RHAN 2DIGARTREFEDD

PENNOD 2CYMORTH I BOBL SY’N DDIGARTREF NEU O DAN FYGYTHIAD O DDIGARTREFEDD

Darpariaethau atodol

93Gwarchod eiddo

(1)Pan fo awdurdod tai lleol wedi dod yn ddarostyngedig i ddyletswydd mewn perthynas â cheisydd fel a ddisgrifir yn is-adran (2), rhaid iddo gymryd camau rhesymol i atal colli eiddo personol y ceisydd neu i atal neu liniaru niwed iddo os oes gan yr awdurdod reswm i gredu—

(a)bod perygl y gallai’r eiddo gael ei golli neu ei niweidio o ganlyniad i anallu’r ceisydd i’w warchod neu i ymdrin ag ef, a

(b)nad oes unrhyw drefniadau addas eraill wedi eu gwneud neu’n cael eu gwneud.

(2)Y dyletswyddau mewn perthynas â cheisydd yw—

  • adran 66 (dyletswydd i gynorthwyo i atal ceisydd rhag dod yn ddigartref) yn achos ceisydd mewn angen blaenoriaethol);

  • adran 68 ( dyletswydd interim i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref mewn angen blaenoriaethol);

  • adran 75 (dyletswydd i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr mewn angen blaenoriaethol pan fo’r ddyletswydd yn adran 73 yn dod i ben);

  • adran 82 (dyletswyddau i geisydd y mae ei achos yn cael ei ystyried ar gyfer ei atgyfeirio neu’n cael ei atgyfeirio) yn achos ceisydd mewn angen blaenoriaethol.

(3)Pan fo awdurdod tai lleol wedi dod yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd yn is-adran (1), mae’n parhau i fod yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd honno hyd yn oed os yw’r ddyletswydd mewn perthynas â’r ceisydd fel a ddisgrifir yn is-adran (2) yn dod i ben.

(4)Mae dyletswydd awdurdod tai lleol o dan is-adran (1) yn ddarostyngedig i’r cyfryw amodau ag y mae’n eu hystyried yn briodol yn yr achos neilltuol, a gaiff gynnwys amodau ynghylch—

(a)yr awdurdod yn codi ac yn adennill ffioedd rhesymol am y camau a gymerir, neu

(b)yr awdurdod yn gwaredu, o dan y cyfryw amgylchiadau y gellir eu pennu, eiddo y cymerir camau mewn perthynas ag ef.

(5)Caiff awdurdod tai lleol gymryd unrhyw gamau y mae’n eu hystyried yn rhesymol at ddiben gwarchod eiddo personol ceisydd sy’n gymwys i gael cymorth neu i atal neu liniaru niwed iddo os oes gan yr awdurdod reswm i gredu—

(a)bod perygl o golli’r eiddo, neu niwed i’r eiddo, o ganlyniad i anallu’r ceisydd i’w warchod neu i ymdrin ag ef, a

(b)nad oes unrhyw drefniadau addas eraill wedi eu gwneud neu’n cael eu gwneud.

(6)Mae’r cyfeiriadau yn yr adran hon at eiddo personol y ceisydd yn cynnwys eiddo personol unrhyw berson y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gyda’r ceisydd.