RHAN 2DIGARTREFEDD

PENNOD 2CYMORTH I BOBL SY’N DDIGARTREF NEU O DAN FYGYTHIAD O DDIGARTREFEDD

Darpariaethau atodol

95Cydweithredu

(1)

Rhaid i gyngor sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru wneud trefniadau i hybu cydweithredu rhwng swyddogion yr awdurdod sy’n arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol a’r rhai hynny sy’n arfer ei swyddogaethau fel yr awdurdod tai lleol gyda’r nod o gyflawni’r amcanion canlynol yn ei ardal—

(a)

atal digartrefedd,

(b)

bod llety addas ar gael neu y bydd ar gael ar gyfer pobl sy’n ddigartref neu y gallent ddod yn ddigartref,

(c)

bod cefnogaeth foddhaol ar gael i bobl sy’n ddigartref neu y gallent ddod yn ddigartref, a

(d)

arfer ei swyddogaethau yn effeithiol o dan y Rhan hon.

(2)

Os yw awdurdod tai lleol yn gofyn am gydweithrediad person a grybwyllir yn is-adran (5) wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon, rhaid i’r person gydymffurfio â’r cais oni bai bod y person yn ystyried y byddai gwneud hynny—

(a)

yn anghydnaws â dyletswyddau’r person ei hun, neu

(b)

yn cael effaith andwyol fel arall ar arfer swyddogaethau’r person.

(3)

Os yw awdurdod tai lleol yn gofyn i berson a grybwyllir yn is-adran (5) ddarparu gwybodaeth iddo sy’n ofynnol ganddo er mwyn arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau o dan y Rhan hon, rhaid i’r person gydymffurfio â’r cais oni bai bod y person yn ystyried y byddai gwneud hynny—

(a)

yn anghydnaws â dyletswyddau’r person ei hun, neu

(b)

yn cael effaith andwyol fel arall ar arfer swyddogaethau’r person.

(4)

Rhaid i berson sy’n penderfynu peidio â chydymffurfio â chais o dan is-adran (2) neu (3) roi rhesymau ysgrifenedig dros y penderfyniad i’r awdurdod tai lleol a wnaeth y cais.

(5)

Y personau (pa un a ydynt yng Nghymru neu yn Lloegr) yw—

(a)

awdurdod tai lleol;

(b)

awdurdod gwasanaethau cymdeithasol;

(c)

landlord cymdeithasol cofrestredig;

(d)

corfforaeth tref newydd;

(e)

darparwr tai cymdeithasol preifat cofrestredig;

(f)

ymddiriedolaeth gweithredu tai.

(6)

Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-adran (5) drwy orchymyn er mwyn hepgor neu ychwanegu person, neu ddisgrifiad o berson.

(7)

Ni chaiff gorchymyn o dan is-adran (6) ychwanegu un neu ragor o Weinidogion y Goron.

(8)

Yn yr adran hon—

mae i “corfforaeth tref newydd” yr un ystyr a roddir i “new town corporation” gan Rhan 1 o Ddeddf Tai 1985;

mae i “darparwr tai cymdeithasol preifat cofrestredig” yr un ystyr a roddir i “private registered provider of social housing” gan Rhan 2 o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008;

mae i “landlord cymdeithasol cofrestredig” yr un ystyr a roddir i “registered social landlord” gan Rhan 1 o Ddeddf Tai 1996;

ystyr “ymddiriedolaeth gweithredu tai” (“housing action trust”) yw ymddiriedolaeth gweithredu tai a sefydlwyd dan Rhan 3 o Ddeddf Tai 1988.