xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CDIGARTREFEDD

PENNOD 2LL+CCYMORTH I BOBL SY’N DDIGARTREF NEU O DAN FYGYTHIAD O DDIGARTREFEDD

HysbysiadLL+C

84Hysbysiad bod dyletswyddau wedi dod i benLL+C

(1)Pan fo awdurdod tai lleol yn penderfynu bod ei ddyletswydd i geisydd o dan adran 66, 68, 73 neu 75 wedi dod i ben (gan gynnwys pan fo’r awdurdod wedi atgyfeirio achos y ceisydd at awdurdod arall neu wedi penderfynu bod yr amodau ar gyfer atgyfeirio yn cael eu bodloni), rhaid iddo hysbysu’r ceisydd—

(a)nad yw bellach yn ystyried ei fod yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd berthnasol,

(b)y rhesymau pam ei fod yn ystyried bod y ddyletswydd wedi dod i ben,

(c)am yr hawl i ofyn am adolygiad, a

(d)am y cyfnod amser y mae’n rhaid cyflwyno cais o’r fath ynddo.

(2)Pan fo hysbysiad o dan is-adran (1) yn ymwneud â’r ddyletswydd yn adran 73 yn dod i ben o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn adran 74(2) neu (3), rhaid iddo gynnwys hysbysiad am y camau a gymerwyd gan yr awdurdod tai lleol i gynorthwyo i sicrhau y byddai llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu.

(3)Rhaid i hysbysiad o dan yr adran hon fod ar ffurf ysgrifenedig.

(4)Pan nad yw ceisydd yn derbyn hysbysiad, caniateir trin ceisydd fel pe bai wedi ei hysbysu o dan yr adran hon os yw ar gael yn swyddfa’r awdurdod am gyfnod rhesymol i’w gasglu gan y ceisydd neu ar ran y ceisydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 84 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I2A. 84 mewn grym ar 27.4.2015 gan O.S. 2015/1272, ergl. 2, Atod. para. 35