78Penderfynu rhoi sylw i fwriadoldebLL+C
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, bennu categori neu gategorïau o geiswyr at ddibenion yr adran hon.
(2)Ni chaiff awdurdod tai lleol roi sylw i ba un a yw ceisydd wedi dod yn ddigartref yn fwriadol ai peidio at ddibenion adrannau 68 a 75 oni bai bod—
(a)y ceisydd yn dod o fewn categori a bennir o dan is-adran (1) y mae’r awdurdod wedi penderfynu, mewn perthynas â'r categori hwnnw, rhoi sylw i ba un a yw ceiswyr o fewn y categori hwnnw wedi dod yn ddigartref yn fwriadol ai peidio, a
(b)yr awdurdod wedi cyhoeddi hysbysiad am ei benderfyniad o dan baragraff (a) sy’n pennu’r categori hwnnw.
(3)Mae is-adran (4) yn gymwys pan fo awdurdod tai lleol wedi cyhoeddi hysbysiad o dan is-adran (2) oni bai bod yr awdurdod wedi—
(a)penderfynu rhoi’r gorau i roi sylw i ba un a yw ceiswyr sy’n dod o fewn y categori a bennir yn yr hysbysiad wedi dod yn ddigartref yn fwriadol ai peidio, a
(b)wedi cyhoeddi hysbysiad am ei benderfyniad sy’n pennu’r categori.
(4)At ddibenion adran 68 a 75, rhaid i awdurdod tai lleol roi sylw i ba un a yw ceisydd wedi dod yn ddigartref yn fwriadol ai peidio os yw’r ceisydd yn dod o fewn categori a bennir yn yr hysbysiad a gyhoeddwyd gan yr awdurdod o dan is-adran (2).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 78 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I2A. 78 mewn grym ar 1.12.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(b), Atod. Rhn. 2
I3A. 78 mewn grym ar 1.7.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1272, ergl. 3 (ynghyd ag ergl. 7)
I4A. 78(2) mewn grym ar 27.4.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1272, ergl. 2, Atod. para. 29