(1)Rhaid i gyngor sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru wneud trefniadau i hybu cydweithredu rhwng swyddogion yr awdurdod sy’n arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol a’r rhai hynny sy’n arfer ei swyddogaethau fel yr awdurdod tai lleol gyda’r nod o gyflawni’r amcanion canlynol yn ei ardal—
(a)atal digartrefedd,
(b)bod llety addas ar gael neu y bydd ar gael ar gyfer pobl sy’n ddigartref neu y gallent ddod yn ddigartref,
(c)bod cefnogaeth foddhaol ar gael i bobl sy’n ddigartref neu y gallent ddod yn ddigartref, a
(d)arfer ei swyddogaethau yn effeithiol o dan y Rhan hon.
(2)Os yw awdurdod tai lleol yn gofyn am gydweithrediad person a grybwyllir yn is-adran (5) wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon, rhaid i’r person gydymffurfio â’r cais oni bai bod y person yn ystyried y byddai gwneud hynny—
(a)yn anghydnaws â dyletswyddau’r person ei hun, neu
(b)yn cael effaith andwyol fel arall ar arfer swyddogaethau’r person.
(3)Os yw awdurdod tai lleol yn gofyn i berson a grybwyllir yn is-adran (5) ddarparu gwybodaeth iddo sy’n ofynnol ganddo er mwyn arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau o dan y Rhan hon, rhaid i’r person gydymffurfio â’r cais oni bai bod y person yn ystyried y byddai gwneud hynny—
(a)yn anghydnaws â dyletswyddau’r person ei hun, neu
(b)yn cael effaith andwyol fel arall ar arfer swyddogaethau’r person.
(4)Rhaid i berson sy’n penderfynu peidio â chydymffurfio â chais o dan is-adran (2) neu (3) roi rhesymau ysgrifenedig dros y penderfyniad i’r awdurdod tai lleol a wnaeth y cais.
(5)Y personau (pa un a ydynt yng Nghymru neu yn Lloegr) yw—
(a)awdurdod tai lleol;
(b)awdurdod gwasanaethau cymdeithasol;
(c)landlord cymdeithasol cofrestredig;
(d)corfforaeth tref newydd;
(e)darparwr tai cymdeithasol preifat cofrestredig;
(f)ymddiriedolaeth gweithredu tai.
(6)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-adran (5) drwy orchymyn er mwyn hepgor neu ychwanegu person, neu ddisgrifiad o berson.
(7)Ni chaiff gorchymyn o dan is-adran (6) ychwanegu un neu ragor o Weinidogion y Goron.
(8)Yn yr adran hon—
mae i “corfforaeth tref newydd” yr un ystyr a roddir i “new town corporation” gan Rhan 1 o Ddeddf Tai 1985;
mae i “darparwr tai cymdeithasol preifat cofrestredig” yr un ystyr a roddir i “private registered provider of social housing” gan Rhan 2 o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008;
mae i “landlord cymdeithasol cofrestredig” yr un ystyr a roddir i “registered social landlord” gan Rhan 1 o Ddeddf Tai 1996;
ystyr “ymddiriedolaeth gweithredu tai” (“housing action trust”) yw ymddiriedolaeth gweithredu tai a sefydlwyd dan Rhan 3 o Ddeddf Tai 1988.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 95 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I2A. 95 mewn grym ar 1.12.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(b), Atod. Rhn. 2
I3A. 95 mewn grym ar 27.4.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1272, ergl. 2, Atod. para. 46