RHAN 2DIGARTREFEDD
PENNOD 2CYMORTH I BOBL SY’N DDIGARTREF NEU O DAN FYGYTHIAD O DDIGARTREFEDD
Dyletswyddau i gynorthwyo ceiswyr
76Amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd yn adran 75 yn dod i ben
(1)
Mae’r ddyletswydd i geisydd o dan adran 75(1) yn dod i ben o dan unrhyw un o’r amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adrannau (2), , (6) neu (7), os yw’r ceisydd wedi ei hysbysu yn unol ag adran 84.
(2)
Yr amgylchiadau yw bod y ceisydd yn derbyn—
(a)
cynnig o lety addas o dan Ran 6 o Ddeddf Tai 1996 (dyrannu tai), F1...
F2(aa)
cynnig o lety addas yng Nghymru o dan denantiaeth sy’n gontract meddiannaeth, neu
(b)
cynnig o lety addas F3(yn Lloegr) o dan denantiaeth sicr (gan gynnwys tenantiaeth fyrddaliol sicr).
(3)
Yr amgylchiadau yw bod y ceisydd, ar ôl derbyn hysbysiad ysgrifenedig am ganlyniadau posibl gwrthod neu dderbyn y cynnig, yn gwrthod—
(a)
cynnig o lety interim addas o dan adran 75,
(b)
cynnig sector rhentu preifat, neu
(c)
cynnig o lety o dan Ran 6 o Ddeddf Tai 1996,
y mae’r awdurdod yn fodlon ei fod yn addas ar gyfer y ceisydd.
(4)
At ddibenion yr adran hon mae cynnig yn gynnig sector rhentu preifat—
F4(a)
os yw’n gynnig o—
(i)
tenantiaeth sy’n gontract meddiannaeth a wneir gan landlord preifat i’r ceisydd mewn perthynas â llety yng Nghymru sydd ar gael i’r ceisydd ei feddiannu, neu
(ii)
tenantiaeth fyrddaliol sicr a wneir gan landlord preifat i’r ceisydd mewn perthynas ag unrhyw lety yn Lloegr sydd ar gael i’r ceisydd ei feddiannu,
(b)
os yw’n cael ei wneud, gyda chymeradwyaeth yr awdurdod, yn unol â threfniadau a wneir rhwng yr awdurdod a’r landlord gyda’r nod o ddod â dyletswydd yr awdurdod o dan adran 75 i ben, ac
(c)
F5mewn perthynas â llety yn Lloegr, mae’r denantiaeth sy’n cael ei chynnig yn denantiaeth cyfnod penodedig am gyfnod o 6 mis o leiaf.
(5)
Mewn achos cyfyngedig, rhaid i’r awdurdod tai lleol, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol gwneud hynny, ddwyn ei ddyletswydd i ben drwy sicrhau cynnig sector rhentu preifat; at y diben hwn, ystyr “achos cyfyngedig” yw achos pan na fyddai awdurdod tai lleol yn fodlon fel a grybwyllir yn adran 75(1) heb roi sylw i berson cyfyngedig (gweler adran 63(5)).
(6)
Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon bod y ceisydd wedi dod yn ddigartref yn fwriadol o lety interim addas y sicrhawyd ei fod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu—
(a)
o dan adran 68 ac y parheir i sicrhau ei fod ar gael o dan adran 75, neu
(b)
o dan adran 75.
(7)
Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon bod y ceisydd wedi rhoi’r gorau yn wirfoddol i feddiannu, fel ei brif neu ei unig gartref, llety interim addas y sicrhawyd ei fod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu—
(a)
o dan adran 68 ac y parheir i sicrhau ei fod ar gael o dan adran 75, neu
(b)
o dan adran 75.
(8)
Gweler adran 79 am amgylchiadau pellach pan fo’r ddyletswydd yn adran 75(1) yn dod i ben.
F6(9)
Yn yr adran hon—
mae i “contract meddiannaeth” (“occupation contract”) yr un ystyr ag yn Neddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (gweler adran 7 o’r Ddeddf honno);
mae i “tenantiaeth cyfnod penodedig” (“fixed term tenancy”) mewn perthynas â llety yn Lloegr yr ystyr a roddir i “fixed term tenancy” yn Rhan 1 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50).