â’r amcanion hynny;
c
sy’n ymwneud â’r monitro gan y corff llywodraethu o—
i
cydymffurfedd â darpariaethau’r cynllun;
ii
y cynnydd sydd wedi ei wneud i gyflawni unrhyw amcanion a nodir yn y cynllun yn rhinwedd paragraff (a).
I62I1285
Ond ni chaniateir i’r pŵer i ragnodi darpariaethau i’w cynnwys mewn cynllun ffioedd a mynediad gael ei arfer er mwyn ei gwneud yn ofynnol i gynllun sy’n ymwneud â sefydliad gynnwys darpariaeth—
a
sy’n cyfeirio at gyrsiau penodol neu at y dull o addysgu, goruchwylio neu asesu cyrsiau,
b
sy’n ymwneud â’r meini prawf ar gyfer derbyn myfyrwyr, neu
c
sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r sefydliad fynd i wariant, mewn unrhyw flwyddyn academaidd, o swm sy’n mynd uwchlaw swm incwm ffioedd cymhwysol y sefydliad y gellir ei briodoli i’r flwyddyn academaidd honno.
I62I1286
At ddibenion yr adran hon—
a
swm incwm ffioedd cymhwysol sefydliad y gellir ei briodoli i flwyddyn academaidd yw cyfanswm y ffioedd hynny sy’n daladwy i’r sefydliad, mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno, y mae terfyn ffioedd a bennir yn y cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â’r sefydliad yn gymwys mewn perthynas ag ef, neu y mae’r cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â’r sefydliad yn darparu ar gyfer penderfynu arno;
b
“grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol”, mewn perthynas â chynllun ffioedd a mynediad, yw grwpiau nad oes ganddynt, ar ddyddiad cymeradwyo’r cynllun o dan adran 7, gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg uwch.
I80I1347
Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at ofynion cyffredinol cynllun ffioedd a mynediad yn gyfeiriadau at ddarpariaethau sydd wedi eu cynnwys yn y cynllun yn rhinwedd yr adran hon sy’n ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu sefydliad wneud (neu beidio â gwneud) pethau penodedig.
Cymeradwyo etc cynllun ffioedd a mynediad
I77Cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad
I1301
Os gwneir cais i CCAUC i gymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad o dan adran 2, rhaid i CCAUC drwy roi hysbysiad i’r corff llywodraethu o dan sylw naill ai—
a
cymeradwyo’r cynllun, neu
b
gwrthod y cynllun.
I1302
Ond ni chaiff CCAUC gymeradwyo cynllun oni bai ei fod wedi ei fodloni bod y sefydliad y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef o fewn adran 2(3).
I66I1333
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch y materion sydd i’w hystyried gan CCAUC wrth wneud unrhyw benderfyniad mewn cysylltiad â chymeradwyo neu wrthod cynllun o dan yr adran hon.
I1304
At ddibenion y Ddeddf hon, y cyfnod pan fo cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â sefydliad ac sydd wedi ei gymeradwyo o dan yr adran hon mewn grym yw’r cyfnod sy’n dechrau ar y diwrnod y’i cymeradwyir o dan yr adran hon, ac sy’n dod i ben ar ba un bynnag o’r canlynol sydd gynharaf—
a
y diwrnod y daw’r cyfnod y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef i ben;
b
os caiff cymeradwyaeth CCAUC i’r cynllun ei dynnu’n ôl drwy hysbysiad a roddir o dan adran 38 neu 39, dyddiad yr hysbysiad.
I81I1305
Yn y Ddeddf hon—
a
mae cyfeiriadau at gynllun a gymeradwywyd yn gyfeiriadau at gynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â sefydliad sydd wedi ei gymeradwyo o dan yr adran hon ac sydd mewn grym ar hyn o bryd;
b
mae cyfeiriadau at sefydliad rheoleiddiedig yn gyfeiriadau at sefydliad y mae cynllun a gymeradwywyd yn ymwneud ag ef (ond gweler adrannau 26 a 27(8)).
I1306
Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i adran 37(5) (peidio â chymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd).
I1307
Am y ddarpariaeth weithdrefnol ynghylch hysbysiad o dan is-adran (1)(b), gweler adrannau 41 i 44.
I8I678Cyhoeddi cynllun a gymeradwywyd
1
Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig gyhoeddi cynllun y sefydliad a gymeradwywyd.
2
Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud drwy reoliadau o dan yr adran hon yn cynnwys darpariaeth ynghylch sut a phryd y mae cynllun i’w gyhoeddi.
I9I689Amrywio cynllun a gymeradwywyd
1
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth sy’n caniatáu i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig amrywio cynllun y sefydliad a gymeradwywyd.
2
Rhaid i’r rheoliadau ddarparu mai dim ond os caiff amrywiad ei gymeradwyo gan CCAUC y mae i gymryd effaith.
3
Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch gwneud ceisiadau am gymeradwyaeth i amrywiad a phenderfynu ar y ceisiadau hynny.
Cydymffurfio â’r terfyn ffioedd
I10I95C310C3Terfynau ar ffioedd myfyrwyr
1
Rhaid i gorff llywodraethu sefydliad o fewn is-adran (2) sicrhau nad yw ffioedd cwrs rheoleiddiedig yn mynd uwchlaw’r terfyn ffioedd cymwys.
2
Mae sefydliad yn dod o fewn yr is-adran hon os yw cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud ag ef wedi ei gymeradwyo o dan adran 7 (pa un a yw’r cynllun hwnnw mewn grym o hyd ai peidio).
3
“Ffioedd cwrs rheoleiddiedig” yw’r ffioedd sy’n daladwy i’r sefydliad gan berson cymhwysol—
a
mewn cysylltiad â’r person yn ymgymryd â chwrs cymhwysol, a
b
mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd sy’n gymwys i’r cwrs hwnnw, pan fo’r flwyddyn honno yn dechrau ar adeg o fewn y cyfnod a bennir o dan adran 4 yng nghynllun ffioedd a mynediad diweddaraf y sefydliad (pa un a yw’r cynllun hwnnw mewn grym o hyd ai peidio).
4
Cynllun ffioedd a mynediad diweddaraf y sefydliad yw’r cynllun ffioedd a mynediad a gymeradwywyd yn fwyaf diweddar o dan adran 7 mewn perthynas â’r sefydliad.
5
Y terfyn ffioedd cymwys yw—
a
mewn achos pan fo cynllun ffioedd a mynediad diweddaraf y sefydliad yn pennu terfyn ffioedd ar gyfer y cwrs a’r flwyddyn o dan sylw, y terfyn hwnnw;
b
mewn achos pan fo cynllun ffioedd a mynediad diweddaraf y sefydliad yn darparu ar gyfer penderfynu ar derfyn ffioedd ar gyfer y cwrs a’r flwyddyn o dan sylw, y terfyn hwnnw fel y penderfynir arno yn unol â’r cynllun.
I1111C3Cyfarwyddydau cydymffurfio ac ad-dalu
I921
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo CCAUC wedi ei fodloni bod corff llywodraethu sefydliad wedi methu â chydymffurfio ag adran 10(1).
I922
Caiff CCAUC gyfarwyddo’r corff llywodraethu i wneud naill ai un o’r canlynol neu’r ddau—
a
cydymffurfio ag adran 10(1);
b
ad-dalu’r ffioedd uwchlaw’r terfyn a dalwyd i’r sefydliad.
I923
Caiff cyfarwyddyd o dan yr adran hon (“cyfarwyddyd cydymffurfio ac ad-dalu”) bennu—
a
y camau sydd i’w cymryd (neu nad ydynt i’w cymryd) gan y corff llywodraethu at y diben o gydymffurfio ag adran 10(1);
b
y modd y mae ad-dalu’r ffioedd uwchlaw’r terfyn i fod i gael ei roi ar waith, neu y gall gael ei roi ar waith.
I924
Os yw CCAUC yn rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon, rhaid iddo—
a
rhoi copi o’r cyfarwyddyd i Weinidogion Cymru;
b
cyhoeddi’r cyfarwyddyd.
I69I965
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch sut a phryd y mae CCAUC i gydymffurfio ag is-adran (4).
I926
Mae “ffioedd uwchlaw’r terfyn” yn ffioedd cwrs rheoleiddiedig, i’r graddau y mae’r ffioedd hynny yn mynd uwchlaw’r terfyn ffioedd cymwys (fel y’i meintiolir at ddibenion y ddyletswydd o dan adran 10(1) y mae’r corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio â hi).
I12I97C312C3Darpariaeth atodol ynghylch cyfarwyddydau cydymffurfio ac ad-dalu
1
Caiff CCAUC ddyroddi canllawiau ynghylch y camau sydd i’w cymryd at y diben o gydymffurfio â chyfarwyddyd cydymffurfio ac ad-dalu.
2
Cyn dyroddi canllawiau o dan yr adran hon, rhaid i CCAUC ymgynghori â chorff llywodraethu pob sefydliad rheoleiddiedig; a chaiff ymgynghori â chorff llywodraethu unrhyw sefydliad arall o fewn adran 2(3) sy’n briodol yn ei farn ef.
3
Rhaid i gorff llywodraethu y mae cyfarwyddyd cydymffurfio ac ad-dalu wedi ei roi iddo, wrth gydymffurfio â’r cyfarwyddyd, ystyried unrhyw ganllawiau a ddyroddir o dan yr adran hon.
4
Am y ddarpariaeth weithdrefnol ynghylch cyfarwyddydau cydymffurfio ac ad-dalu, gweler adrannau 41 i 44.
Cydymffurfio â gofynion cyffredinol cynllun a gymeradwywyd
I13I14813Cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â gofynion cyffredinol cynllun a gymeradwywyd
1
Os yw’r amod yn is-adran (2) neu (3) wedi ei ddiwallu, caiff CCAUC roi cyfarwyddyd o fewn is-adran (4) i gorff llywodraethu sefydliad.
2
Yr amod yw bod CCAUC wedi ei fodloni—
a
bod methiant wedi bod gan y corff llywodraethu i gydymffurfio â gofyniad cyffredinol mewn cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â’r sefydliad, a
b
ar adeg y methiant, fod y cynllun ffioedd a mynediad wedi ei gymeradwyo o dan adran 7.
3
Yr amod yw bod CCAUC wedi ei fodloni bod y corff llywodraethu yn debygol o fethu â chydymffurfio â gofyniad cyffredinol yng nghynllun y sefydliad a gymeradwywyd.
4
Mae cyfarwyddyd o fewn yr is-adran hon yn gyfarwyddyd sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r corff llywodraethu gymryd (neu beidio â chymryd) camau penodedig at y diben o ymdrin â’r methiant i gydymffurfio neu atal methiant o’r fath.
5
Ond ni chaiff CCAUC roi cyfarwyddyd o dan yr adran hon os yw wedi ei fodloni bod y corff llywodraethu wedi cymryd pob cam rhesymol i gydymffurfio â’r gofyniad o dan sylw.
6
Am y ddarpariaeth weithdrefnol ynghylch cyfarwyddydau o dan yr adran hon, gweler adrannau 41 i 44.
Contractau
I14I98C314C3Dilysrwydd contractau
1
Mae’r adran hon yn gymwys i gontract sy’n darparu ar gyfer talu ffioedd cwrs rheoleiddiedig i sefydliad, gan berson cymhwysol ac mewn cysylltiad â’r person yn ymgymryd â chwrs cymhwysol, sydd uwchlaw’r terfyn ffioedd cymwys.
2
At ddibenion unrhyw hawliau a rhwymedigaethau sy’n codi o dan y contract, ac unrhyw drafodion mewn cysylltiad â’r hawliau a’r rhwymedigaethau hynny, mae’r contract i’w drin fel pe bai’n darparu ar gyfer talu ffioedd mewn swm sy’n gyfatebol i’r terfyn ffioedd cymwys.
3
Ac eithrio fel y darperir yn is-adran (2), nid yw’r contract yn ddi-rym nac yn anorfodadwy o ganlyniad i ddarparu ar gyfer talu ffioedd sydd uwchlaw’r terfyn ffioedd cymwys.
Cynlluniau a gymeradwywyd: cydymffurfedd ac effeithiolrwydd
I1515C3Dyletswydd CCAUC i fonitro a gwerthuso cydymffurfedd ac effeithiolrwydd
1
Rhaid i CCAUC—
I99a
monitro cydymffurfedd ag adran 10(1);
b
monitro cydymffurfedd â gofynion cyffredinol cynlluniau a gymeradwywyd;
c
gwerthuso effeithiolrwydd pob cynllun a gymeradwywyd;
d
gwerthuso effeithiolrwydd cynlluniau a gymeradwywyd yn gyffredinol.
2
At ddibenion yr adran hon, effeithiolrwydd cynllun a gymeradwywyd yw ei effeithiolrwydd o ran hybu—
a
cyfle cyfartal, a
b
addysg uwch.
I1616C3Monitro a gwerthuso cydymffurfedd ac effeithiolrwydd: dyletswydd i gydweithredu
1
Rhaid i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig sicrhau y darperir i CCAUC unrhyw wybodaeth, cymorth a mynediad i gyfleusterau’r sefydliad sy’n ofynnol yn rhesymol gan CCAUC at ddiben ei swyddogaethau o dan adran 15.
2
Os yw CCAUC wedi ei fodloni bod corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio ag is-adran (1), caiff ei gyfarwyddo i gymryd (neu i beidio â chymryd) camau penodedig at y diben o sicrhau’r ddarpariaeth o wybodaeth, cymorth neu fynediad fel y’i disgrifir yn ys is-adran honno.
C4RHAN 3ANSAWDD YR ADDYSG
Rhn. 3 addaswyd (1.9.2015) gan The Higher Education (Wales) Act 2015 (Consequential Provision) Order 2015 (O.S. 2015/1353), erglau. 1(2), 4(1)
Asesu ansawdd yr addysg
I17I100C417C4Asesu ansawdd yr addysg
C21
Rhaid i CCAUC asesu, neu wneud trefniadau ar gyfer asesu, ansawdd yr addysg a ddarperir yng Nghymru—
a
gan bob sefydliad rheoleiddiedig;
b
ar ran pob sefydliad rheoleiddiedig (pa un ai gan sefydliad rheoleiddiedig arall neu gan ddarparwr allanol).
2
At ddibenion is-adran (1), mae addysg a ddarperir y tu allan i Gymru i’w thrin fel pe bai wedi ei darparu yng Nghymru os y’i darperir fel rhan o gwrs a ddarperir yn bennaf yng Nghymru.
3
Yn y Ddeddf hon, mae cyfeiriadau at ddarparwr allanol yn gyfeiriadau at berson—
a
nad yw’n sefydliad rheoleiddiedig, ond
b
sy’n gyfrifol am ddarparu cwrs addysg cyfan, neu ran ohono, ar ran sefydliad rheoleiddiedig.
4
At ddibenion is-adran (3)(b)—
I70a
caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch yr amgylchiadau pan fo person i’w drin (neu nad yw i’w drin) fel person sy’n gyfrifol am ddarparu cwrs (neu ran ohono);
b
nid yw cwrs (neu ran ohono) i’w drin fel cwrs a ddarperir ar ran sefydliad rheoleiddiedig os y’i darperir o dan drefniadau gyda’r sefydliad hwnnw a wnaed cyn i’r adran hon ddod i rym.
Pwerau mewn cysylltiad ag addysg o ansawdd annigonol
I18I101C418C4Addysg o ansawdd annigonol: cyffredinol
1
Mae adrannau 19 ac 20 yn gymwys os, o ganlyniad i arfer ei swyddogaethau o dan adran 17, mae CCAUC wedi ei fodloni—
a
bod ansawdd yr addysg a ddarperir gan neu ar ran sefydliad rheoleiddiedig, neu
b
bod ansawdd cwrs addysg penodol a ddarperir felly,
yn annigonol neu’n debygol o ddod yn annigonol.
2
At ddibenion y Ddeddf hon, mae ansawdd yr addysg neu gwrs addysg yn annigonol os nad yw’n ddigonol i ddiwallu anghenion rhesymol y rhai hynny sy’n cael yr addysg neu sy’n ymgymryd â’r cwrs.
I19I102C419C4Cyfarwyddydau mewn cysylltiad ag ansawdd annigonol
1
Caiff CCAUC roi cyfarwyddyd i gorff llywodraethu’r sefydliad sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gymryd (neu beidio â chymryd) camau penodedig at y diben o—
a
gwella ansawdd yr addysg neu’r cwrs, neu
b
atal ansawdd yr addysg neu’r cwrs rhag dod yn annigonol.
2
Am y ddarpariaeth weithdrefnol ynghylch cyfarwyddydau o dan yr adran hon, gweler adrannau 41 i 44.
I20I103C420C4Mesurau eraill mewn cysylltiad ag ansawdd annigonol
1
Caiff CCAUC roi cyngor neu gymorth i gorff llywodraethu’r sefydliad gyda golwg ar—
a
gwella ansawdd yr addysg neu’r cwrs, neu
b
atal ansawdd yr addysg neu’r cwrs rhag dod yn annigonol.
2
Caiff CCAUC gynnal, neu drefnu i berson arall gynnal, adolygiad o unrhyw faterion y mae o’r farn eu bod yn berthnasol i ansawdd yr addysg a ddarperir gan neu ar ran y sefydliad.
3
Rhaid i gorff llywodraeth ystyried unrhyw gyngor a roddir iddo o dan is-adran (1).
Cydweithredu o ran asesu ansawdd etc
I21I104C421C4Asesu ansawdd etc: dyletswydd i gydweithredu
1
Rhaid i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig sicrhau y darperir i berson sy’n arfer swyddogaeth yn rhinwedd adran 17 neu 20 unrhyw wybodaeth, cymorth a mynediad i gyfleusterau’r sefydliad sy’n ofynnol yn rhesymol gan y person at y diben o arfer y swyddogaeth (gan gynnwys y diben o arfer unrhyw bŵer o dan adran 22).
2
Rhaid i gorff llywodraethu darparwr allanol sicrhau y darperir i berson sy’n arfer swyddogaeth yn rhinwedd adran 17 neu 20(2) unrhyw wybodaeth, cymorth a mynediad i gyfleusterau’r darparwr allanol ag sy’n ofynnol yn rhesymol gan y person at y diben o arfer y swyddogaeth (gan gynnwys y diben o arfer unrhyw bŵer o dan adran 22).
3
Os yw CCAUC wedi ei fodloni bod corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio ag is-adran (1) neu (2), caiff ei gyfarwyddo i gymryd (neu i beidio â chymryd) camau penodedig at y diben o sicrhau’r ddarpariaeth o wybodaeth, cymorth neu fynediad fel y’i disgrifir yn is-adran (1) neu (2) (fel y bo’n briodol).
Pwerau atodol at y diben o asesu ansawdd etc
I22I105C422C4Asesu ansawdd etc: pwerau mynd i mewn ac arolygu
1
At y diben o arfer swyddogaeth yn rhinwedd adran 17 neu 20(2), caiff person awdurdodedig—
a
mynd i mewn i fangre sefydliad rheoleiddiedig neu ddarparwr allanol;
b
edrych ar ddogfennau y daw o hyd iddynt yn y fangre, eu copïo neu eu cymryd.
2
Yn is-adran (1)(b), mae cyfeiriadau at—
a
dogfennau yn cynnwys gwybodaeth wedi ei chofnodi ar unrhyw ffurf;
b
dogfennau y daw o hyd iddynt yn y fangre yn cynnwys—
i
dogfennau sydd wedi eu storio ar gyfrifiaduron neu ar ddyfeisiau storio electronig yn y fangre, a
ii
dogfennau sydd wedi eu storio mewn man arall ond gellir cael mynediad iddynt drwy gyfrifiaduron yn y fangre.
3
Mae’r pŵer a roddir gan is-adran (1)(b) yn cynnwys pŵer—
a
i’w gwneud yn ofynnol i berson ddarparu dogfennau;
b
i osod gofynion o ran sut y darperir dogfennau (a gaiff gynnwys gofynion i ddarparu copïau darllenadwy o ddogfennau sydd wedi eu storio’n electronig);
c
i edrych ar gyfrifiadur y mae dogfennau wedi eu creu neu eu storio arno neu ar ddyfais storio electronig y mae dogfennau wedi eu creu neu eu storio arni.
4
Ni chaniateir i bŵer a roddir gan yr adran hon ond gael ei arfer ar ôl rhoi hysbysiad rhesymol—
a
i gorff llywodraethu’r sefydliad rheoleiddiedig neu ddarparwr allanol y mae’r person awdurdodedig yn bwriadu arfer y pŵer mewn perthynas â’i fangre, a
b
corff llywodraethu unrhyw sefydliad rheoleiddiedig y mae’r sefydliad hwnnw neu’r darparwr allanol hwnnw yn darparu ar ei ran yr addysg y mae arfer y swyddogaeth o dan adran 17 neu 20(2) yn ymwneud â hi.
5
Nid yw is-adran (4) yn gymwys i arfer pŵer os yw’r person awdurdodedig wedi ei fodloni—
a
bod yr achos yn achos brys, neu
b
y byddai cydymffurfio â’r is-adran honno yn tanseilio’r diben o arfer y pŵer.
6
Yn yr adran hon, ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan CCAUC (pa un ai yn gyffredinol neu’n benodol) i arfer y pwerau a roddir gan yr adran hon.
7
Cyn arfer pŵer o dan yr adran hon, rhaid i berson awdurdodedig, os yw’n ofynnol iddo wneud hynny, ddangos copi o awdurdodiad y person o dan is-adran (6).
8
O ran y pwerau a roddir gan yr adran hon—
a
caniateir iddynt gael eu harfer ar adegau rhesymol yn unig;
b
ni chaniateir iddynt gael eu harfer i’w gwneud yn ofynnol i berson wneud unrhyw beth ac eithrio ar adeg sy’n rhesymol.
9
Nid yw’r pwerau a roddir gan yr adran hon yn cynnwys pŵer i fynd i mewn i annedd heb gytundeb y meddiannydd.
Canllawiau sy’n ymwneud ag ansawdd yr addysg
I23I106C423C4Canllawiau ynghylch materion sy’n berthnasol i ansawdd
1
Caiff CCAUC ddyroddi neu gymeradwyo canllawiau ynghylch unrhyw fater sy’n berthnasol yn ei farn ef i wella neu gynnal ansawdd yr addysg a ddarperir gan neu ar ran sefydliadau rheoleiddiedig.
2
Cyn dyroddi neu gymeradwyo canllawiau o dan yr adran hon (neu unrhyw ganllawiau diwygiedig), rhaid i CCAUC ymgynghori â’r canlynol—
a
corff llywodraethu pob sefydliad rheoleiddiedig, a
b
unrhyw bersonau eraill sy’n briodol yn ei farn ef.
3
Rhaid i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig ystyried unrhyw ganllawiau a ddyroddir neu a gymeradwyir o dan yr adran hon.
I24I107C424C4Canllawiau ynghylch meini prawf ar gyfer asesu ansawdd
1
Caiff CCAUC ddyroddi neu gymeradwyo canllawiau ynghylch—
a
y meini prawf sydd i’w cymhwyso gan berson sy’n arfer swyddogaeth yn rhinwedd adran 17 wrth asesu ansawdd yr addysg;
b
y materion y bydd CCAUC yn eu hystyried wrth benderfynu a yw ansawdd yr addysg, neu gwrs addysg, yn annigonol neu’n debygol o ddod yn annigonol.
2
Cyn dyroddi neu gymeradwyo canllawiau o dan yr adran hon (neu unrhyw ganllawiau diwygiedig), rhaid i CCAUC ymgynghori â’r canlynol—
a
corff llywodraethu pob sefydliad rheoleiddiedig, a
b
unrhyw bersonau eraill sy’n briodol yn ei farn ef.
Cyngor i CCAUC ynghylch swyddogaethau asesu ansawdd
I25I108C425C4Pwyllgor i gynghori CCAUC ynghylch arfer swyddogaethau asesu ansawdd
1
Rhaid i CCAUC sefydlu pwyllgor i’w gynghori ar arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon.
2
Caiff CCAUC roi i’r pwyllgor unrhyw swyddogaethau eraill sy’n briodol yn ei farn ef.
3
Rhaid i un aelod o’r pwyllgor fod yn berson yr ymddengys i CCAUC ei fod yn cynrychioli buddiannau personau y darperir addysg uwch yng Nghymru iddynt.
4
O ran aelodau eraill y pwyllgor—
a
rhaid i fwyafrif fod yn bersonau nad ydynt yn aelodau o CCAUC;
b
rhaid i fwyafrif fod yn bersonau yr ymddengys i CCAUC fod ganddynt brofiad o ddarparu addysg uwch neu eu bod wedi dangos galluedd o ran darparu addysg uwch.
5
Wrth benodi personau o fewn is-adran (4)(b) i’r pwyllgor, rhaid i CCAUC ystyried dymunoldeb penodi personau sydd ar hyn o bryd yn ymwneud â darparu addysg uwch neu ag ymgymryd â chyfrifoldeb am ei darparu.
6
Mae Atodlen 1 i Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 yn gymwys o ran y pwyllgor fel y mae’n gymwys o ran pwyllgor a sefydlir gan CCAUC o dan baragraff 8 o’r Atodlen honno.
Atodol
I26I14726Cymhwyso’r Rhan hon pan fo sefydliad yn peidio â chael cynllun a gymeradwywyd
1
Mae’r adran hon yn gymwys—
a
pan fo cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â sefydliad yn peidio â bod mewn grym, a
b
pan na fo cynllun ffioedd a mynediad newydd mewn grym mewn perthynas â’r sefydliad.
2
Mae’r Rhan hon yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas ag addysg a ddarperir gan neu ar ran y sefydliad drwy gwrs dynodedig.
3
At ddibenion cymhwyso’r Rhan hon yn rhinwedd is-adran (2), mae’r sefydliad i’w drin fel sefydliad rheoleiddiedig.
4
Mae cwrs dynodedig yn gwrs sydd wedi ei ddynodi at ddibenion adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan yr adran honno.
RHAN 4MATERION ARIANNOL SEFYDLIADAU RHEOLEIDDIEDIG
Cod rheolaeth ariannol
I2727Dyletswydd CCAUC i lunio a chyhoeddi Cod
I821
Rhaid i CCAUC lunio a chyhoeddi cod sy’n ymwneud â threfnu a rheoli materion ariannol sefydliadau rheoleiddiedig (y cyfeirir ato yn y Ddeddf hon fel “y Cod”).
I832
Caiff y Cod wneud darpariaeth ynghylch y materion a ganlyn (ymhlith materion eraill)—
a
yr amgylchiadau pan fo sefydliad rheoleiddiedig i ymrwymo i drafodiad o ddosbarth a bennir yn y Cod gyda chydsyniad CCAUC yn unig;
b
trefniadau cyfrifyddu ac archwilio sefydliadau rheoleiddiedig;
c
darparu gwybodaeth i CCAUC.
I833
Caiff darpariaeth yn y Cod fod ar ffurf gofyniad neu ganllawiau.
4
Rhaid i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig—
a
cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir gan y Cod;
b
ystyried unrhyw ganllawiau sydd yn y Cod.
5
Caiff CCAUC gyhoeddi’r Cod ym mha ffordd bynnag sy’n briodol yn ei farn ef.
6
Rhaid i CCAUC—
a
adolygu’r Cod yn gyson, a
b
llunio a chyhoeddi Cod diwygiedig, os yw hynny’n briodol yn ei farn ef.
I837
Caiff y Cod wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol (gan gynnwys ar gyfer sefydliadau gwahanol a disgrifiadau gwahanol o sefydliad).
I838
At ddibenion y Rhan hon, nid yw’r Brifysgol Agored i’w thrin fel sefydliad rheoleiddiedig.
I1099
Yn adrannau 28, 29 a 30, ystyr “y Cod cyntaf” yw’r Cod cyntaf i’w gyhoeddi o dan yr adran hon.
I28I11028Y weithdrefn ar gyfer cymeradwyo Cod gan Weinidogion Cymru
1
Cyn cyhoeddi’r Cod cyntaf neu God diwygiedig, rhaid i CCAUC—
a
llunio drafft o’r Cod cyntaf neu’r Cod diwygiedig, a
b
cyflwyno’r drafft i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo.
2
Wrth lunio drafft o’r Cod cyntaf neu o God diwygiedig, rhaid i CCAUC ymgynghori â’r canlynol—
a
corff llywodraethu pob sefydliad rheoleiddiedig, a
b
unrhyw bersonau eraill sy’n briodol yn ei farn ef.
3
Rhaid i ddrafft a gyflwynir i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon gynnwys gydag ef adroddiad—
a
sy’n nodi’r rhesymau dros delerau’r drafft, a
b
sy’n rhoi manylion yr ymgynghoriad a gynhaliwyd o dan is-adran (2) ac yn crynhoi’r sylwadau a gafodd CCAUC yn ystod yr ymgynghoriad.
4
Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo CCAUC i gyflwyno drafft o’r Cod cyntaf neu o God diwygiedig iddynt o dan yr adran hon cyn diwedd cyfnod a bennir yn y cyfarwyddyd.
5
Rhaid i CCAUC gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir o dan is-adran (4).
I29I11129Y weithdrefn os na chymeradwyir Cod drafft gan Weinidogion Cymru
1
Mae’r adran hon yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo drafft o’r Cod cyntaf, neu o God diwygiedig, a gyflwynir iddynt o dan adran 28.
2
Rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad i CCAUC ynghylch y penderfyniad a’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.
3
Os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad i CCAUC o dan is-adran (2) eu bod wedi penderfynu peidio â chymeradwyo drafft o’r Cod cyntaf, rhaid i CCAUC gyflwyno drafft pellach o’r Cod cyntaf i Weinidogion Cymru.
4
Os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad i CCAUC o dan is-adran (2) eu bod wedi penderfynu peidio â chymeradwyo drafft o God diwygiedig, rhaid i CCAUC naill ai—
a
cyflwyno drafft pellach o’r Cod diwygiedig i Weinidogion Cymru, neu
b
rhoi hysbysiad i Weinidogion Cymru—
i
yn datgan bod CCAUC wedi penderfynu peidio â pharhau â’r gwaith o ddiwygio’r Cod, a
ii
yn nodi’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.
5
Caiff hysbysiad o dan is-adran (2) bennu cyfnod y mae rhaid, cyn diwedd y cyfnod hwnnw, i CCAUC gydymffurfio ag is-adran (3) neu (4) (fel y bo’n briodol).
6
Cyn cyflwyno drafft pellach o’r Cod cyntaf neu o God diwygiedig i Weinidogion Cymru, rhaid i CCAUC gynnal unrhyw ymgynghoriad pellach sy’n briodol yn ei farn ef.
7
Rhaid i ddrafft pellach a gyflwynir i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon gynnwys gydag ef adroddiad—
a
sy’n esbonio sut y mae CCAUC, wrth lunio’r drafft, wedi ystyried y rhesymau a nodwyd yn yr hysbysiad a roddwyd gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (2),
b
sy’n nodi rhesymau CCAUC dros delerau’r drafft, ac
c
sy’n rhoi manylion unrhyw ymgynghoriad a gynhaliwyd o dan is-adran (6) mewn perthynas â’r drafft ac yn crynhoi’r sylwadau a gafodd CCAUC yn ystod yr ymgynghoriad.
8
Mae is-adrannau (2) i (7) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo drafft a gyflwynir iddynt o dan yr adran hon fel y maent yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo drafft a gyflwynir iddynt o dan adran 28.
I3030Y weithdrefn os cymeradwyir Cod drafft gan Weinidogion Cymru
1
Os yw Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo drafft o’r Cod cyntaf neu o God diwygiedig a gyflwynir iddynt o dan adran 28 neu 29, rhaid iddynt osod y drafft a gymeradwywyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
2
Os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r drafft o fewn y cyfnod o 40 niwrnod—
a
ni chaiff CCAUC gyhoeddi’r drafft;
b
os drafft o’r Cod cyntaf yw’r drafft, rhaid i CCAUC gyflwyno drafft pellach o’r Cod cyntaf i Weinidogion Cymru;
c
os drafft o God diwygiedig yw’r drafft, caiff CCAUC gyflwyno drafft pellach o God diwygiedig i Weinidogion Cymru.
3
Cyn cyflwyno drafft pellach o’r Cod cyntaf neu o God diwygiedig i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon, rhaid i CCAUC gynnal unrhyw ymgynghoriad pellach sy’n briodol yn ei farn ef.
4
Rhaid i ddrafft pellach a gyflwynir i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon gynnwys gydag ef adroddiad—
a
sy’n nodi rhesymau CCAUC dros delerau’r drafft, a
b
sy’n rhoi manylion unrhyw ymgynghoriad a gynhaliwyd o dan is-adran (3) mewn perthynas â’r drafft ac yn crynhoi’r sylwadau a gafodd CCAUC yn ystod yr ymgynghoriad.
5
Y “cyfnod o 40 niwrnod” yw’r cyfnod o 40 niwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y gosodir y drafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
6
Wrth gyfrifo’r cyfnod o 40 niwrnod, nid yw unrhyw gyfnod pan fo Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei ddiddymu neu pan fo ar doriad am fwy na phedwar diwrnod i’w ystyried.
7
Os na chaiff penderfyniad ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o fewn y cyfnod o 40 niwrnod fel a grybwyllir yn is-adran (2), rhaid i CCAUC gyhoeddi’r Cod yn nhelerau’r drafft a gymeradwywyd.
8
Os cyflwynir drafft pellach i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon—
a
mae is-adrannau (1) i (7) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo’r drafft fel y maent yn gymwys os ydynt yn cymeradwyo drafft a gyflwynir iddynt o dan adran 28 neu 29;
b
mae adran 29 yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r drafft fel y mae’n gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo drafft a gyflwynir iddynt o dan adran 28.
Monitro cydymffurfedd â’r Cod
I31I14631Monitro cydymffurfedd â’r Cod
Rhaid i CCAUC fonitro, neu wneud trefniadau ar gyfer monitro, cydymffurfedd gan bob sefydliad rheoleiddiedig â’r gofynion a osodir gan y Cod.
Pwerau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r Cod
I32I14532Methiant i gydymffurfio â’r Cod: cyffredinol
Mae adrannau 33 a 34 yn gymwys os yw CCAUC wedi ei fodloni bod corff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig wedi methu, neu’n debygol o fethu, â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan y Cod.
I33I14433Cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r Cod
1
Caiff CCAUC roi cyfarwyddyd i’r corff llywodraethu sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gymryd (neu beidio â chymryd) camau penodedig at y diben o ymdrin â’r methiant i gydymffurfio neu atal methiant o’r fath.
2
Am y ddarpariaeth weithdrefnol ynghylch cyfarwyddydau o dan yr adran hon, gweler adrannau 41 i 44.
I34I14334Mesurau eraill mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r Cod
1
Caiff CCAUC roi cyngor neu gymorth i’r corff llywodraethu gyda golwg ar wella trefniadaeth neu reolaeth materion ariannol y sefydliad.
2
Caiff CCAUC gynnal, neu drefnu i berson arall gynnal, adolygiad o unrhyw faterion y mae o’r farn eu bod yn berthnasol i gydymffurfedd y sefydliad â’r Cod.
3
Rhaid i gorff llywodraethu ystyried unrhyw gyngor a roddir iddo o dan is-adran (1).
Cydweithredu o ran monitro etc
I35I14235Rheolaeth ariannol: dyletswydd i gydweithredu
1
Rhaid i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig sicrhau y darperir i berson sy’n arfer swyddogaeth yn rhinwedd adran 31 neu 34 unrhyw wybodaeth, cymorth a mynediad i gyfleusterau’r sefydliad sy’n ofynnol yn rhesymol gan y person at y diben o arfer y swyddogaeth (gan gynnwys y diben o arfer unrhyw bŵer o dan adran 36).
2
Os yw CCAUC wedi ei fodloni bod corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio ag is-adran (1), caiff ei gyfarwyddo i gymryd (neu i beidio â chymryd) camau penodedig at y diben o sicrhau’r ddarpariaeth o wybodaeth, cymorth neu fynediad fel y’i disgrifir yn yr is-adran honno.
Pwerau atodol at y diben o fonitro etc
I36I14136Rheolaeth ariannol: pwerau mynd i mewn ac arolygu
1
At y diben o arfer swyddogaeth yn rhinwedd adran 31 neu 34(2), caiff person awdurdodedig—
a
mynd i mewn i fangre sefydliad rheoleiddiedig;
b
edrych ar ddogfennau y daw o hyd iddynt yn y fangre, eu copïo neu eu cymryd.
2
Yn is-adran (1)(b), mae cyfeiriadau at—
a
dogfennau yn cynnwys gwybodaeth wedi ei chofnodi ar unrhyw ffurf;
b
dogfennau y daw o hyd iddynt yn y fangre yn cynnwys—
i
dogfennau sydd wedi eu storio ar gyfrifiaduron neu ar ddyfeisiau storio electronig yn y fangre, a
ii
dogfennau sydd wedi eu storio mewn man arall ond gellir cael mynediad iddynt drwy gyfrifiaduron yn y fangre.
3
Mae’r pŵer a roddir gan is-adran (1)(b) yn cynnwys pŵer—
a
i’w gwneud yn ofynnol i berson ddarparu dogfennau;
b
i osod gofynion o ran sut y darperir dogfennau (a gaiff gynnwys gofynion i ddarparu copïau darllenadwy o ddogfennau sydd wedi eu storio’n electronig);
c
i edrych ar gyfrifiadur y mae dogfennau wedi eu creu neu eu storio arno neu ar ddyfais storio electronig y mae dogfennau wedi eu creu neu eu storio arni.
4
Ni chaniateir i bŵer a roddir gan yr adran hon ond gael ei arfer ar ôl rhoi hysbysiad rhesymol i gorff llywodraethu’r sefydliad rheoleiddiedig.
5
Nid yw is-adran (4) yn gymwys i arfer pŵer os yw’r person awdurdodedig wedi ei fodloni—
a
bod yr achos yn achos brys, neu
b
y byddai cydymffurfio â’r is-adran honno yn tanseilio’r diben o arfer y pŵer.
6
Yn yr adran hon, ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan CCAUC (pa un ai yn gyffredinol neu’n benodol) i arfer y pwerau a roddir gan yr adran hon.
7
Cyn arfer pŵer o dan yr adran hon, rhaid i berson awdurdodedig, os yw’n ofynnol iddo wneud hynny, ddangos copi o awdurdodiad y person o dan is-adran (6).
8
O ran y pwerau a roddir gan yr adran hon—
a
caniateir iddynt gael eu harfer ar adegau rhesymol yn unig;
b
ni chaniateir iddynt gael eu harfer i’w gwneud yn ofynnol i berson wneud unrhyw beth ac eithrio ar adeg sy’n rhesymol.
9
Nid yw’r pwerau a roddir gan yr adran hon yn cynnwys pŵer i fynd i mewn i annedd heb gytundeb y meddiannydd.
RHAN 5CYNLLUNIAU FFIOEDD A MYNEDIAD: TYNNU CYMERADWYAETH YN ÔL ETC
Gwrthod cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd
I3737Hysbysiad ynghylch gwrthod cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd
1
Os yw CCAUC wedi ei fodloni bod amod yn is-adran (3) wedi ei ddiwallu mewn cysylltiad â sefydliad rheoleiddiedig, caiff roi hysbysiad o dan yr adran hon i gorff llywodraethu’r sefydliad.
2
Mae hysbysiad o dan yr adran hon yn hysbysiad na fydd CCAUC yn cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd sy’n ymwneud â’r sefydliad cyn diwedd cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.
3
Yr amodau yw bod corff llywodraethu’r sefydliad wedi methu â chydymffurfio—
a
ag adran 10(1) (dyletswydd i sicrhau nad yw ffioedd cwrs rheoleiddiedig yn mynd uwchlaw’r terfyn ffioedd cymwys),
b
â gofyniad cyffredinol yng nghynllun y sefydliad a gymeradwywyd,
c
cyfarwyddyd o dan adran 13 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â gofynion cyffredinol cynllun a gymeradwywyd),
d
â chyfarwyddyd o dan adran 19 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad ag ansawdd annigonol), neu
e
â chyfarwyddyd o dan adran 33 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r Cod).
4
Nid yw corff llywodraethu i’w drin at ddibenion is-adran (3)(b) fel pe bai wedi methu â chydymffurfio â gofyniad cyffredinol mewn cynllun a gymeradwywyd os yw CCAUC wedi ei fodloni bod y corff llywodraethu wedi cymryd pob cam rhesymol i gydymffurfio â’r gofyniad.
5
Os yw CCAUC yn rhoi hysbysiad o dan yr adran hon i gorff llywodraethu sefydliad, ni chaiff CCAUC gymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad arfaethedig sy’n ymwneud â’r sefydliad cyn diwedd y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.
6
Pan fo CCAUC wedi rhoi hysbysiad o dan yr adran hon—
a
caiff dynnu’r hysbysiad yn ôl, a
b
os gwna hynny, mae’r cyfyngiad yn is-adran (5) yn peidio â bod yn gymwys.
I717
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—
a
y cyfnod y caniateir ei bennu mewn hysbysiad o dan yr adran hon;
b
y materion sydd i’w hystyried gan CCAUC wrth benderfynu pa un ai i roi hysbysiad o dan yr adran hon neu ei dynnu’n ôl;
c
y weithdrefn sydd i’w dilyn mewn cysylltiad â thynnu hysbysiad yn ôl.
8
Os yw corff llywodraethu sefydliad nad yw’n sefydliad rheoleiddiedig yn methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd o dan adran 13, mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â’r sefydliad hwnnw fel y mae’n gymwys mewn perthynas â sefydliad rheoleiddiedig.
9
Am y ddarpariaeth weithdrefnol ynghylch hysbysiad o dan yr adran hon, gweler adrannau 41 i 44.
Tynnu cymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad presennol yn ôl
I3838Dyletswydd i dynnu cymeradwyaeth yn ôl
1
Os yw CCAUC wedi ei fodloni nad yw sefydliad rheoleiddiedig bellach o fewn adran 2(3), rhaid iddo dynnu’n ôl ei gymeradwyaeth i’r cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â’r sefydliad drwy roi hysbysiad o dan yr adran hon i gorff llywodraethu’r sefydliad.
I722
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—
a
y materion sydd i’w hystyried gan CCAUC wrth wneud penderfyniad at ddibenion yr adran hon;
b
y weithdrefn sydd i’w dilyn mewn cysylltiad â rhoi hysbysiad o dan yr adran hon.
I1383
Caiff rheoliadau sy’n gwneud darpariaeth fel y’i disgrifir yn is-adran (2)(b) (ymhlith pethau eraill) ddiwygio neu gymhwyso, gydag addasiadau neu hebddynt, unrhyw ddarpariaeth a wneir gan neu o dan adrannau 41 i 44.
I3939Pŵer i dynnu cymeradwyaeth yn ôl
1
Os yw CCAUC wedi ei fodloni bod amod yn is-adran (2) wedi ei ddiwallu mewn cysylltiad â sefydliad rheoleiddiedig, caiff dynnu’n ôl ei gymeradwyaeth i’r cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â’r sefydliad drwy roi hysbysiad o dan yr adran hon i gorff llywodraethu’r sefydliad.
2
Yr amodau yw—
a
bod corff llywodraethu’r sefydliad wedi methu’n fynych â chydymffurfio ag adran 10(1) (dyletswydd i sicrhau nad yw ffioedd cwrs rheoleiddiedig yn mynd uwchlaw’r terfyn ffioedd cymwys) neu wedi methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd cydymffurfio ac ad-dalu,
b
bod y corff llywodraethu wedi methu’n fynych â chydymffurfio â gofynion cyffredinol cynllun y sefydliad a gymeradwywyd neu wedi methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd o dan adran 13 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â gofynion cyffredinol cynllun a gymeradwywyd),
c
bod ansawdd yr addysg a ddarperir gan neu ar ran y sefydliad yn ddifrifol o annigonol, neu
d
bod methiant difrifol wedi bod gan gorff llywodraethu’r sefydliad i gydymffurfio â’r Cod.
3
Nid yw corff llywodraethu i’w drin at ddibenion is-adran (2)(b) fel be bai wedi methu â chydymffurfio â gofyniad cyffredinol mewn cynllun a gymeradwywyd os yw CCAUC wedi ei fodloni bod y corff llywodraethu wedi cymryd pob cam rhesymol i gydymffurfio â’r gofyniad.
I734
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch y materion sydd i’w hystyried gan CCAUC wrth benderfynu pa un ai i roi hysbysiad o dan yr adran hon.
5
Am y ddarpariaeth weithdrefnol ynghylch hysbysiad o dan yr adran hon, gweler adrannau 41 i 44.
Cyhoeddi etc hysbysiad o dan y Rhan hon
I4040Cyhoeddi etc hysbysiad o dan y Rhan hon
1
Os yw CCAUC yn rhoi hysbysiad o dan adran 37, 38 neu 39, rhaid iddo—
a
rhoi copi o’r hysbysiad i Weinidogion Cymru, a
b
cyhoeddi’r hysbysiad.
I742
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch sut a phryd y mae CCAUC i gydymffurfio ag is-adran (1).
RHAN 6HYSBYSIADAU A CHYFARWYDDYDAU A RODDIR GAN CCAUC
Y weithdrefn rhybuddio ac adolygu ar gyfer hysbysiadau a chyfarwyddydau penodol
I4141Cymhwyso adrannau 42 i 44
1
Mae adrannau 42 i 44 yn gymwys i—
I137a
hysbysiad o dan adran 7(1)(b) (gwrthod cynllun ffioedd a mynediad arfaethedig),
I112b
cyfarwyddyd cydymffurfio ac ad-dalu,
c
cyfarwyddyd o dan adran 13 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â gofynion cyffredinol cynllun a gymeradwywyd),
I112d
cyfarwyddyd o dan adran 19 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad ag ansawdd annigonol),
e
cyfarwyddyd o dan adran 33 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r Cod),
f
hysbysiad o dan adran 37 (gwrthod cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd), ac
g
hysbysiad o dan adran 39 (tynnu cymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad yn ôl).
I1122
Ond nid yw’r adrannau hynny yn gymwys i gyfarwyddyd nad yw’n darparu ond ar gyfer dirymu cyfarwyddyd cynharach (gweler adran 46).
I42C542Hysbysiadau a chyfarwyddydau arfaethedig: gofyniad i roi hysbysiad rhybuddio
I931
Os yw CCAUC yn bwriadu rhoi i gorff llywodraethu hysbysiad neu gyfarwyddyd y mae’r adran hon yn gymwys iddo, rhaid i CCAUC roi hysbysiad rhybuddio i’r corff llywodraethu.
2
Rhaid i’r hysbysiad rhybuddio—
I93a
nodi’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd arfaethedig;
I93b
datgan rhesymau CCAUC dros fwriadu ei roi;
I93c
hysbysu’r corff llywodraethu y caiff gyflwyno sylwadau am yr hysbysiad neu’r cyfarwyddyd arfaethedig;
I933
Wrth benderfynu pa un ai i roi’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd, rhaid i CCAUC ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y corff llywodraethu yn unol â’r hysbysiad rhybuddio.
I934
Os yw CCAUC, ar ôl ystyried y sylwadau hynny, yn penderfynu peidio â rhoi’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd, rhaid iddo roi hysbysiad am y penderfyniad hwnnw i’r corff llywodraethu.
I43I126C543Gwybodaeth sydd i’w rhoi gyda hysbysiadau a chyfarwyddydau
Os yw CCAUC yn rhoi i gorff llywodraethu hysbysiad neu gyfarwyddyd y mae’r adran hon yn gymwys iddo, rhaid iddo ar yr un pryd roi i’r corff llywodraethu ddatganiad—
a
sy’n nodi rhesymau CCAUC dros roi’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd,
b
sy’n hysbysu’r corff llywodraethu y caiff wneud cais am adolygiad o’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd o dan adran 44, ac
I44C544Adolygu hysbysiadau a chyfarwyddydau
I1161
Os yw CCAUC yn rhoi i gorff llywodraethu hysbysiad neu gyfarwyddyd y mae’r adran hon yn gymwys iddo, caiff y corff llywodraethu (yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir fel y’i disgrifir yn is-adran (4)(a)) wneud cais am adolygiad o’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd.
I1162
Mae adolygiad i’w gynnal gan berson, neu banel o bersonau, a benodir gan Weinidogion Cymru; a chaiff Gweinidogion Cymru dalu tâl a lwfansau i bersonau a benodir o dan yr is-adran hon.
I77I1153
Rhaid i Weinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth mewn cysylltiad ag adolygiadau o dan yr adran hon.
I77I1154
Caiff y rheoliadau, ymhlith pethau eraill, wneud darpariaeth—
a
ynghylch y seiliau y caniateir i gais am adolygiad gael ei wneud arnynt;
b
ynghylch y cyfnod y caniateir i gais gael ei wneud ynddo a’r ffordd y caniateir gwneud hynny;
c
ynghylch y weithdrefn sydd i’w dilyn gan berson neu banel sy’n cynnal adolygiad;
d
ynghylch y camau sydd i’w cymryd gan CCAUC yn dilyn adolygiad;
e
i hysbysiad neu gyfarwyddyd y mae’r adran hon yn gymwys iddo beidio â chael ei drin fel pe bai wedi ei roi hyd nes bod unrhyw gamau a bennir yn y rheoliadau wedi eu cymryd, neu hyd nes bod unrhyw gyfnod a bennir yn y rheoliadau wedi dod i ben.
Darpariaethau cyffredinol ynghylch cyfarwyddydau a roddir gan CCAUC
I45I11745Cyfarwyddydau: cydymffurfio a gorfodi
1
Os yw CCAUC yn rhoi cyfarwyddyd i gorff llywodraethu o dan y Ddeddf hon, rhaid i’r corff llywodraethu gydymffurfio â’r cyfarwyddyd.
2
Mae’r cyfarwyddyd yn orfodadwy drwy waharddeb yn dilyn cais gan CCAUC.
3
Os yw’r corff llywodraethu yn gofyn iddo wneud hynny, rhaid i CCAUC roi hysbysiad i’r corff llywodraethu sy’n datgan a yw wedi ei fodloni ei fod wedi cydymffurfio â’r cyfarwyddyd (neu â gofyniad penodol yn y cyfarwyddyd).
I46I11846Cyfarwyddydau: cyffredinol
O ran cyfarwyddyd a roddir gan CCAUC o dan y Ddeddf hon—
a
rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;
b
caniateir iddo gael ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach.
RHAN 7DARPARIAETH ATODOL YNGHYLCH SWYDDOGAETHAU CCAUC
Arfer swyddogaethau gan CCAUC
I47I8447Cydnawsedd â chyfraith elusennau a dogfennau llywodraethu sefydliadau
1
Nid oes dim byd yn y Ddeddf hon yn rhoi pŵer i CCAUC i’w gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu sefydliad wneud unrhyw beth sy’n anghydnaws—
a
ag unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol neu gyfyngiad cyfreithiol sy’n gymwys i’r corff llywodraethu yn rhinwedd bod y sefydliad yn elusen, neu
b
â dogfennau llywodraethu’r sefydliad.
2
At ddibenion is-adran (1)(b), dogfennau llywodraethu sefydliad yw—
a
yn achos sefydliad a sefydlwyd drwy siarter Frenhinol—
i
siarter y sefydliad, a
ii
unrhyw offeryn sy’n ymwneud â rhedeg y sefydliad, y mae’n ofynnol cael cymeradwyaeth y Cyfrin Gyngor er mwyn gwneud neu ddiwygio’r offeryn hwnnw;
b
yn achos sefydliad sy’n cael ei redeg gan gorfforaeth addysg uwch, offeryn llywodraethu’r gorfforaeth ac erthyglau llywodraethu’r sefydliad;
c
yn achos sefydliad sy’n cael ei redeg gan gorfforaeth addysg bellach, offeryn llywodraethu’r gorfforaeth a’i herthyglau llywodraethu;
d
yn achos sefydliad a ddynodwyd o dan adran 129 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 neu adran 28 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, offeryn llywodraethu’r sefydliad a’i erthyglau llywodraethu;
e
yn achos sefydliad nad yw’n dod o fewn paragraffau (a) i (d) sy’n cael ei redeg gan gwmni, memorandwm y cwmni a’i erthyglau cymdeithasu.
I48I8548Dyletswydd i ystyried pwysigrwydd diogelu rhyddid academaidd
Wrth arfer swyddogaethau yn rhinwedd y Ddeddf hon, rhaid i CCAUC ystyried pwysigrwydd diogelu rhyddid academaidd gan gynnwys, yn benodol, rhyddid sefydliadau—
a
i benderfynu ar gynnwys cyrsiau penodol a’r dull o’u haddysgu, eu goruchwylio neu eu hasesu,
b
i benderfynu ar y meini prawf ar gyfer derbyn myfyrwyr ac i gymhwyso’r meini prawf hynny mewn achosion penodol, ac
c
i benderfynu ar y meini prawf ar gyfer dethol a phenodi staff academaidd ac i gymhwyso’r meini prawf hynny mewn achosion penodol.
I49I8649Dyletswydd i ystyried canllawiau Gweinidogion Cymru
Wrth arfer swyddogaethau yn rhinwedd y Ddeddf hon, rhaid i CCAUC ystyried unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.
Adroddiadau sydd i’w llunio gan CCAUC
I50I14050Adroddiadau blynyddol
1
Cyn gynted â phosibl ar ôl diwedd pob cyfnod adrodd, rhaid i CCAUC gyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru ar sut, yn ystod y cyfnod, y mae CCAUC wedi arfer ei swyddogaethau yn rhinwedd y Ddeddf hon.
2
Cyn gynted â phosibl ar ôl cael adroddiad o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o’r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
3
Rhaid i’r adroddiad gydymffurfio ag unrhyw ofynion y caiff Gweinidogion Cymru eu pennu drwy gyfarwyddyd i CCAUC.
4
Caiff y gofynion hynny gynnwys gofynion o ran ffurf a chynnwys yr adroddiad.
5
At ddibenion yr adran hon y cyfnod adrodd cyntaf yw’r cyfnod—
a
sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r adran hon i rym, a
b
sy’n dod i ben ar ba ddiwrnod bynnag yw’r cynharach o flwyddyn ar ôl y diwrnod hwnnw, a diwrnod a bennir gan CCAUC mewn hysbysiad a roddir i Weinidogion Cymru.
6
Y cyfnodau adrodd dilynol yw pob cyfnod olynol o 12 mis.
7
Caiff Gweinidogion Cymru drwy gyfarwyddyd bennu gofynion y mae hysbysiad a roddir fel y’i disgrifir yn is-adran (5) i gydymffurfio â hwy (gan gynnwys o ran ffurf a chynnwys, a’r adeg y mae i’w roi); ac nid yw’r hysbysiad i’w drin fel pe bai wedi ei roi at ddibenion is-adran (5) oni bai ei fod yn cydymffurfio â’r gofynion hynny.
I5151Adroddiadau arbennig
1
Rhaid i CCAUC, os y’i cyfarwyddir i wneud hynny gan Weinidogion Cymru, adrodd i Weinidogion Cymru ar unrhyw un neu ragor o’r canlynol—
I119a
cydymffurfedd ag adran 10(1) gan sefydliadau o fewn adran 10(2) yn gyffredinol neu gan sefydliad penodol;
b
cydymffurfedd â gofynion cyffredinol cynlluniau a gymeradwywyd yn gyffredinol, neu â gofynion cyffredinol cynllun penodol a gymeradwywyd;
c
effeithiolrwydd cynlluniau a gymeradwywyd yn gyffredinol, neu effeithiolrwydd cynllun penodol a gymeradwywyd, wrth hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch;
d
unrhyw faterion eraill a bennir yn y cyfarwyddyd sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal neu hybu addysg uwch;
I119e
ansawdd yr addysg a ddarperir gan neu ar ran sefydliadau rheoleiddiedig yn gyffredinol, neu ansawdd yr addysg a ddarperir gan neu ar ran sefydliad rheoleiddiedig penodol;
f
cydymffurfedd gan sefydliadau rheoleiddiedig yn gyffredinol, neu gan sefydliad rheoleiddiedig penodol, â gofynion y Cod.
I1192
Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (1) bennu—
a
ffurf a chynnwys adroddiad a wneir at ddibenion yr adran hon;
b
pryd y mae’r adroddiad i’w wneud.
Gwybodaeth arall etc sydd i’w rhoi gan CCAUC
I5252Datganiad mewn cysylltiad â swyddogaethau ymyrryd
I87I120I1391
Rhaid i CCAUC lunio a chyhoeddi datganiad sy’n nodi sut y mae’n bwriadu arfer ei swyddogaethau ymyrryd.
I1212
O ran CCAUC—
a
rhaid iddo adolygu’r datganiad yn gyson;
b
caiff ei ddiwygio.
I1213
Cyn cyhoeddi’r datganiad neu ddatganiad diwygiedig, rhaid i CCAUC ymgynghori â’r canlynol—
a
corff llywodraethu pob sefydliad rheoleiddiedig, a
b
unrhyw bersonau eraill sy’n briodol yn ei farn ef.
I784
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—
a
llunio’r datganiad (gan gynnwys o ran ei ffurf a’i gynnwys);
b
ei gyhoeddi;
c
yr ymgynghoriad sydd i’w gynnal o dan is-adran (3).
I885
Swyddogaethau ymyrryd CCAUC yw ei swyddogaethau o dan y darpariaethau a ganlyn—
a
adran 11 (cyfarwyddydau cydymffurfio ac ad-dalu);
b
adran 13 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â gofynion cyffredinol cynllun a gymeradwywyd);
c
adran 19 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad ag ansawdd annigonol);
d
adran 20(1) a (2) (mesurau eraill mewn cysylltiad ag ansawdd annigonol);
e
adran 33 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r Cod);
f
adran 34(1) a (2) (mesurau eraill mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r Cod);
g
adran 37 (gwrthod cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd);
h
adrannau 38 a 39 (tynnu cymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad presennol yn ôl).
I53I12253Gwybodaeth a chyngor sydd i’w rhoi gan CCAUC i Weinidogion Cymru
1
Rhaid i CCAUC, os y’i cyfarwyddir i wneud hynny gan Weinidogion Cymru, roi i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth a chyngor sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru.
2
Caiff CCAUC roi i Weinidogion Cymru wybodaeth a chyngor arall sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch.
I5454Gwybodaeth a chyngor arall
I1231
Caiff CCAUC—
a
adnabod arfer da sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch, a
b
rhoi gwybodaeth a chyngor ynghylch yr arfer hwnnw i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig, neu i gyrff llywodraethu sefydliadau rheoleiddiedig yn gyffredinol.
2
Wrth arfer ei swyddogaethau, mae corff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig i ystyried unrhyw wybodaeth neu gyngor a roddir gan CCAUC iddo ef, neu i gyrff llywodraethu yn gyffredinol, o dan is-adran (1)(b).
I893
Caiff CCAUC ddarparu unrhyw wybodaeth a chyngor arall sy’n briodol yn ei farn ef gan roi sylw i’w swyddogaethau a swyddogaethau sefydliadau rheoleiddiedig (ymhlith pethau eraill).
I894
Caiff yr wybodaeth a’r cyngor hynny (ymhlith pethau eraill) ymwneud â’r canlynol—
a
pwerau a dyletswyddau sefydliadau rheoleiddiedig;
b
trefnu a rheoli materion ariannol sefydliadau rheoleiddiedig;
c
effaith cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad.
RHAN 8CYFFREDINOL
I5555Rheoliadau
1
Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.
2
Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer—
a
i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol;
b
i wneud darpariaeth gysylltiedig, atodol, ganlyniadol, drosiannol, ddarfodol neu arbed.
3
Ni chaniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys (ar ei ben ei hun neu gyda darpariaeth arall) reoliadau o fewn is-adran (4) gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.
4
Y rheoliadau o fewn yr is-adran hon yw—
a
y rheoliadau cyntaf sydd i’w gwneud o dan adran 2(4);
b
rheoliadau o dan adran 3(4);
c
rheoliadau o dan adran 4(3);
d
y rheoliadau cyntaf sydd i’w gwneud o dan adran 5(3);
e
rheoliadau o dan adran 6(1);
f
rheoliadau o dan adran 7(3);
g
rheoliadau o dan adran 13;
h
rheoliadau o dan adran 38(2) sy’n diwygio darpariaeth yn y Ddeddf hon;
i
rheoliadau o dan adran 58 sy’n diwygio neu’n diddymu darpariaeth mewn—
i
Deddf Seneddol, neu
ii
Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
5
Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
I5656Cyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru
O ran cyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf hon—
a
rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;
b
caniateir iddo gael ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach.
I5757Dehongli
1
Yn y Ddeddf hon—
ystyr “addysg uwch” (“higher education”) yw addysg a ddarperir drwy gwrs o unrhyw ddisgrifiad a grybwyllir yn Atodlen 6 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988;
mae i “annigonol” (“inadequate”), mewn perthynas ag ansawdd addysg neu gwrs, yr ystyr a roddir yn adran 18;
ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw cyfnod o 12 mis;
mae i “blwyddyn academaidd berthnasol” (“relevant academic year”), mewn perthynas â sefydliad y mae cynllun ffioedd a mynediad yn ymwneud ag ef, yr ystyr a roddir yn adran 5;
ystyr “CCAUC” (“HEFCW”) yw Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru;
mae “corff llywodraethu” (“governing body”) i’w ddehongli fel a ganlyn—
- a
mewn perthynas â darparwr hyfforddiant na fyddai, oni bai am yr adran hon, yn cael ei ystyried yn sefydliad, ei ystyr yw unrhyw bersonau sy’n gyfrifol am reoli’r darparwr;
- b
mewn perthynas â darparwr a ddynodir o dan adran 3, ei ystyr yw unrhyw bersonau sy’n gyfrifol am reoli’r darparwr;
- c
mewn perthynas ag unrhyw sefydliad arall, mae iddo’r ystyr a roddir i “governing body” gan adran 90(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, ond yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir yn rhinwedd adran 90(2) o’r Ddeddf honno;
- d
mewn perthynas â darparwr allanol nad yw’n sefydliad, ei ystyr yw unrhyw bersonau sy’n gyfrifol am reoli’r darparwr;
- a
ystyr “cwrs cymhwysol” (“qualifying course”) yw cwrs a ragnodir o dan adran 5;
mae i “cyfarwyddyd cydymffurfio ac ad-dalu” (“compliance and reimbursement direction”) yr ystyr a roddir yn adran 11;
ystyr “cyfle cyfartal” (“equality of opportunity”) yw cyfle cyfartal mewn cysylltiad â mynediad i addysg uwch;
mae i “cynllun a gymeradwywyd” (“approved plan”) yr ystyr a roddir yn adran 7;
mae i “cynllun ffioedd a mynediad” (“fee and access plan”) yr ystyr a roddir yn adran 2;
mae i “darparwr allanol” (“external provider”) yr ystyr a roddir yn adran 17;
ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw darpariaeth sydd wedi ei chynnwys mewn unrhyw un neu ragor o’r canlynol—
- a
Deddf Seneddol;
- b
Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
- c
is-ddeddfwriaeth o fewn ystyr “subordinate legislation” yn Neddf Dehongli 1978 (gan gynnwys is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan Ddeddf Seneddol neu o dan Fesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru);
- a
ystyr “ffioedd” (“fees”) yw ffioedd ar gyfer neu fel arall mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs, gan gynnwys ffioedd derbyn, cofrestru, dysgu a graddio, a ffioedd sy’n daladwy i sefydliad am ddyfarnu neu achredu unrhyw ran o’r cwrs, ond ac eithrio—
- a
ffioedd sy’n daladwy am fwyd neu lety;
- b
ffioedd sy’n daladwy am wibdeithiau mae (gan gynnwys unrhyw elfen ddysgu o’r ffioedd hynny);
- c
ffioedd sy’n daladwy am fod yn bresennol mewn unrhyw seremoni raddio neu seremoni arall;
- d
unrhyw ffioedd eraill a ragnodir at ddibenion yr adran hon;
- a
mae i “ffioedd cwrs rheoleiddiedig“ (“regulated course fees”) yr ystyr a roddir yn adran 10;
mae i “ffioedd uwchlaw’r terfyn” (“excess fees”) yr ystyr a roddir yn adran 11;
mae “gofynion cyffredinol” (“general requirements”) mewn perthynas â chynllun a gymeradwywyd, i’w ddarllen yn unol ag adran 6;
ystyr “hysbysiad” (“notice”) yw hysbysiad ysgrifenedig;
mae i “person cymhwysol” (“qualifying person”) yr ystyr a roddir yn adran 5;
ystyr “rhagnodedig” ac ”a ragnodir” (“prescribed”) yw rhagnodedig drwy reoliadau;
ystyr “rheoliadau” (“regulations”) yw rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;
mae “sefydliad” (“institution”) yn cynnwys unrhyw ddarparwr hyfforddiant (pa un a fyddai’r darparwr hyfforddiant fel arall yn cael ei ystyried yn sefydliad ai peidio);
mae i “sefydliad rheoleiddiedig” (“regulated institution”) yr ystyr a roddir yn adran 7;
mae i “terfyn ffioedd” (“fee limit”) yr ystyr a roddir yn adran 5;
mae i “terfyn ffioedd cymwys” (“applicable fee limit”) yr ystyr a roddir yn adran 10.
2
Yn is-adran (1), ystyr “darparwr hyfforddiant” yw person sy’n darparu hyfforddiant i aelodau o weithlu’r ysgol (o fewn yr ystyr a roddir i “member of the school workforce” gan adran 100 o Ddeddf Addysg 2005).
3
At ddibenion y Ddeddf hon, mae cyfeiriadau at sefydliad yng Nghymru—
a
yn gyfeiriadau at sefydliad y mae ei weithgareddau yn cael eu cynnal yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru, a
b
yn cynnwys y Brifysgol Agored.
I5858Darpariaeth ganlyniadol a throsiannol etc
I1241
Am fân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol, gweler Rhan 1 o’r Atodlen.
I79I90I1252
Am ddarpariaethau trosiannol, gweler Rhan 2 o’r Atodlen.
I583
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud—
a
unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, atodol neu ganlyniadol, neu
b
unrhyw ddarpariaeth drosiannol, ddarfodol neu arbed,
sy’n briodol yn eu barn hwy o ganlyniad i ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, neu er mwyn rhoi effaith lawn i ddarpariaeth yn y Ddeddf hon.
I584
Mae’r ddarpariaeth y caniateir iddi gael ei gwneud drwy reoliadau o dan yr adran hon yn cynnwys darpariaeth sy’n diwygio, yn diddymu neu’n dirymu deddfiad.
I5959Cychwyn
1
Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol—
a
Rhan 1;
b
adran 55;
c
adran 56;
d
adran 57;
e
adran 58(3) a (4);
f
yr adran hon;
g
adran 60.
2
Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol.
3
Caiff gorchymyn o dan is-adran (2)—
a
pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol; a
b
gwneud darpariaeth drosiannol, ddarfodol neu arbed mewn cysylltiad â dyfodiad darpariaeth yn y Ddeddf hon i rym.
I6060Enw byr etc
1
Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015.
2
Mae’r Ddeddf hon i’w chynnwys yn y rhestr o Ddeddfau Addysg a nodir yn adran 578 o Ddeddf Addysg 1996.
Rhn. 2 addaswyd (1.9.2015) gan The Higher Education (Wales) Act 2015 (Consequential Provision) Order 2015 (O.S. 2015/1353), erglau. 1(2), 3