xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan benderfynir mewn adolygiad o dan adran 85(2) neu mewn apêl yn erbyn penderfyniad o dan yr adran honno na chafodd camau rhesymol eu cymryd.
(2)Mae’r ddyletswydd yn adran 73 yn gymwys i’r ceisydd eto, gyda’r addasiad bod y cyfnod o 56 o ddiwrnodau a grybwyllir yn is-adran (2) o adran 74 i’w ddehongli fel bod y cyfnod hwnnw’n dechrau ar y dyddiad y mae’r awdurdod yn hysbysu’r ceisydd am ei benderfyniad mewn adolygiad o dan adran 85(2) neu, mewn apêl, y cyfryw ddyddiad ag y caiff y llys ei orchymyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 87 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I2A. 87 mewn grym ar 27.4.2015 gan O.S. 2015/1272, ergl. 2, Atod. para. 38