RHAN 2DIGARTREFEDD

PENNOD 2CYMORTH I BOBL SY’N DDIGARTREF NEU O DAN FYGYTHIAD O DDIGARTREFEDD

Cyffredinol

98Canllawiau

(1)

Wrth arfer ei swyddogaethau yn ymwneud â digartrefedd rhaid i gyngor sir neu fwrdeistref sirol roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(2)

Mae is-adran (1) yn gymwys mewn perthynas â swyddogaethau o dan y Rhan hon ac unrhyw ddeddfiad arall.

(3)

Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)

rhoi canllawiau naill ai yn gyffredinol neu i awdurdodau o ddisgrifiadau penodedig;

(b)

diwygio’r canllawiau drwy roi canllawiau pellach o dan y Rhan hon;

(c)

tynnu’r canllawiau yn ôl drwy roi canllawiau pellach o dan y Rhan hon neu drwy hysbysiad.

(4)

Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw ganllawiau neu hysbysiad o dan y Rhan hon.